Rheolaeth Adnoddau Dynol (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein BA (Anrh) mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol yn radd ddeinamig, sy’n canolbwyntio ar yrfa sy’n cynnig sylfaen gref i chi mewn busnes a rheolaeth gan arbenigo mewn adnoddau dynol. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisiau dysgu sut i reoli, cefnogi a datblygu pobl mewn ffordd sy’n annog llwyddiant unigolion a sefydliadau.
Yn rhan o’r rhaglen hon, byddwch yn astudio cyfuniad o ddisgyblaethau busnes craidd, fel cyllid, rheolaeth a datblygiad proffesiynol. Bydd integreiddio modylau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dewis y llwybr hwn ddealltwriaeth glir o ofynion y corff proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon.
Byddwch yn cynyddu eich dealltwriaeth o sut mae sefydliadau’n gweithredu, sut y cânt eu rheoli, a sut maent yn gweithredu o fewn yr economi a’r amgylchedd busnes ehangach. Drwy’r cwrs hwn, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau busnes gwerthfawr sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes rheolaeth. Ochr yn ochr â’r sgiliau proffesiynol hyn, byddwch hefyd yn datblygu mwy o hunanymwybyddiaeth ac yn canolbwyntio ar eich twf personol, gan eich paratoi i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau rheolaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar gyfuno sgiliau ymarferol â dealltwriaeth ddamcaniaethol, gan eich paratoi i gael effaith gadarnhaol mewn AD a rheoli busnes. Rydym yn pwysleisio cymwysiadau byd go iawn, meddwl beirniadol, a datblygiad personol, gan roi i chi gydbwysedd o wybodaeth a sgiliau ar gyfer gyrfa AD lwyddiannus.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol am egwyddorion busnes, gan ganolbwyntio ar ymddygiad sefydliadol, marchnata a hanfodion rheoli. Byddwch yn archwilio sut mae sefydliadau’n gweithredu, hanfodion rheoli adnoddau dynol, a hanfodion dadansoddi ariannol a data. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y llwyfan ar gyfer astudio dyfnach gyda sylfaen gref mewn gweithrediadau busnes a rheoli pobl.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar sgiliau AD a busnes craidd. Byddwch yn ymgysylltu â phynciau mwy arbenigol fel strategaeth AD, rheoli prosiectau ac arweinyddiaeth. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio sgiliau ymarferol fel hyfforddi a chyfathrebu, gan eich paratoi ar gyfer heriau Adnoddau Dynol go iawn.
Compulsory
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
(20 credyd)
Optional
(60 Credyd)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i arferion AD uwch. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol, gan gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o Bwyntiau UCAS.
-
Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd gyda thasgau “byd go iawn” sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.