Celf Gain
Unpeeled: Cymhlethdodau’r Profiad Dynol
Mewn oes a nodweddir yn gynyddol gan bwyslais ar ymddangosiad arwynebol yn hytrach na sylwedd, a nodweddion allanol yn hytrach na rhinweddau cynhenid, byddai’n hawdd datgysylltu neu fod yn ddifater ynghylch yr ymdeimlad o anfarwoldeb sy’n treiddio i’r cyflwr cyfoes. Ar hyd yr oesoedd, ac am byth, bydd artistiaid yn defnyddio’r cyd-destunau cyfoes o’u cwmpas fel deunydd crai ar gyfer syllu y tu hwnt i ffasâd ymddangosiad, ar gymhlethdodau’r profiad dynol sy’n gorwedd islaw.
Daw Unpeeled â chydweithfa o artistiaid at ei gilydd o garfannau graddio rhaglenni BA (Anrh) Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifiaeth Weledol, a BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCDDS. Mae’r artistiaid yn myfyrio ar eu profiadau personol a chyfunol, gan archwilio themâu hanes, yr Anthroposen, trywydd, cof, myth, hunaniaeth, technoleg a gwleidyddiaeth drwy gofleidio’r ddialog sy’n ehangu’n barhaus rhwng Celf Gain ac arfer Ffotograffig.
Hoffai staff rhaglenni Celf Gain a Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe PCDDS ddiolch i gydweithfa Unpeeled am drefniadau cytûn a chyflwyniad celfydd eu harddangosfa gan eu llongyfarch ar gynhyrchu cyrff mor ddifyr o waith. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u gwaith yn y dyfodol.
Yr Athro Sue Williams
Pennaeth Celf Gain: Stiwdio, Safle, Cyd-destun
Coleg Celf Abertawe, PCyDDS.
Ryan L. Moule
Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig
Coleg Celf Abertawe, PCyDDS.
Dosbarth '24
Ein Gwaith
Mae arfer cyfredol Amber Marsh yn plymio i feysydd mewnsyllu a phrosesu emosiynol drwy lens y tirweddau naturiol ac uniongyrchol o’n cwmpas. Drwy gyfuniad o ddyfrlliw, ffotograffiaeth a llyfrau a wnaed â llaw, mae’n cofnodi cysylltiadau emosiynol gyda gwrthrychau canfyddedig, golygfeydd ac effemera sy’n croesi ei llwybr wrth iddi lywio drwy leoliadau a phrofiadau newydd.
Yng ngwaith Marsh ceir gwahoddiad i archwilio dyfnderoedd ein cysylltiadau, yn rhyngbersonol a gyda’r byd o’n cwmpas, gan ein herio i weld y tu hwnt i’r wyneb a gwerthfawrogi’r rhyngweithiadau dwys sy’n diffinio ein bodolaeth.
- Gwefan
Mae arfer rhyngddisgyblaethol Mcfarland yn archwilio themâu gadawiad drwy archwilio lle. Gan dynnu ar effaith seicolegol y rheini sy’n byw ymhlith amddifadedd o’r fath, mae ei waith yn tynnu ar ddylanwad pensaernïaeth yn y cyfnod ar ôl y rhyfel yn yr amgylchedd lleol o’i gwmpas yn ne Cymru.
- Gwefan
Lluniwyd Walk Through o gwmpas cymhlethdod ystrydebau rhywedd, benyweidd-dra a gwreig-gasineb wedi’i fewnoli. Gan dynnu ar hanes celf ffeministaidd, ei phrofiadau personol a phrofiadau pobl o’i chwmpas, mae Rees yn mynegi ei phrofiad byw. Mae hyn yn sefydlu sylwebaeth berthnasol a chyfwynebiadol ar ystrydebau cymdeithasol a disgwyliadau o fenyweidd-dra.
Mae arfer rhyngddisgyblaethol Rees yn herio’r drem wrywaidd, gan ddatgelu realiti pobl eraill o lywio drwy adeiladwaith rhywedd, benyweidd-dra a gwreig-gasineb yng nghymdeithas ein hoes.
- Gwefan
Yn ei arfer cyfredol, mae Daniel Lewis yn archwilio cymhlethdodau ei brofiad gyda homoffobia wedi’i fewnoli, a bywyd cwïar mewn amgylchedd heteronormadol. Drwy gyfuniad o fewnsyllu a sylwebaeth gymdeithasol, mae Lewis yn archwilio naws y corff noeth gwrywaidd a delweddaeth arall a gaiff ei mabwysiadu gan y gymuned cwïar, gydag awydd i ddeall sut a phryd mae rhywbeth nad yw wedi’i rywioli neu ei ryweddu’n gynhenid yn cael ei ddirnad yn “hoyw”, a herio’r ideolegau hyn.
Mae corff cyfredol Ewan Coombs/Sid Lloyd o waith Dirty Being yn tynnu ar ryngweithio dynol gyda safleoedd o ddiraddiant, croniadau gwaddodol, a mannau lle mae bywyd yn ffurfio allan o ddetritws o waith dyn. Gan gynnwys clai, mewnosodiad a lluniadu, mae’r arfer amlddisgyblaethol hwn yn deillio o archwiliadau materol. Mae’r gwaith yn edrych ar ddinistr yr amgylchedd a’n rôl ni yn hynny; felly gwahoddir y gwyliwr i ddychmygu perthynas symbiotig yn hytrach na pharasitig gyda natur.
Artist amlddisgyblaethol yw Lucca-Redcliffe, gydag arfer sy’n archwiliad parhaus o bortreadu’r hunan drwy’r lliw coch. Mae gweithio gyda’r lliw coch yn dileu diogelwch a chysur, gan gyflwyno pryfociad dwys yn eu lle. Mae Lucca-Redcliffe yn ymgorffori gonestrwydd a gerwinder drwy’r broses o ddadadeiladu deunydd i ddatgelu agosrwydd a sensitifrwydd oddi mewn. Mae hyn yn ei galluogi i gyfleu ymateb drwy gyffyrddiad, rhwng corff a deunydd.
‘Borrowed Eyes’
Daw teitl y gyfres hon o nofel Cormac McCarthy, The Road sy’n myfyrio ar fyrhoedledd rhannau o’n bywydau y byddem yn eu hystyried yn barhaol. Mae’r gyfres o beintiadau’n ymdrin â thymoroldeb ein perthnasoedd, yn ogystal â derbyn eu habsenoldeb.
Drwy beintio ar gynfas sydd heb ei baratoi, mae’r gweithiau yn agored i ddadelfennu. Mae potensial ar gyfer dadfeilio, dirywiad golau UV, cracio a ffactorau eraill a fydd yn y pen draw yn golygu bod y peintiad wedi newid am byth o’r hyn yr arferai fod.
- Gwefan
Mae arfer amlddisgyblaethol Phillips yn cynnwys hunanbortread ac yn deillio o ddiddordeb byw mewn dylunio pensaernïol Oes Fictoria a chyfoes. Gan archwilio syniadau am fenyweidd-dra, mae ei hunanbortreadau’n dadadeiladu cysyniad y drem wrywaidd mewn trafodaeth hanesyddol a chyfoes, drwy safbwynt ffeministaidd.
Wrth i gymdeithas ddatblygu’n gynyddol gyflym, amlygwyd natur dafladwy nid yn unig wrthrychau materol, ond y grwpiau o bobl oddi mewn iddi. Drwy ei harfer amlddisgyblaethol nod Lola Preston yw gwareiddio a dod ag ymdeimlad o realaeth yn ôl i’r unigolion hyn, gan herio’r confensiynau nodweddiadol a osodir arnom gan natur brynwriaethol y byd ar hyn o bryd.
Mae Hughes yn archwilio natur blethedig sain a chreu marciau drwy dechnegau mynegiannol haniaethol megis gweithredu a pheintio maes lliw. Mae Hughes yn creu marciau a gweadau greddfol drwy’r defnydd o offer traddodiadol ac a wnaed â llaw, wrth wrando ar ystod eclectig o genres cerddorol i ddylanwadu ar ei weithredoedd.
Wrth ymgodymu â defnydd a chamdriniaeth cymdeithas o fyd yr anifeiliaid, mae gwaith Kane yn tynnu sylw at ddioddefaint diangen miliynau o anifeiliaid mewn byd a ddiffinnir gan alw cynyddol am gynhyrchion anifeiliaid, heb ystyried eu lles.
Mae’r darluniau a cherfluniau ar raddfa fawr yn herio syniadau o drueni a ffieidd-dod drwy fyfyrio ar y trais anweledig sy’n treiddio drwy’r diwydiannau cig a llaeth.
Mae arfer Nada yn archwilio amrywiol gyd-destunau’n ymwneud â gwleidyddiaeth fyd-eang, megis gwrthdaro, actifiaeth a natur.
Mae ei pheintiadau a’i cherfluniau’n archwilio materoldeb y cyfryngau y mae’n eu defnyddio, i ffurfio ymateb i’n agosrwydd at natur, ac amlygu bodolaeth gwyrddni sy’n edwino mewn dinasoedd a datgysylltiad poenus oddi wrth natur mewn bywyd modern.
Mae ei cherflun diweddaraf yn mynd i gyfeiriad gwahanol lle mae’n mynd ati i ddarlunio menywod sy’n ymwneud yn weithredol ac yn wleidyddol â’n cymdeithas newidiol.
- Gwefan
Mae gwaith Oisín McDaid yn canolbwyntio ar hunaniaeth a dirnadaeth, gan gyfuno cynhyrchu delweddau deallusrwydd artiffisial gyda thechnegau peintio traddodiadol i herio ein dynoliaeth mewn oes o dechnoleg sy’n datblygu.
Mae corff cyfredol McDaid o waith wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio hunanbortread ac yn lle hynny’n canolbwyntio ar ddefnyddio delweddau ‘canfyddedig’ er mwyn creu collages cyfrwng cymysg ar raddfa fawr, sy’n cynnwys deallusrwydd artiffisial fel offeryn cydweithredol.
Nod y gwaith a gynhyrchir gan McDaid yw ysgogi sgyrsiau am rôl technoleg wrth ffurfio ein dealltwriaeth o hunaniaeth a’r hyn mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn ddynol.
Arweinir arfer amlddisgyblaethol Gomes gan ymchwil cysyniadol a diwylliannol i weithredoedd megis garddio, a’r defnydd o dechnoleg. Mae hyn yn cyfleu’r synnwyr o “ryngfodoli” lle mae Gomes yn dod o hyd i’r cysylltiadau rhwng celf, cynulleidfa, bywyd ei hun a phopeth yn y canol.
Mae’n myfyrio ar bwysigrwydd arfer celf wrth ymdrin â safle penodol, drwy fewnosodiad, perfformiad a chyfryngau’n seiliedig ar amser.
- Gwefan
Mae corff Amato o waith,“Reveal”, yn archwilio’r sentimentaleiddiwch a geir yng ngwrthrychau a lleoliadau’r cartref. Gyda chof ac atgofion am bobl a lleoedd cyfarwydd yn ysbrydoliaeth, mae’n archwilio cymhlethdodau momentau syml, yn erbyn y byd sy’n symud yn barhaus. Gan ddefnyddio ei harchif o ffotograffau teuluol a gweithio gyda dyfrlliwiau, mae ei gwaith yn ymchwilio i deimladau o hiraeth a phrudd-der.
- Gwefan