Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru
Yn datblygu graddedigion sy’n barod i’w cyflogi
Mae Athrofa Gwyddorau a Chelf Cymru (WISA) yn dod â disgyblaethau gwyddoniaeth a chelf at ei gilydd yn eu holl bosibiliadau cymhleth. Mae WISA yn cynnig cyfle i’w myfyrwyr archwilio potensial arloesol celf a gwyddoniaeth sy’n gyrru ein byd.
Ffocws yr Athrofa yw datblygu graddedigion sy’n barod ar gyfer byd gwaith ac yn gallu ysgogi newid yn eu dewis faes astudio.
Ein Cyrsiau a Lleoliadau
Ein Meysydd Academaidd
Ein Hymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu
Mae Ymchwil ac Arloesi wedi gwreiddio’n gadarn yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Drindod Dewi Sant. Mae academyddion yn yr Athrofa yn weithgar ym maes ymchwil a chydnabyddir bod llawer o artistiaid, dylunwyr a meddylwyr beirniadol ar flaen y gad yn eu meysydd.
Mae ein hymchwil yn drawsddisgyblaethol, ac mae’n cwmpasu maes eang o waith mewn Peirianneg Fodurol, Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu, ynghyd â Chyfrifiadura Cymhwysol.