Academi Golau Glas
Nod yr Academi Golau Glas
Nod yr Academi Golau Glas (AGL) yw cyflwyno rhaglenni a chynnal ymchwil sy’n datblygu a chyfoethogi gallu unigolion a sefydliadau i wella effeithiolrwydd y gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd. Mae datblygiad yr academi wedi’i seilio ar yr ‘ethos un gwasanaeth cyhoeddus’ a nodau ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’.
Beth gallaf astudio?
Ein Rhaglenni Cyffrous
Mae’r Academi yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni cyffrous yn amrywio o’r rheiny a gyflwynir i israddedigion darpar gwnstabliaid yr heddlu yn y Fframwaith Cymhwyster Addysg yr Heddlu i gyrsiau sy’n datblygu gwybodaeth strategol a chydweithredol unigolion uwch o fewn sefydliadau.
Rhaglenni Israddedig
Opsiynau Llawn Amser a Rhan Amser ar gael
¸é³ó²¹²µ±ô±ð²Ô²Ô¾±&²Ô²ú²õ±è;Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ
Opsiynau Llawn Amser a Rhan Amser ar gael
Ein Staff
Mae staff yr Academi yn cynnwys academyddion profiadol a chyn-heddweision, yn amrywio o Gwnstabl i Brif Gwnstabl. Mae gan yr unigolion hyn brofiad helaeth o weithio o fewn meysydd strategol a gweithredol y gwasanaeth brys ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol, a chaiff y rhaglenni eu datblygu bob tro gydag ymarferwyr cyfredol.