Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu
Ardaloedd Agored a Golau sy’n Addas ar gyfer eich Ffordd Chi o Ddysgu
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ardaloedd agored, golau gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau a mannau astudio, sydd wedi’u creu er mwyn bod yn addas ar gyfer pob ffordd o ddysgu. Rydym yn cynnig casgliadau sydd wedi’u datblygu er mwyn adlewyrchu gwaith ymchwil ac addysgu’r adrannau academaidd, amrywiaeth helaeth o adnoddau electronig, a chymorth gan staff arbenigol.
Rydym yn cynnig casgliadau digidol ac argraffu, Rhestrau Adnoddau Ar-lein, hyfforddiant InfoSkills a Sgiliau Digidol, mannau dysgu, a chymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb gan ein staff gwybodus a chyfeillgar. Rydym yn gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Llyfrgell yn eich ysbrydoli, yn eich grymuso ac yn eich cefnogi i gyflawni eich nodau a’ch amcanion.​ Mae ein staff yma i helpu, boed hynny wyneb yn wyneb wrth y Ddesg Gymorth neu drwy e-bost, dros y ffôn, Twitter neu Facebook. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, felly cysylltwch â ni ar unwaith os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i wella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i chi.
Chwilio Ein Casgliadau
Ein Gwasanaethau Llyfrgell
Mae ein Casgliadau Arbennig yn cynnwys llyfrau printiedig, a llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol.
Ble i ddod o hyd i'n llyfrgelloedd a phryd byddan nhw ar agor. Mae ein horiau agor yn amrywio yn dibynnu ar adeg y tymor a lleoliad.​
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar-lein sy’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr.
Caiff myfyrwyr mewn sefydliadau partner fynediad i rai o’r e-adnoddau y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, pan ganiateir hynny dan gytundebau trwyddedu. Mae’r e-adnoddau hyn yn rhoi mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gylchgronau, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a rhagor.
Oriau Agor a Lleoliadau
Oriau Agor a Lleoliadau
Mae ein horiau agor yn amrywio yn dibynnu ar adeg y tymor a lleoliad.​ Mae darpariaeth llyfrgell ar gael at ddefnydd ein staff a’n myfyrwyr ar draws pob un o’n chwe champws.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gallwch ddod o hyd i leoliadau’r llyfrgelloedd, beth sydd gyda nhw i’w gynnig i chi, a phryd y gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaethau.​
Ydych chi eisoes yn rhan o’n cymuned?
Os ydych eisoes yn rhan o gymuned ein prifysgol, bydd y dolenni isod yn eich arwain at wybodaeth sy’n berthnasol i chi.​ Dewiswch gategori i archwilio’r gwasanaethau sydd ar gael i chi.
-
Mae adran y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn croesawu cynnig o roddion sy’n ategu ein casgliadau presennol ac sy’n cefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu ac ymchwil presennol y Brifysgol.​ Cysylltwch â ni cyn dod ag unrhyw ddeunydd i’r llyfrgell er mwyn i ni drafod eich cynnig a gwneud yn siŵr y bydd eich rhodd yn addas ar gyfer ein casgliad ac yn cyfoethogi ein hystod o adnoddau dysgu.
Oherwydd y gofod ac arbenigedd staff sydd eu hangen i gatalogio rhoddion ar gyfer eu darganfod, rydym yn asesu pob cynnig o ddeunydd ar sail ein Polisi Datblygu Casgliadau.​ Ein nod yw sicrhau bod deunydd sy’n cael ei roi yn dal yn gyfredol neu’n hanesyddol berthnasol i waith ymchwil y Brifysgol, nad oes copïau eraill eisoes yn ein casgliadau, a’i fod mewn cyflwr da i’n darllenwyr ei ddefnyddio.​
Os derbynnir eich rhodd, bydd yn dod yn eiddo i Lyfrgell y Brifysgol ac yn dod dan delerau ein Polisi Datblygu Casgliadau.
Sylwch, yn anffodus ni allwn dderbyn rhoddion digymell felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni cyn anfon unrhyw ddeunydd er mwyn osgoi siom.