ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle - Astudio ar Benwythnos (CertHE)

Llundain
1 Blynedd Llawn Amser

Bydd astudio ein Tystysgrif AU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yn Llundain yn rhoi cyfle i chi ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth wrth i chi ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy.  Mae’r radd hon wedi’i llunio er mwyn rhoi gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu dulliau rheoli a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu o’u mewn.

Bydd modylau’r rhaglen yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol. 

Bydd sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n cael eu hintegreiddio ar draws y modylau.

Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.

Er nad yw’n arbenigo mewn disgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth eang i chi yn y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn busnes a rheolaeth.

Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli.   Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn Amser

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o'r broses.
03
Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen wedi’i chreu’n benodol o ran ei chynnwys a’i darpariaeth hyblyg er mwyn rhoi i chi hyder i ragweld problemau a dod o hyd i ddatrysiadau, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill, i gynllunio pethau cyn dechrau arnynt a chwblhau’r pethau yr ydych wedi‘u dechrau; yn fyr, i ddatblygu’r sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau!

Mae’r holl addysgu wedi’i seilio ar brosiectau, gan gysylltu damcaniaeth ag arfer a sicrhau bod pob modwl yn cael ei roi mewn cyd-destun o fewn sefyllfaoedd a heriau go iawn yn y gweithle.

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • .

  • .

  • .

  • .

  • .

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau