Benjamin yn PCYDDS
Profiad Ben ar BA Cynhyrchu Ffilm a Theledu
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roedd Dinefwr yng nghanol Abertawe, gan ein galluogi ni i archwilio’r gwaith o adrodd straeon trwy wahanol leoliadau a oedd o fewn pellter cerdded i’r campws.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i’r Drindod Dewi Sant oherwydd bod fy nghyfweliad wedi teimlo’n fwy personol.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, treuliais i amser yn archwilio arfordir Gŵyr ar gyfer rhagor o leoliadau ffilmio.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar hyn o bryd rwy’n Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth yn y diwydiant Ffilm a Theledu, yn saethu ffilmiau byr a chynnwys masnachol yn fy amser rhydd. Fy nghwrs oedd y sbardun i’r diwydiant yng Nghymru, gan fy helpu i sefydlu fy hun ac i dyfu fy rhwydwaith o’r cychwyn cyntaf.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Roedd staff yr adran yn hynod gefnogol drwy gydol y broses.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Rwy’n credu bod y cwrs yn cynnig dull unigryw o ymdrin â’r deunydd, rhywbeth y gallai myfyrwyr mwy ymarferol ei werthfawrogi.