ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Joshua Knight - Gwneud Ffilmiau Antur (BA Anrh)

Joshua Knight yn PCYDDS

On a grey day, Joshua Knight sits near the stern of a boat and turns towards the sea, holding up a camera with a microphone attachment.

Enw: Joshua Knight 

Cwrs: BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

Astudiaethau Blaenorol:HSDC Alton: Diploma Lefel 3 UAL Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigol

Tref eich cartref: 
Winchester, Hampshire 

Profiad Joshua Knight ar BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

Brett Aggersberg yn tynnu sylw at fanylyn ar fonitor mawr iawn sy’n dangos llun o dŷ to gwellt hynafol yn Adobe Lightroom Classic.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

 Yr hyn roeddwn wir wedi’i fwynhau am astudio ar Gampws Caerfyrddin oedd cymwynasgarwch ac angerdd y darlithoedd a’r staff. Roedd ganddynt nid yn unig angerdd amlwg am y pwnc ond hefyd am helpu’r myfyrwyr. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais astudio yn PCYDDS oherwydd ei hangerdd amlwg dros annog gyrfaoedd creadigol. Nid yn aml rydych chi’n gweld Prifysgol neu Athrofa mor awyddus i hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant creadigol ac mae hynny’n rhywbeth sydd wir wedi fy nenu i’r brifysgol a’r cwrs hwn.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yr hyn a fwynheais yn fawr y tu allan i’m hastudiaethau oedd y mynediad a gefais i’r ardaloedd cyfagos. O fewn awr mewn car mae gennych chi Sir Benfro a Gŵyr sy’n gartref i arfordiroedd syfrdanol. Mae’r rhain yn berffaith ar gyfer ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau fel fi.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gweithio ar hyn o bryd fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilm llawrydd o Abertawe. Rwy’n gobeithio adeiladu portffolio digon mawr fel fy mod yn gallu dechrau gweithio gyda noddwyr a hoffwn mynd â’m sgiliau tramor i gael mwy o gyfleoedd gwaith. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Y peth gorau am y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur yw’r ystod o sgiliau rydych chi’n eu dysgu a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i chi. Mae’r cwrs wedi mynd â fi i rai lefydd anhygoel yn y DU a thramor, gan ganiatáu i mi ddatblygu fy sgiliau mewn amrywiaeth o amgylcheddau unigryw gan fy wneud yn berson fwy creadigol a chyflawn.

Dyn ifanc mewn siwt wlyb yn sefyll at ei frest mewn dŵr, gan ffilmio morlo sydd wedi codi ei ben uwchben yr wyneb.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn, byddwn yn argymell astudio yn PCYDDS yn llwyr. Mae’r cwrs Gwneud Ffilmiau Antur yn ddiddorol ac yn ymgysylltiol ac mae hyn yn dod nid yn unig i’r pynciau a gyflwynir yn y pwnc, ond hefyd i’r brwdfrydedd a ddaw o’r staff a’r myfyrwyr eraill Mae campws Caerfyrddin yn ganolfan wych ar gyfer mynd ar eich anturiau eich hyn y tu allan i astudio

Gwybodaeth Gysylltiedig