ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Drew Dennehy - Pensaernïaeth (BSc Anrh)

Profiad Drew yn PCYDDS

Drew Dennehy, a young man with blond hair wearing a shirt and tie under a dress waistcoast, holds his BSc Architecture and smiles broadly; he's standing between three older men, all smiling, including Architecture programme director Ian Standen.

Enw: Drew Dennehy

Cwrs: µþ³§³¦&²Ô²ú²õ±è;±Ê±ð²Ô²õ²¹±ð°ù²Ôï²¹±ð³Ù³ó

Astudiaethau Blaenorol: City & Guilds plymio a gwresogi lefel 2; City & Guilds plymio a gwresogi lefel 3 

Tref eich cartref: Bridgwater

Profiad Drew ar BSc Pensaernïaeth

Mae Drew Dennehy yn mynd ar ei gwrcwd i weld ffrâm bren yn cris-croesi ei ddyluniad ar lefel y llygad.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Wrth astudio ar gampws IQ byddwn i’n dweud mai’r llyfrgell oedd fy hoff beth. Treuliais i lawer o amser yn edrych dros y cylchgronau pensaernïol y mae PCYDDS yn tanysgrifio iddyn nhw ac yn bodio llyfrau am ysbrydoliaeth i’m prosiectau. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Deuthum drwy’r llwybr prentisiaeth a chlywed am Y Drindod Dewi Sant drwy gyflogwr blaenorol. Cysylltais â’r Drindod Dewi Sant a rhoddodd gyfle i mi. Roedd y ffordd y cawsom ein dysgu yn wych a byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un.  

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Roedd y cwrs yn heriol, gan ofyn am lawer o’m hamser a’m hymdrech i gynhyrchu gwaith yr oeddwn yn falch ohono. Fodd bynnag, pan oeddwn yn neilltuo amser ar gyfer pethau eraill, roedd yn treulio amser gyda fflat-ddynion. Bowlio, mynd allan, BBQs ar y traeth - fe wnaethon ni fwynhau’r amser gawson ni drwy gydol y blynyddoedd gyda’n gilydd yn Y Drindod Dewi Sant.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Y bwriad yw symud i Gaeredin i ddechrau fy Rhan 2. Mae’n ddinas brydferth rwy wedi ei hoffi erioed, ond mae prinder swyddi yn yr Alban gyfan ar hyn o bryd felly rwy wedi fy agor fy hun i weithio lle bynnag y mae cyfle. Ond rydw i’n benderfynol o fynd ymlaen gyda fy nhaith mewn pensaernïaeth er mwyn i mi allu symud ymlaen at fy ngradd Meistr.

Beth oedd eich hoff beth am µþ³§³¦&²Ô²ú²õ±è;±Ê±ð²Ô²õ²¹±ð°ù²Ôï²¹±ð³Ù³ó?

Mae lefel yr amser 1 i 1 gyda darlithwyr yn rhywbeth na chafodd yr un o fy ffrindiau i brofiad mewn prifysgolion eraill. Mae lefel iach o gystadleuaeth lle mae pawb am gynhyrchu’r gwaith gorau y gallan nhw ond os bydd rhywun yn darganfod techneg newydd maen nhw’n dal i’w rhannu ymhlith eu cyfoedion, yn hytrach na’i chadw atyn nhw eu hunain.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae pawb wedi dod yn agos ac wedi dod i adnabod ein gilydd yn dda. Mae’n rhaid gweld sut mae pob un wedi datblygu yn unigol i fod yn un o’r uchafbwyntiau mwyaf i mi.

Mae grŵp o fyfyrwyr a staff naill ai'n sefyll neu'n eistedd a gwenu'n llawen ar gyfer llun grŵp; mae'r myfyrwyr wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur mewn gwisg nos; y tu ôl iddynt, gallwch chi weld arddangosiadau o gynlluniau pensaernïol.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Heb os, mae’r darlithwyr yn glod i’r cwrs ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer yn llawer mwy na phrifysgolion amgen. Rydyn ni’n astudio agweddau busnes a thechnegol dylunio yn ogystal â’r estheteg sy’n ein galluogi i gynnig rhagor i gyflogwyr nag y gallai myfyrwyr eraill ei wneud. 

Mae’r tiwtoriaid bob amser yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu’r cwrs a gwerthfawrogi adborth myfyrwyr. Roedd y darlithwyr hefyd yn hawdd eu cyrraedd yn bersonol a thros y ffôn.

Gwybodaeth Gysylltiedig