Cyflwyniad
Mae Dilysu Aml-ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch wrth gael mynediad i systemau TG y Brifysgol ac mae’n sicrhau bod eich cyfrif Prifysgol yn fwy diogel trwy eich amddiffyn chi a’r Brifysgol petai eich enw defnyddiwr a chyfrinair mewn perygl.
Cwestiynau Cyffredinol
-
Pan fydd wedi’i alluogi, bydd angen i chi fewngofnodi i wasanaethau Microsoft 365 gan gynnwys Outlook, Teams a SharePoint gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair fel arfer, ynghyd ag un dull ychwanegol o ddilysu.
Er mwyn cwblhau gosod y dilysu dilynwch y camau hyn:
- Er mwyn gorffen gosod y dilysu:
- Gwyliwch .
Er mwyn lawrlwytho ap Microsoft Authenticator, chwiliwch am Microsoft Authenticator yn siop apiau’ch ffôn symudol neu ddefnyddio’r dolenni lawrlwytho isod ar eich ffôn symudol:
- Siop Apiau Apple –
- Siop Google Play –
Gallwch ddewis o’r dulliau gwirio isod i osod y dilysu. Rydym yn argymell yn fawr ddefnyddio ap Microsoft Authenticator er mwyn gwneud eich profiad yn fwy syml. Os nad oes gennych ddyfais symudol i fewnosod yr ap neu os byddai’n well gennych beidio â gosod yr ap ar eich dyfais bersonol, gallwch ddewis neges destun SMS neu alwad ffôn.
- Ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn symudol
- Cod dilysu a anfonir drwy neges destun SMS
- Cymeradwyo dilysu drwy alwad ffôn awtomatig
- Er mwyn gorffen gosod y dilysu:
-
Gallwch chi weld neu newid eich dull dilysu ar unrhyw adeg.
- Ewch i ‘’
- Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
- Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
- Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
- Llinell Dir
- Cliciwch Save – setup complete!
-
C. Pan gaf i ddyfais newydd yn lle’r ddyfais symudol gofrestredig y byddaf yn derbyn fy nghodau neu geisiadau am gadarnhau arni, beth bydd angen i mi ei wneud?
A. Bydd angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth ddiogelwch. Os byddwch yn dilyn ein hargymhelliad ac yn defnyddio dull ap Microsoft Authenticator, bydd hefyd angen i chi lawrlwytho’r ap ar eich ffôn symudol newydd.
- Ewch i ‘’
- Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
- Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
- E-bost Personol (anfonir cod i gyfrif e-bost personol)
- Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
- Galwad Ffôn (galwad ffôn awtomataidd i gadarnhau’r dilysiad)
- Cliciwch Save – setup complete!
C. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai angen i mi sganio cod QR wrth osod MFA. Allaf i ddim wneud hynny, beth dylwn i ei wneud?
A. Dan y cod QR, fe welwch god ac URL y gallwch ei gopïo a’i ludo yn ap Microsoft Authenticator i gwblhau’r broses osod. Ar sgrin sganio’r cod QR yn yr ap, dewiswch ‘or enter code manually’ i fynd i’r tudalen lle dylech ludo’r wybodaeth hon, wedyn gwasgu Finish.
C. A ofynnir i mi fewngofnodi i ap Outlook ar fy nyfais symudol?
A. Os ydy Cymwysiadau Microsoft megis Outlook, Teams neu Office 365 wedi’u gosod ar eich ffôn symudol neu lechen, gofynnir i chi gadarnhau pwy ydych chi. Bydd neges yn ymddangos ar eich ffôn yn gofyn i chi gymeradwyo’r mewngofnodi. Cliciwch Approve.
-
Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer MyTSD.
Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi fewngofnodi i MyTSD gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.
-
Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer VPN.
Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi gysylltu â VPN y Brifysgol gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.
-
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i MyView gyda’ch rhif staff a’ch cyfrinair fel arfer ar ôl ei alluogi. Bydd angen i chi ateb eich cwestiynau diogelwch a ddiffiniwyd ymlaen llaw.
-
Ar ôl ei alluogi, bydd gofyn i chi fewngofnodi i bluQube gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair bluQube yn ôl yr arfer a bydd angen i chi roi Cod Mynediad Untro (OTP).