Chwaraeon yn y Drindod Dewi Sant
Darganfod Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant
Yn barod i gyflawni eich nodau chwaraeon? Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys cyfleuster cryfder a chyflyru, ardal hyfforddi 3G, stiwdio ffitrwydd, labordai ffisioleg a biomecaneg, pwll nofio, ystafell dadansoddi chwaraeon, neuadd chwaraeon dan do, ac ystafelloedd therapi chwaraeon ac adsefydlu.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleusterau chwaraeon ardderchog ac ystod eang o weithgareddau at ddant bawb o athletwyr perfformiad uchel i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd yn gyffredinol. Dysgwch ragor am glybiau chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon, Academi Chwaraeon, cynlluniau aelodau a llawer rhagor.
Explore our Carmarthen Campus
Ydych chi’n dwlu ar chwaraeon cystadleuol? Byddwch y gorau y gallwch chi fod gydag Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd a chreu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed.
Facilities page template
Mae chwaraeon yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru ac mae mynd i ddigwyddiad neu i wylio gêm yn rhan hanfodol o astudio yn PCYDDS! Cymerwch gip ar y lleoliadau isod y gallwch chi ymweld â nhw pryd bynnag mae’r awydd yn codi.