MASH-UP
Arddangosfa MA Deialogau Cyfoes
MASH-UP yw’r arddangosfa ryngddisgyblaethol sy’n dathlu gwaith datblygol y myfyrwyr MA Deialogau Cyfoes sy’n gweithio tuag at eu harddangosfa graddedigion derfynol sy’n agor ym mis Rhagfyr 2024.
Mae’r arddangosfa ‘gwaith ar y gweill’ hon, yn rhoi blas o’r arferion creadigol amrywiol sy’n cael eu harchwilio i’w datblygu ymhellach tuag at gyfnod cadarnhaol y rhaglen.
Mae’r gwaith a gyflwynir yn yr arddangosfa yn deillio o’r meysydd arbenigol MA Celf Gain, MA Crefftau Dylunio, MA Ffotograffiaeth, MA Darlunio, MA Dylunio Graffig, MA Gwydr, MA Patrymau Arwyneb, MA Dylunio Cynnyrch, MA Tecstilau a MA Delweddau Symudol.