Bywyd Campws Birmingham
Y Ganolfan Ddiwylliant
Ymgollwch mewn Diwylliant
Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, dinas sy’n enwog am ei phobl, ei bwyd a’i gwyliau diwylliannol - bydd rhywbeth i’ch difyrru trwy’r adeg. Mae PCYDDS Birmingham yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. A’r cyfan mewn dinas sy’n llawn cyfleoedd.
Birmingham, metropolis brysur sy’n llawn o hanes a diwylliant. Gyda’i hadeiladau eiconig, fel y Bullring ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, ei rhwydweithiau o gamlesi prysur a’i pharciau gwyrdd, dyma ddinas sy’n ymfalchïo yn ei chymysgedd fyrlymus o’r modern a’r traddodiadol.
Archwiliwch ein Campws Birmingham
Pam Birmingham
Profiad Newydd
Gyda dau gampws, un ar Stratford Road yn ardal fywiog Sparkhill a’r llall ar un o gamlesi prysur canol y ddinas, mae PCYDDS Birmingham yn cynnig cyfle i bobl gael addysg uwch, waeth beth fo’u cefndir.
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae ein dau gampws yn cynnig naill ai opsiwn i astudio yn ystod yr wythnos neu i astudio ar y penwythnos, sy’n golygu y gallwch addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.
Canolbarth Lloegr
Canolbarth Lloegr
Mae’r dyfodol yn ddisglair yma, gyda chysylltiadau gwych â Llundain, Bryste, Caerdydd, Sheffield, Manceinion a Lerpwl – i gyd o fewn taith trên dwy awr.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ar chwalu rhwystrau i addysg a sicrhau cyfle cyfartal i bawb, sy’n golygu y gallwch fod yn sicr o ofynion mynediad sy’n ystyried eich amgylchiadau unigol.
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.
Mae ein dau gampws yn cynnig naill ai opsiwn i astudio yn ystod yr wythnos neu i astudio ar y penwythnos, sy’n golygu y gallwch addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.
Birmingham Open Day
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham
Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham
Mae ein Campws yn Birmingham mewn dau leoliad. Mae Quay Place mewn ardal fywiog ger y gamlas yng nghanol y ddinas, a’r ail leoliad ar Stratford Road yn ardal llawn egni Sparkhill.