Profiad Ragulan yn PCYDDS
Enw: Ragulan Pulanthitan
Cwrs: BEng Peirianneg Modurol
Astudiaethau Blaenorol: Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin (2015–2022); St. Luke’s Primary School, Dulyn (2008–2015)
Tref eich cartref:
Lleoliad geni: The Hammocks, Miami-Dade
Tarddiad y teulu: Sri Lanka
Preswylfa Bresennol: Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
Profiad Ragulan ar BEng Peirianneg Modurol
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roeddwn yn falch o gael ystafell gyfrifiaduron ar y campws a oedd ar agor 24/7, gan ei bod yn lle defnyddiol i wneud gwaith ar brosiectau ac aseiniadau. Mae’r gweithdy chwaraeon moduro yn lle da i dreulio amser ar ôl y gwersi, ac mae’r technegwyr yn bobl ddifyr sydd bob amser yn barod i sgwrsio.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
PCYDDS oedd yr unig brifysgol a wnaeth ymdrech i farchnata eu hunain i’r chweched dosbarth yn fy ysgol uwchradd.
Roedd tîm rasio MCR, fel gweithgaredd allgyrsiol, yn ddylanwad mawr arna i wrth ddewis y sefydliad hwn.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tîm chwaraeon moduro ydy’r peth ydw i’n ei fwynhau fwyaf yn PCYDDS. Fel aelod o’r tîm hwnnw, ddysgais i fwyaf yn y flwyddyn gyntaf.
Y tu allan i’r brifysgol, roeddwn i’n mwynhau byw mewn dinas, roedd yn newid braf o gymharu â’r lle mae fy nheulu’n byw ar hyn o bryd. Yn ogystal â’r ddinas ei hun, mae’r bobl gwrddais i pan ddes i’r brifysgol ymysg y rhai sydd wedi cael y dylanwad cadarnhaol mwyaf arna i, ac maen nhw wedi newid sut rwy’n meddwl am fywyd. Wyddwn i ddim fod pobl o’r fath yn bod cyn i mi ddod yma.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Rwy’n gobeithio weithio o fewn y diwydiant modurol neu chwaraeon moduro.
Rwy’n ystyried gwneud gradd Meistr, ond dw i ddim yn siŵr ymhle fyddwn i’n gwneud hynny. Hoffwn i wneud rhywfaint o deithio, a byddwn i’n ystyried gweithio dramor. Rwy’n edrych ymlaen at ddod o hyd i gwmni sy’n rhannu’r un amcanion â mi, lle gallwn i ymroi yn llwyr a threulio 100% o fy amser yn ennill cyflog ac yn creu llwyddiannau i’r cwmni.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Modurol?
Fy hoff ran o’r cwrs oedd y prosiect grŵp wnes i yn fy ail flwyddyn gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi arwain a threfnu grŵp o fy nghyfoedion i gwblhau prosiect a oedd yn caniatáu i ni ymarfer ein sgiliau dynameg hylif cyfrifiannol er mwyn cymhwyso ein damcaniaethau cysyniadol ynglŷn ag aerodynameg ar gyfer car rasio’r tîm chwaraeon moduro.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon modur. Heb os nac oni bai, dyma’r sefydliad gorau yn y wlad os ydych chi eisiau ennill profiad ymarferol trwy wneud gweithgareddau allgyrsiol mewn amgylcheddau cystadleuol y byd go iawn.