ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Rhannwch Eich Stori...

Datganiad personol yw eich cyfle unigryw chi i ymchwilio i’r dyheadau, y profiadau a’r rhinweddau sydd, yn eich barn chi, yn eich gwneud chi’n berffaith ar gyfer y cwrs a’r brifysgol rydych chi wedi’u dewis. ​ Dylai fod yn adlewyrchiad cywir o bwy ydych chi y tu hwnt i’ch cyflawniadau academaidd, gan roi cipolwg ar eich diddordebau, eich cymhellion a’r daith sydd wedi eich arwain at y foment hon.​

Gwnewch argraff a rhowch ddarlun cyflawn o bwy ydych chi go iawn. Defnyddiwch eich datganiad personol i ddangos eich gallu i fynegi’ch uchelgeisiau, y sgiliau perthnasol sydd gennych chi a’ch bod yn addas ar gyfer y rhaglen rydych chi’n ei dewis.  

Mae eich Stori’n Bwysig, ac Rydyn Ni yma i'ch Helpu i'w Rhannu gyda'ch Dawn a'ch Dilysrwydd!

Ysgrifennu Datganiad Personol Rhagorol

Sut i ysgrifennu datganiad personol

Does dim templed safonol ar gyfer ysgrifennu eich datganiad ond y prif beth i’w gadw mewn cof yw ei fod yn llifo ac yn hawdd ei ddarllen. Dyma rai awgrymiadau wrth i chi fynd ati i ysgrifennu eich datganiad:

Strwythur; sicrhewch strwythur hawdd ei ddarllen sy’n llifo’n braf trwy ddechrau gyda chyflwyniad sy’n annog y darllenydd i ddarllen ymlaen.​  Yna ewch ymlaen at yr hyn rydych eisiau ei gynnwys ac rydym yn argymell gwneud hyn yn y drefn sydd fwyaf perthnasol i’r hyn y mae’r brifysgol yn chwilio amdano.  Ac yn olaf, casgliad. Dyma eich cyfle i atgyfnerthu eich ymrwymiad, eich brwdfrydedd a’ch sgiliau gyda datganiad clo cadarn.  

Iaith; rydych chi’n ceisio gwneud argraff gyntaf dda felly defnyddiwch iaith ffurfiol ond cofiwch ddefnyddio geirfa rydych chi’n gyfforddus yn ei defnyddio.  Defnyddiwch iaith sy’n gwneud i chi swnio’n frwdfrydig ac sy’n cyfleu pwy ydych chi go iawn.  Yn bwysicaf oll, gwiriwch eich gramadeg, eich sillafu a’ch atalnodi.

Geirda(on); yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych yn gwneud cais amdani, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu mwy nag un geirda. Bydd hyn yn cael ei nodi ar y ffurflen gais.  Yn ddelfrydol, dylai eich canolwr fod yn rhywun sy’n eich adnabod ar lefel academaidd, fel eich tiwtor presennol neu yn y gorffennol, sy’n gallu ysgrifennu am ba mor addas ydych chi ar gyfer addysg uwch. Ond, os nad ydych wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, gall geirda proffesiynol gan gyflogwr presennol neu flaenorol fod yn dderbyniol hefyd. Ni dderbynnir geirda gan deulu neu ffrindiau. Os ydych yn ansicr ynglÅ·n â chael geirda, cysylltwch â’r tiwtor derbyn a fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi. 

Cofiwch

  • Mae gennych hyd at 4,000 o eiriau i greu argraff.
  • Gwnewch eich gwaith ymchwil; dewiswch bwnc, math o gwrs a phrifysgol sy’n addas i chi.
  • Rydyn ni wedi nodi eisoes, ond cofiwch wirio eich sillafu a’ch gramadeg cyn cyflwyno’ch geirda ac mae bob amser yn syniad da i gael rhywun i fwrw golwg drosto. 

Dechrau arni yw rhan anoddaf y datganiad personol.  Ystyriwch beth ydych am ei gynnwys a’r hyn rydych chi eisiau i’r brifysgol rydych wedi ei dewis wybod amdanoch.​  Dyma rai enghreifftiau o bethau i’w cynnwys, ond cofiwch peidiwch â’u rhestru’n unig, rhowch enghreifftiau o sut y gwnaethoch chi eu datblygu a sut rydych chi’n eu defnyddio:

  • Dangoswch fod gennych ddiddordeb yn y cwrs a nodwch wybodaeth a phrofiad perthnasol sydd gyda chi yn y maes.
  • Amlinellwch eich uchelgeisiau a’ch dyheadau gyrfa a sut bydd y rhaglen yn eich helpu i’w cyflawni.
  • Gwybodaeth - peidiwch â bod ofn rhannu’r wybodaeth sydd gyda chi.
  • Astudiaethau a phrofiadau cyfredol neu flaenorol sy’n berthnasol i’r cwrs.
  • Dangoswch eich bod chi’n ymgeisydd gwych a bod gennych chi’r sgiliau a’r rhinweddau y mae’r brifysgol yn chwilio amdanyn nhw trwy ddangos tystiolaeth o hynny.  
  • Diddordebau a hobïau a sut mae’r rhain yn berthnasol i’r cwrs.
  • Eich cryfderau ac unrhyw gyflawniadau rydych yn falch ohonyn nhw.

Gan mai dim ond un datganiad personol sydd gennych chi i greu argraff, dyma rai pethau i’w hosgoi wrth fynd ati i ysgrifennu eich datganiad personol.​ 

  • Peidiwch ag enwi Prifysgol benodol, oni bai eich bod ond yn gwneud cais i un Brifysgol.
  • Peidiwch byth â chopïo na defnyddio datganiad personol rhywun arall, rydych chi eisiau sefyll allan felly byddwch yn wreiddiol.​ 
  • Peidiwch â siarad am bethau sydd ddim yn berthnasol. 
  • Ceisiwch osgoi ystrydebau; gyda channoedd o geisiadau bob flwyddyn, rydyn ni wedi eu clywed i gyd o’r blaen.
  • Peidiwch byth â dweud celwydd, bydd y gwir yn dod i’r amlwg yn y diwedd. 
  • Ceisiwch osgoi ailadrodd eich hun, gwnewch eich pwynt unwaith a symud ymlaen. 

Sgwrsiwch gyda'n Myfyrwyr

Staff member assisting a student

Rydych chi wedi cyflwyno'ch cais i'r Brifysgol, ac efallai eich bod yn holi beth sy'n digwydd nesaf? Yn dibynnu ar y cwrs efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Dyma eich cyfle i ddod â’ch cais yn fyw a dangos eich brwdfrydedd, eich personoliaeth a’ch potensial wyneb yn wyneb.

Aerial shot of 4 students sitting in a booth

P'un ai a ydych chi'n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib

students around a table in London campus
  • Fe all fod yn anodd deall a defnyddio UCAS. Mae UCAS wedi dyfeisio’r rhestr jargon handi hon i alluogi darpar fyfyrwyr i ddeall diben UCAS yn llawn.

    Addasiad (‘Adjustment’) – mewn cais Israddedig UCAS, un o’r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Mae’r un hwn rhag ofn eich bod wedi bodloni a rhagori ar eich amodau ac fe hoffech weld a allech chi gael lle ar gwrs â gofynion mynediad uwch – a hynny gan ddal gafael ar eich lle gwreiddiol a gadarnhawyd.

    Ymgynghorydd (‘Adviser’) – rhywun sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth i chi gyda’ch cais. Gall hyn fod yn athro, tiwtor, cwnselydd, neu asiant.

    Apply – enw ein system ymgeisio ar-lein. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, mae Apply yn cael ei gyfuno gyda Track.)

    Gradd baglor (‘Bachelor’s degree’) – cwrs tair neu bedair blynedd y gallwch ei wneud mewn addysg uwch israddedig ar ôl i chi orffen addysg bellach – gelwir hefyd yn ‘radd gyntaf’ neu’n ‘radd israddedig’. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau naill ai’n Faglor yn y Celfyddydau neu’n Faglor yn y Gwyddorau.

    Gair arbennig (‘Buzzword’) – ar gyfer ceisiadau Israddedig UCAS, bydd eich ysgol, coleg, neu ganolfan yn rhoi gair arbennig i chi fel y gallwch gysylltu eich cais iddyn nhw. Mae’n air y gallwch ei ychwanegu i’ch cais pan fyddwch yn cofrestru i wneud cais UCAS Israddedig (oni bai eich bod yn gwneud cais yn annibynnol).

    Canolfan (‘Centre’) – ysgol, coleg, neu sefydliad sy’n gallu helpu myfyrwyr i wneud cais i addysg uwch.

    Newid cynnig cwrs (‘Changed course offer’) – yn eich cais, efallai y cewch chi un o’r rhain os nad ydych chi wedi bodloni eich amodau, neu os yw’r brifysgol neu goleg wedi gwneud newidiadau i’r cyrsiau maent yn eu cynnig. Fe all olygu dyddiad dechrau neu fan mynediad gwahanol, neu gwrs gwahanol yn gyfan gwbl.

    Dewis (‘Choice’) – dewis yw cwrs rydych yn gwneud cais amdano ar eich cais – mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud nifer o ddewisiadau i wella eu cyfle i gael lle.

    Clirio (‘Clearing’) – mewn cais UCAS Israddedig, mae Clirio yn wasanaeth arall y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Os na chawsoch le ar gwrs – p’un ai na chawsoch gynigion, gwnaethoch wrthod eich cynigion, neu na chawsoch y graddau roedd arnoch eu hangen – mae Clirio yn caniatáu i chi wneud cais am gyrsiau sy’n dal i fod â lleoedd gwag.

    Coleg â€“ darparwr addysg bellach ac uwch. Os byddwn yn defnyddio’r term ‘prifysgol’, mae hwn yn aml yn gyfeiriad generig sy’n cynnwys colegau hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn yn dweud ‘gwneud cais i brifysgol’, golygwn ‘gwneud cais i brifysgol neu goleg’, ond mewn ffordd fwy cryno.

    Cynnig amodol (‘Conditional offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs yn amodol ar amodau. Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni’r gofynion – sydd fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hyn yn fath cyffredin o gynnig i fyfyrwyr sy’n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach.

    Cadarnhad (‘Confirmation’) – yn eich cais, canlyniad cynnig amodol rydych wedi’i dderbyn. Os ydych yn bodloni’r amodau, bydd eich lle yn cael ei wneud yn ddiamod (sy’n golygu bod gennych le ar y cwrs) – os na, bydd y cynnig yn cael ei wrthod.

    Conservatoire – darparwr cyrsiau cerdd, dawns, sgrîn, a drama seiliedig ar berfformio.

    Cwrs – mae llawer o gyrsiau gwahanol ar draws gwahanol lefelau, pynciau, a lleoliadau – o raddau sylfaen i PhD.

    Darparwyr cyrsiau a hyfforddiant (‘Course and training providers’) – prifysgol, coleg, conservatoire, ysgol ‘School Direct’, neu ddarparwr arall sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch.

    Gohirio (‘Deferral’) – yn eich cais, dyma beth rydych yn ei wneud os hoffech gario cynnig drosodd i’w ddechrau yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

    Gofynion mynediad (‘Entry requirements’) – dyma mae’r darparwr cwrs yn argymell sy’n rhaid i chi ei wneud/gael i gael lle ar y cwrs – o gymwysterau a phynciau neu raddau penodol, i gyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Does dim gwarantu y cewch gynnig os ydych eisoes yn bodloni neu’n meddu ar y rhain.

    Extra – mewn cais UCAS Israddedig, mae Extra yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am leoedd amgen os nad oes gennych gynnig gan eich dewisiadau cyntaf.

    Y Glas (‘F°ù±ð²õ³ó±ð°ù’) – term ‘slang’ am fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

    Dewis cadarn (‘Firm Choice’) – yn eich cais, cynnig rydych yn ei dderbyn yn ddewis cyntaf.

    Myfyriwr graddedig – myfyriwr sydd wedi cwblhau a graddio o gwrs israddedig – gallant nawr wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig os hoffent wneud hynny.

    Addysg uwch (AU) – lefel yr addysg y gallwn eich helpu i wneud cais amdani – o gyrsiau israddedig pan fyddwch wedi gorffen addysg bellach, i gyrsiau ôl-raddedig y gallwch symud ymlaen iddynt ar ôl graddio o radd israddedig.

    Dewis yswiriant (‘Insurance Choice’) – yn eich cais, cynnig rydych yn ei ddewis yn ail ddewis – rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau eich cynnig cadarn.

    Rhif adnabod personol (‘Personal ID’) – y rhif deg digid a gewch chi wrth gofrestru i ‘Apply’ – caiff ei ddangos yn y fformat 123-456-7890 ar bob e-bost a anfonwn atoch. Bydd gofyn i chi ddarparu hwn os byddwch yn cysylltu â’n Canolfan Profiad Cwsmeriaid.

    Datganiad personol – darn ysgrifenedig y bydd ymgeiswyr yn ei ysgrifennu i ddangos pam eu bod yn gwneud cais a pham y byddent yn fyfyriwr gwych i ddarparwr cwrs ei dderbyn.

    Graddau rhagfynegol (‘Predicted Grades’) – y graddau y mae athro, tiwtor neu ymgynghorydd arall sy’n gymwys i roi sylwadau ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y byddant yn eu cyflawni wrth gwblhau eu cymwysterau uwchradd.

    Canolwr (‘R±ð´Ú±ð°ù±ð±ð’)&²Ô²ú²õ±è;– yn eich cais, rhywun sy’n darparu geirda ar eich cyfer.

    Cwrs rhyngosod (‘Sandwich Course’) – cwrs gyda blwyddyn ychwanegol lle byddwch yn gweithio yn y proffesiwn rydych yn astudio ar ei gyfer.

    Tariff – Tariff UCAS yw’r system ar gyfer dyrannu pwyntiau i’r gwahanol gymwysterau y gallwch eu defnyddio i gael i mewn i addysg uwch israddedig. Ni fydd pob cymhwyster yn cael ei gynnwys yn y Tariff. Dim ond er mwyn derbyn myfyrwyr y caiff ei ddefnyddio ac nid yw’n drosglwyddadwy i’r farchnad waith.

    Track – enw ein system tracio ar-lein lle gallwch weld sut mae eich cais yn symud ymlaen. Yma, gallwch ymateb i gynigion a gwneud diwygiadau, fel newid eich cyfeiriad e-bost ayb. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, caiff Apply ei gyfuno gyda Track.)

    UCAS – Y Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yn y DU. Mae hyn yn cynnwys ein prif wasanaeth ymgeisio UCAS Israddedig, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill a redwn, h.y. UCAS Conservatoires, UCAS Hyfforddiant Athrawon (‘UCAS Teacher Training’), ac UCAS Ôl-raddedig (‘UCAS Postgraduate’). Hefyd, rydym yn helpu myfyrwyr o 13 oed ymlaen gyda UCAS Cynnydd ‘(UCAS Progress’).

    Cynnig Diamod (‘Unconditional Offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs heb amodau – eich lle chi yw e os ydych chi ei eisiau.

    Israddedig – lefel gyntaf astudiaethau addysg uwch. Os byddwch yn graddio o radd israddedig, gallwch symud ymlaen i astudiaethau Ã´l-raddedig.

    Prifysgol – darparwr addysg uwch.

    Aflwyddiannus (‘Unsuccessful’) – yn eich cais, naill ai nid oes cynnig wedi’i wneud i chi neu nid ydych wedi bodloni amodau cynnig amodol.

    Tynnu’n ôl (‘W¾±³Ù³ó»å°ù²¹·É²¹±ô’) – yn eich cais, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i gynnig lle i chi ai beidio, gallwch chi neu’r brifysgol neu goleg dynnu dewis yn Ã´l.