Diwydiannau Creadigol Caerfyrddin
Gwahanol Fath o Ddosbarth
Mae Caerfyrddin yn gartref i’n graddau BA Actio, BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau a BA Gwneud Ffilmiau Antur, gan daro cydbwysedd unigryw rhwng gweithgareddau awyr agored a chreu cyfryngau mewn lleoliad a all gefnogi a chynnig digon o gyfleoedd. Mae’r rhaglenni hyn yn gweithio law yn llaw, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd wedi ennill y profiad ymarferol sydd ei angen i ffynnu yn y diwydiant. Fel myfyriwr yng Nghaerfyrddin, bydd gennych fynediad i weithdai a mannau theatr ar y campws sy’n eich galluogi i gyfuno eich astudiaeth academaidd â phrofiad ymarferol.
Beth gallaf astudio?
Caerfyrddin yw cartref ein graddau BA Acting a BA Dylunio Set a Chynhyrchu. Mae’r rhaglenni hyn yn gweithio law yn llaw, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd wedi cael profiadau uniongyrchol er mwyn gallu ffynnu yn y diwydiant. Yn fyfyriwr ar gampws Caerfyrddin, bydd mynediad gennych i weithdai a mannau theatr ar y campws sy’n eich galluogi i gyfuno eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol.
Mae’r BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol yn bodloni anghenion y diwydiant cyfryngau cyfoes trwy ffocysu’n bennaf ar dechnegau cynhyrchu newydd, dosbarthu ar-lein a chynulleidfaoedd, mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr. Yn ogystal, mae ein gradd BA Gwneud Ffilmiau Antur yn taro cydbwysedd unigryw rhwng gweithgareddau awyr agored a chreu cyfryngau mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llu o gyfleoedd.
Profiad Campws sy’n wirioneddol Trochol
Rydym yn darparu amgylchedd sy’n meithrin y dalent fwyaf creadigol yng Nghymru, gan gynnig profiadau cyfoethog i unigolion talentog sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cynhyrchir egni a dawn greadigol drwy bylu ffiniau a rhwystrau traddodiadol disgyblaethau, a chaiff brwdfrydedd unigol ei annog a’i ddatblygu drwy ddysgu ac astudio mewn ffordd sy’n eich paratoi at y diwydiant. P’un a ydych yn actor, yn artist neu’n ddylunydd, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a chyfarwyddwyr.
Gwahanol Fath o Ddosbarth
Rydym ni’n credu bod pobman yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Y cyfleoedd i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau yw lle caiff syniadau eu llunio, eu trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chyfleoedd.
Y Gweithdy Golygfeydd
Ein gweithdy yw un o’r ystafelloedd dosbarth mwyaf amgen sydd gennym. Nid yn unig y cynhelir sesiynau a addysgir yma ar wneud propiau, adeiladu setiau, adeiladu pypedau a chelf golygfeydd, ond yma hefyd mae calon y cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r gofod i ddatblygu eu crefft dros eu tair blynedd gyda ni a gallant ddefnyddio’r offer a deunyddiau arbenigol mor aml ag yr hoffent. Mae’n ofod y mae gan raddedigion atgofion cynnes amdano fel man cychwyn llawer o anturiaethau.
Mentro Allan
Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n gradd Gwneud Ffilmiau Antur. Maent yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac o dan gwahanol amodau, gan ddefnyddio tirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o weithgareddau awyr agored a gynhelir yn yr ardal.
Cydweithio
Mae’r diwydiannau creadigol wedi’u hadeiladu ar gydberthnasau cydweithredol. Dyma’r dyfodol. Eich dyfodol, ein dyfodol. Rydym yn cydweithio gyda chydweithwyr creadigol bob dydd, ar lefel broffesiynol a chreadigol. Mae cydweithio’n rhoi llais i syniadau unigol, yn parchu barnau dylunio eang ac yn croesawu gwahaniaethau er mwyn meithrin cymuned hyderus a chreadigol.