Astudiwch Gyda Ni
Eich Stori Chi
Mae gennym ni 20 maes pwnc i chi ddewis ohonynt. O fewn pob un, mae ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli. Mae’n bryd cydio yn eich dyfodol a throi eich uchelgais yn realiti.
Rydym yn cynnig profiad personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd ysbrydoledig, gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu bod digon o amser i drafod a bod gennych well dealltwriaeth o’ch pwnc. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
More to Explore
Beth yw eich pennod nesaf?
P’un a ydych chi’n gorffen ysgol, yn dychwelyd i addysgu, neu’n hyrwyddo’ch gyrfa, cofrestrwch eich manylion i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Diwrnodau Agored 2025
Dechreuwch ar eich Antur
Cewch chi ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli. Yn ystod eich cwrs, byddwch chi hefyd yn edrych ar wahanol lwybrau gyrfa a dewisiadau ar gyfer eich dyfodol. Beth bynnag yw eich uchelgeisiau, byddwn ni’n eich helpu chi i gychwyn yn llwyddiannus gan gadw eich nodau’n gadarn mewn golwg.
Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym ni gannoedd o opsiynau i chi ddewis o’u plith.