Bwrsariaethau i Israddedigion
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Rydym ni’n deall bod cyllido’ch addysg yn rhan allweddol o’ch taith yn y brifysgol. P’un a ydych chi’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon, rydym ni yma i’ch cefnogi wrth i chi ymdopi ag agweddau ariannol ar eich astudiaethau.
Benthyciadau Myfyrwyr
Benthyciadau Myfyrwyr
Ble bynnag rydych chi’n byw, mae’r broses o wneud cais am gyllid myfyrwyr yn syml. Gallwch chi wneud cais ar-lein drwy’r awdurdod cyllid myfyrwyr sy’n berthnasol i’ch gwlad. Mae’n bwysig gwneud cais yn gynnar i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i chi gychwyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi gyda’ch cais am gyllid myfyrwyr, mae ein timau yma i helpu. Mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth a chyfarwyddyd drwy gydol y broses.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud addysg uwch yn hygyrch i’r holl fyfyrwyr, ac mae ein cymorth ar gyfer cyllid myfyrwyr yn un ffordd yn unig y byddwn ni’n ymdrechu i gyflawni hyn. Peidiwch â gadel i bryderon ariannol eich dal yn ôl rhag dilyn eich uchelgais academaidd – gwnewch gais am gyllid myfyrwyr heddiw a dechrau ar eich taith gyda ni.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy . Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu i dalu am gost ffioedd eich cwrs, yn ogystal â benthyciadau a grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma gipolwg ar beth allai fod ar gael i chi:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae’r benthyciadau hyn yn gallu talu am gost llawn eich ffioedd dysgu, er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb boeni am daliadau ymlaen llaw.
- Cymorth Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety, bwyd, a deunyddiau astudio, efallai byddwch chi’n gymwys am fenthyciadau a grantiau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Os ydych chi’n byw yn Lloegr, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy . Yn debyg i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, efallai bydd benthyciadau ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar gael i chi i dalu am eich costau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Yn debyg i Gymru, mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu astudio heb rwystrau ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda’ch costau byw, gallwch chi wneud cais am fenthyciadau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Gall myfyrwyr sy’n byw yn yr Alban gael cymorth ariannol drwy’r . Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cyllid ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Cyllid Ffioedd Dysgu: Efallai bydd myfyrwyr o’r Alban sy’n astudio yn PCYDDS yn gymwys am gyllid ffioedd dysgu i dalu am gostau ffioedd eu cwrs.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
Gall myfyrwyr sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon gael cymorth ariannol drwy . Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb bryderon ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
Bwrsariaethau i Israddedigion
Bwrsariaethau i Israddedigion
-
Bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol o ran adnoddau ac offer)
Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol, e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau drwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALLl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy ar ôl tair oed.
Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn 3 thaliad (un bob tymor) – 25%, 25% a 50%
Gwnewch Gais Nawr:
-
Bwrsariaeth dilyniant penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs israddedig, amser llawn yn PCYDDS yn syth wedi cwblhau cwrs lefel 3 (neu gyfatebol) yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion.
Swm y dyfarniad: Hyd at £500
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. copi o’r dystysgrif neu drawsgrifiad yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau’r cwrs yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion yn ystod y flwyddyn academaidd 2023–24.
Gwnewch gais Nawr: -
Bwrsariaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd ag anabledd, neu’n cael asesiad o anabledd, i helpu gydag unrhyw gostau yn ymwneud a’r anabledd hwnnw i hyrwyddo’i astudiaethau.
Meini Prawf Cymhwystra:
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr.
a/neu
Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
Offer arbenigol (pan nad yw myfyrwyr yn gymwys i gael y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Swm y Dyfarniad: Hyd at £700
Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd
Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.
Gwnewch Gais Nawr:
-
ar gyfer myfyrwyr dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni
Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18–25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw, neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy.
Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol.
Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn tair rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3.Gwnewch Gais Nawr:
-
Ar gyfer myfyrwyr Lefel 5 a 6 o gefndir BAME / Teithwyr sy’n dymuno gwneud gweithgaredd ymchwil neu berfformiad.
Meini Prawf Cymhwystra:
Bydd myfyrwyr cymwys yn nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar
- Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
- Grŵp Ethnig Arall
Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y fwrsariaeth hon.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £500 ar gyfer costau cynhadledd neu ymchwil (neu hyd at £250 tuag at gostau academaidd a theithio)
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall y gweithgareddau gynnwys: Mynychu neu gyflwyno mewn cynhadledd; Costau’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil neu sioe; Costau teithio a chostau academaidd.
Tystiolaeth: Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’r costau e.e Talebau ar gyfer offer academaidd, tocynnau teithio, ayyb.Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.
Gwnewch Gais Nawr:
-
Mae’n bosibl y gellid hepgor ffioedd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n astudio cwrs addysg uwch yn rhan-amser os ydyn nhw’n bodloni amodau penodol, gan ddibynnu ar bryd y dechreuwyd y cwrs.
Gallai ffioedd myfyrwyr sy’n astudio llai na 30 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon gael eu hepgor os ydyn nhw’n astudio gradd gyntaf, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu gwrs addysgu uwch arall â chredydau ac a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru).
Meini prawf cymhwysedd myfyrwyr
Mae’n rhaid i fyfyriwr fod wedi’i gofrestru ar gwrs cymwys yn ogystal â:
(i) chael ei ystyried yn gymwys i gael cyllid yn unol â’r diffiniad sydd yn arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch CCAUC (HESES)
(ii) byw yng Nghymru (byddai cyfeiriad yng Nghymru yn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddigonol mai Cymru yw eu cartref fel arfer).
yn ogystal â bodloni un neu fwy o’r amodau canlynol:
(a) bod y myfyriwr neu deulu’r myfyriwr yn derbyn:
- Credyd Cynhwysol neu un o’r cynlluniau blaenorol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
(b) bod y myfyriwr yn derbyn:
- Lwfans gofalwyr neu gredyd gofalwr
- Premiwm anabledd neu gymorth ariannol arall sy’n gysylltiedig ag anabledd
- Budd-dal profedigaeth
c) yn dod o grŵp sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch, megis:
- myfyrwyr o unrhyw oed ac ardal sydd yn nau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
- myfyrwyr o unrhyw oed sy’n dod o ardaloedd yn y DU lle nad oes llawer yn parhau at Addysg Uwch, a fesurir yn ôl y gyfran o oedolion oed gwaith oedd â chymwysterau AU yng nghyfrifiad 2011 (y ddau gwintel isaf)
- myfyrwyr o gefndir gofal neu fyfyrwyr sydd â phrofiad gofal • myfyrwyr ag anableddau • myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
- Myfyrwyr LGBTQ+
- ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu
- y rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
At ddibenion y maen prawf (a), mae’r diffiniad o “deulu” fel a ganlyn: cwpl sy’n briod, mewn partneriaeth sifil neu’n ddibriod ac sydd â phlant dibynnol, neu unig riant â phlant dibynnol.
Rhaid i fyfyrwyr cymwys fyw yng Nghymru.
Er mwyn gweld y manylion cymhwyso yn llawn, darllenwch y ddogfen hon:
Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes â gradd, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch israddedig arall sydd â chredyd ac a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster o’r un lefel neu lefel is yn gymwys i gael hepgoriad ffi. Nid yw cyrsiau heb gredydau a chyrsiau ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Nid ellir cael cyllid i ail-wneud cwrs neu unrhyw fodiwlau neu unedau o fewn cwrs o dan unrhyw amgylchiadau.
Dylech hefyd nodi bod y cynllun hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol gan CCAUC; gallai gael ei ddiddymu cyn y byddwch yn ennill eich cymhwyster yn llwyr.
Os hoffech wneud cais, dilynwch y ddolen hon i gael y ffurflen gais:
-
ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant
Myfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr
Myfyrwyr dros 25 oed sy’n Ofalwyr
Myfyrwyr sydd â phlant ac sydd angen help gyda chostau gofal plant
Lefelau bwrsariaethau:
Hyd at £500 i gefnogi costau gofal plant (mewn meithrinfa, crèche neu ofalwr plant cofrestredig yn y DU), pan na fydd cyllid gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.
neu
Hyd at £500 i gefnogi oedolion dibynnol, pan nad yw myfyriwr yn gymwys am y Grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.
neu
Hyd at £1000 i fyfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (y dystiolaeth angenrheidiol fydd llythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth Gofalwyr). Telir y fwrsariaeth hon mewn tri rhandaliad – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000
Gwybodaeth Ychwanegol: Dylai’r cais gynnwys tystiolaeth ategol.
Gwnewch Gais Nawr:
-
ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40
Bwrsariaeth i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys i gael y fwrsariaeth hon yn uniongyrchol.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £100
Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y fwrsariaeth unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y fwrsariaeth ym mis Mai.
Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y fwrsariaeth hon.
-
cymorth â chostau cefnogaeth llesiant
Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.
Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.
Rhagwelir y bydd y fwrsariaeth hon yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwnewch Gais Nawr:
-
Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi myfyrwyr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU. Mae’r fwrsariaeth hon yn darparu hepgoriad ffioedd dysgu a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer astudio.
Mae ceisiadau yn cael eu derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025–26 a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6pm ar 30 Mai 2025.
Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â’r meini prawf a nodwyd yn y telerau ac amodau.
Mae’r meini prawf yn cynnwys:
- Dal statws o’r rhestr a nodwyd uchod a
- Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn yn PCYDDS.
Bwrsariaeth Prifysgol Noddfa – Telerau ac Amodau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2025
Ffurflen gais:
-
Rhagoriaeth Academaidd Merched mewn STEM (hyd at £500)
Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr sy’n nodi eu hunain fel merched ac sydd wedi cofrestru ar raglen israddedig amser llawn mewn Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu neu Gadwraeth Amgylcheddol a fydd yn gymwys i’w hystyried.
Ffurflen gais:Bydd ceisadau’n cau ar ddydd Gwener 24ain Ionawr 2024
-
Cymorth â chostau datblygu gyrfa neu brofiad gwaith
Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £1000.
Award Amount: Up to £200 for CPD or up to £1,000 for internships
Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o £1000.
Bwriedir i’r Fwrsariaeth Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith o ran costau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.
Ymgeisiwch nawr:
-
cymorth â chosatu cwrs
Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs
Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copïau o dderbynebau fel prawf o’r costau
Gwnewch Gais Nawr:
-
am gymorth â dyfais neu gostau rhyngrwyd
Bwriad y fwrsariaeth Cysylltedd Digidol hon yw rhoi cymorth i fyfyrwyr cartref (sy’n gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr) nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a/neu ddarpariaeth rhyngrwyd ar gyfer eu hastudiaethau ac y mae cyllid yn rhwystr iddynt brynu eu dyfais eu hunain. Dyfernir y fwrsariaeth i fyfyrwyr sydd yn astudio yn eu semester cynfar yn PCYDDS cymwys sy’n ceisio cyfraniad ariannol tuag at gysylltedd digidol (hyd at £100) neu gostau dyfais a gysylltedd (hyd at £300).
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod myfyrwyr wedi cael eu cofrestru ar isafswm o 40 credyd ar gwrs PCYDDS a byddant yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Cyllid Myfyrwyr.
Bydd angen i fyfyrwyr sy’n derbyn yr uchafswm Cyllid Myfyrwyr ac sy’n dymuno derbyn cymorth drwy’r llwybr ymgeisio hwn:- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein
- Darparu copi o’u llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eu bod yn derbyn y lefel uchaf o gymorth ariannol.
Os ydych eisoes wedi prynu dyfais a/neu fand eang i gefnogi eich astudiaethau, a fyddech cystal â chynnwys prawf prynu hefyd.
Uchafswm y dyfarniad drwy’r fwrsariaeth hon yw £300.
NODER: Os nad ydych yn cael y cymorth ariannol mwyaf gan Gyllid Myfyrwyr mae gennych ddau lwybr amgen ar gyfer cymorth.
1) Os ydych eich wedi prynu dyfais eich hun gallwch wneud cais am hyd at £250 tuag at y gost trwy’r fwrsariaeth Costau Cwrs. Bydd angen i chi ddarparu copi o’r derbynneb ar gyfer eich pryniant.
2) Os na allwch fforddio prynu’ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am gymorth drwy’r fwrsariaeth hon ond gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch cais. Bydd angen i chi:- Darparu copi o’ch llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos lefel y cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn (dadansoddiad llawn gan gynnwys unrhyw hawl i grant gofal plant)
- Cwblhau ffurflen incwm a gwariant y byddwn yn ei hanfon atoch ar ôl derbyn y
cais ar-lein - Darparu mis o gyfriflenni banc cyfredol ar gyfer pob cyfrif a ddelir gan gynnwys balans cyfredol, gyda nodiadau i gadarnhau eich costau craidd.
Mae ceisiadau i’r Fwrsariaeth Cysylltedd Digidol bellach yn cael eu cyfyngu i fyfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen astudio ym mis Gorffennaf 2024 (neu’n hwyrach).
Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud i alluogi myfyrwyr sy’n cofrestru ym mhob tymor academaidd i gael mynediad at y fwrsariaeth ar ddechrau eu hastudiaethau.
Gall myfyrwyr cymwys sydd angen cymorth ariannol a gofrestrodd yn gynharach nag Ionawr 2024 wneud cais am gymorth drwy’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr neu’r Fwrsariaeth Costau Cyrsiau.Gwnewch Gais Nawr:
Sylwch nad yw unrhyw un o’n bwrsariaethau’n cael eu dyfarnu’n awtomatig ac mae’n rhaid i chi ddangos cymhwysedd ar gyfer pob bwrsariaeth y gwnewch gais amdano. -
cymorth â chostau graddio
Hyd at £100 i gynorthwyo graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni raddio.
Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen i chi:
- fod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu’r seremoni raddio
- bod wedi cadarnhau eich bod yn bwriadu mynychu seremoni raddio PCYDDS
- dangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau rhesymol yn ymwneud â graddio
Swm y Dyfarniad: Hyd at £100
Gwnewch Gais Nawr:
-
cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol
Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.
Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.
Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o’r costau a nodi cyfeiriad y lleoliad a phellter y siwrnai.
Gwnewch Gais Nawr:
-
cymorth â chostau semester o Astudio Dramor
Myfyrwyr israddedig amser llawn y DU/yr Undeb Ewropeaidd.
Swm y Dyfarniad: Hyd at £250
Dyddiad olaf i wneud cais: 30ain Hydref 2023 a 6ed Mawrth 2024
Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys copi o’r llythyr cynnig oddi wrth y Swyddfa Ryngwladol
Noder bod y fwrsariaeth hon yn cael ei thalu wedi i’r Swyddfa Ryngwladol gadarnhau bod y myfyriwr wedi cyrraedd y sefydliad partnerGwnewch Gais Nawr:
Mae pob Athrofa Academaidd yn y Brifysgol yn cynnig bwrsariaethau hyd at £500 i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn eu semester cyntaf yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn y Brifysgol. Mae dyfarniadau yn seiliedig ar gyflwyno datganiad personol ac mae’r meini prawf cymhwysedd fel a ganlyn:
- Mae’r myfyriwr naill ai’n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant o fwy na 2 flynedd, a/neu yw’r genhedlaeth gyntaf o’i deulu i gael mynediad i Addysg Uwch.
- Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cais ysgrifenedig i’r cwestiwn: ‘Mae gan addysg uwch y pŵer i drawsnewid. Disgrifiwch eich gobeithion a’ch disgwyliadau ar gyfer eich profiad dysgu yn PCYDDS’.
Ffurflen gais:
Bydd ceisadau’n cau ar ddydd Gwener 24ain Ionawr 2024
-
ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg
Myfyrwyr sydd un ai’n astudio eu rhaglen gyfan trwy’r Gymraeg neu’n rhannol trwy’r Gymraeg.
Rhoddir y fwrsariaeth hon i fyfyrwyr sy’n astudio unai trwy’r Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n yn rhannol.
£50 am bob 10 credyd a gwblheir drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog. (Rhaid i’r modiwlau fod o leiaf 50% yn ddwyieithog a rhaid iddynt fod â chod C).Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu hyd at £1200 i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd dwy flynedd llwybr cyflym)
Gwybodaeth Ychwanegol: Sylwch na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys i gael £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon, ond fe allan nhw wneud cais am y gwahaniaeth rhwng y ddwy wobr os ydynt yn astudio mwy na 100 credyd mewn blwyddyn academaidd.
Dyfernir y fwrsariaeth ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl byrddau arholi terfynol y flwyddyn academaidd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29 Ebrill 2024
Gwnewch Gais Nawr:
-
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg ac yn cychwyn yn y Brifysgol ym Medi 2024.
Cyrsiau: Defnyddia ein Coleg Cymraeg i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr.
Cyfnod ymgeisio: 11 Medi - 24 Ionawr
Sut i ymgeisio: Bydd angen llenwi’r erbyn 24 Ionawr
-
Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr sydd wedi cychwyn yn y brifysgol yn Medi/Hydref 2023 ac sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs yn Gymraeg mewn UNRHYW BWNC
Cyrsiau: Unrhyw gwrs sy’n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau.
-
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Gwynedd sy’n astudio eu cwrs cyfan (100%) yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: 17 Ionawr 2023 (cyfnod ymgeisio wedi cau ar gyfer eleni)
Sut i ymgeisio: Bydd angen llenwi ffurflen fan hyn pan fydd y cyfnod ymgeisio nesaf yn agor (tymor yr hydref 2023)
-
Faint: £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Ynys Môn, sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Hydref 2023
Sut i ymgeisio: Os wyt ti’n cyflwyno ffurflen gais cymhelliant, ac yn dod o Ynys Môn, byddwn yn dy wahodd i wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon ar ddiwedd Hydref.