Dylunio Graffig
"Edrych trwy'r sŵn i wir gysylltu"
Mae edrych, ac edrych yn ddwfn, yn dod yn llai cyffredin nag y byddem yn ei feddwl efallai. Mae’r byd, neu gynrychiolaeth llai synhwyraidd ohono, yn bodoli ar sgrin fach sydd hyd braich i ffwrdd. Mae’r dimensiwn cyfochrog hwn, lle mae’r ofn o golli rhywbeth wedi dod yn normal newydd, yn golygu ein bod mewn perygl o golli popeth.
Fel cyfathrebwyr gweledol, rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain ac ar eraill os ydym yn awyddus i wneud i’n geiriau a’n delweddau gyfuno’n llwyddiannus. Mae’n rhaid i ni edrych ar bethau o safbwynt rhywun arall, gan edrych ar broblemau o wahanol onglau. Edrych trwy ymyrraeth a sŵn di-ben-draw i wir gysylltu. Rhaid inni edrych ar y darlun ehangach Edrych ar yr holl bosibiliadau sydd ar gael.
Wrth i ni edrych i lygaid ein myfyrwyr, caiff llawer ei ddatgelu. Eu llygaid yn gul gan ddangos penderfyniad neu led y pen ar agor mewn llawenydd ar adeg o ddarganfod. Cafwyd adegau cofiadwy eleni lle mae ein llygaid hÅ·n ni wedi’u hagor led y pen yn sgil y pleser o weld y galon a’r enaid yn cael lle mor amlwg mewn llawer o brosiectau. Mae gwleidyddiaeth bersonol, anghyfiawnder cymdeithasol a brwydrau meddalwedd a ymladdwyd yn galed yn eistedd yn gyfforddus gyda boddhad esthetig balch a dylanwad masnachol cadarn.
Beth bynnag fo’u cymhellion, rhaid i ddylunwyr newydd heddiw ddangos dewrder mawr wrth ddatgelu eu hunain trwy eu gwaith. Mae canfod llais gweledol unigryw rhywun yn her ynddo’i hun ond mae ei ddefnyddio i weiddi neu ganu yn gofyn am fwy o naid ffydd.
Cymerwch eiliad, ‘blinciwch’, mwynhewch.
Tîm y Staff
BA(Anrh) Dylunio Graffig
Dosbarth '24
Amdanon Ni
Mae Abbie yn artist sy’n mwynhau defnyddio siapiau geometrig ac unigryw i greu dyluniadau haniaethol, gan samplu delweddau ffynci sy’n dod o archwilio patrymau a gwneud marciau. Mae cynhyrchu celf trwy ddulliau traddodiadol a chydag agwedd ymarferol yn tanio ei hangerdd am ddylunio, gan ganiatáu iddi archwilio syniadau creadigol, yn rhannol trwy ‘ddamweiniau hapus’, sy’n ddeniadol yn weledol, yn arloesol ac yn arbrofol. Mae hi’n ymdrechu’n barhaus i greu argraff gyda’i gwaith, gan anelu at adael argraff barhaol ar y gwyliwr.
- Gwefan
- E-bost wlsndesigns@gmail.com
Mae gan Bethan, perffeithydd hunanhonedig, lygad craff am fanylion, a nodweddir ei dull dylunio gan newidiadau manwl tan iddi gyflawni’r canlyniad y mae’n ei ddymuno. Gan gredu’n gryf yn effaith ddofn newidiadau bach, mae ethos Bethan yn ei gyrru ar drywydd rhagoriaeth. Yn ystod ei semester olaf, bu’n cydweithio â Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gan fireinio ei sgiliau wrth arbrofi gyda dylunio a hyrwyddo.
Mae Bethan yn anelu at sianelu ei doniau i ddatblygu brand, pecynnu a theipograffeg, gan ddychmygu ei hun yn aelod gwerthfawr o dîm dylunio graffig mewn stiwdio ddylunio fywiog. Yr unig beth sy’n cyfateb i’w hangerdd am ddylunio yw ei hymroddiad i greu profiadau gweledol effeithiol.
- E-bost bdesign.graphicss@gmail.com
Mae Ceri yn ddylunydd graffig sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru. Mae ei gwaith dylunio graffig yn cynnwys ffeithluniau, brandio, pecynnu, a deunydd hyrwyddo digwyddiadau. Mae’n well gan Ceri ddefnyddio meddalwedd ddigidol ar gyfer ei dyluniadau, ond wrth ddefnyddio technegau traddodiadol, mae’n ffafrio argraffu RISO. Yn ystod ei hastudiaethau, mae Ceri wedi dysgu treiddio’n ddwfn i’w gwaith a herio ei hun trwy weithio y tu allan i’w pharth cysur. Mae arddull ddylunio Ceri fel arfer yn finimalaidd a gor-syml, gan ymgorffori lliwiau llachar, trawiadol gyda golwg beiddgar a chofiadwy.
Hoffai Ceri weithio i gwmnïau sy’n ymwneud yn benodol â dylunio ac sy’n arbenigo mewn dylunio.
- Gwefan
- E-bost cerilouisethomas@icloud.com
Mae Connie, sy’n ddylunydd graffig addawol, ar fin gadael ei hôl ar y byd/diwydiant creadigol trwy ei hangerdd am bopeth sy’n ymwneud â dylunio. Yn frwdfrydig am gyfuno estheteg ag ymarferoldeb, trwy ddarlunio a theipograffeg, mae gwaith Connie yn adlewyrchu ei hysbryd arloesol a’i sylw craff i fanylion. Gyda phortffolio sy’n arddangos ei hawydd i fynd i’r afael â heriau newydd a gwthio ffiniau dylunio, mae hi’n edrych ymlaen yn eiddgar at fwrw ati â phrosiectau proffesiynol lle gall ddod â gweledigaethau yn fyw a llunio naratifau deniadol trwy ei gallu i ddatrys problemau’n greadigol a’i gweledigaeth artistig.
- E-bost conniefdesigns@gmail.com
Mae Erin, dylunydd graffig uchelgeisiol sy’n frwd dros greadigrwydd, yn ffynnu ar gofleidio heriau newydd. Mae ei hangerdd cryf yn tanio ei brwdfrydedd dros ddylunio, ac mae hi’n edrych ymlaen yn eiddgar at fynd i’r afael â phrosiectau proffesiynol. Mae profiad Erin yn y brifysgol wedi ei harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y byd proffesiynol. Gyda chariad gwirioneddol at ddylunio, mae hi’n awyddus i ddod â syniadau ffres i’w gwaith. Mae Erin yn gyffrous i wneud ei marc yn y diwydiant dylunio graffig, gan arddangos ei hymroddiad a’i dawn greadigol wrth iddi gamu i’r cyfnod nesaf yn ei gyrfa.
- E-bost conniefdesigns@gmail.com
Byddai Gabriela yn disgrifio’i hun fel dylunydd arbrofol a chwilfrydig, sy’n awyddus i arbrofi gyda gwahanol ddulliau i gyfoethogi ei dyluniadau. Yn Ddylunydd Graffig amryddawn, ei nod yw uno technegau traddodiadol a digidol fel bod creadigrwydd yn treiddio trwy bob agwedd ar ei phrosiectau, gan gofleidio pob cyfle i ehangu ei set sgiliau. Mae Gabriela bob amser yn chwilio am ddulliau creadigol newydd o fynegi ei hun, wedi’u tanio gan awydd cryf am wybodaeth ac arloesedd. Mae astudio Dylunio Graffig yn parhau i fod yn un o’r dewisiadau gorau y mae hi wedi’i wneud.
- E-bost gabsob03@wp.pl
Fel dylunydd cydwybodol, mae Grainne yn ymchwilio o dan yr wyneb i gael ystyr dwfn i dreiddio trwy pob prosiect. Mae hi’n mwynhau ymchwil manwl, gan sicrhau bod pob dyluniad nid yn unig yn drawiadol yn weledol ond hefyd yn ysgogol yn ddeallusol. Mae ei gwaith yn ddarluniadol a minimalaidd, ac yn aml yn defnyddio lliwiau tawel, meddal sy’n hawdd ar y llygad. Mae pob prosiect y mae’n ei greu yn llwyfan i gymryd safiad ac i sbarduno sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, a thrwy ymgorffori hiwmor a ffraethineb, mae’n ychwanegu haenau o gymhlethdod i’w gwaith, gan ddenu sylw’r gwyliwr ar sawl lefel.
- Gwefan
- E-bost grainne.jamess@gmail.com
Mae Hunter yn ddylunydd graffig sy’n cyfuno teipograffeg, minimaliaeth a ffotograffiaeth gan gynhyrchu dyluniadau trawiadol a modern. Mae’n ffafrio dylunio pecynnu, brandio a marchnata. Yn y Drindod Dewi Sant, newidiodd Hunter ei arddull o ddull darluniadol a gorlawn i arddull fwy ystyriol a minimal. Yn ogystal ag ennill gwybodaeth a phrofiad technegol mae Hunter hefyd wedi magu hyder yn ei waith. Mae Hunter yn gobeithio cael gyrfa mewn dylunio graffig gyda brandiau mawr fel Fformiwla 1 neu Myprotein.
- Gwefan
- E-bost hares.graphics03@gmail.com
Mae Jacob yn egin ddylunydd graffig, sy’n mwynhau dylunio i’r we, graffeg seiliedig ar UX, a chynllun cylchgronau. Yn barod i ddechrau ar ei daith yrfaol, mae’n cyfuno estheteg yn fedrus ag ymarferoldeb, gan saernïo profiadau digidol sy’n apelio’n weledol. Gorwedd ei gryfder ym maes creu rhyngwynebau hawdd eu defnyddio a chynlluniau difyr sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd. Mae ymrwymiad Jacob i ragoriaeth yn disgleirio trwy ei sylw manwl at fanylion a dull datrys problemau arloesol. Mae’n parhau i fod yn ymroddedig i wthio ffiniau creadigol, gan gyflwyno atebion yn gyson sy’n cyfoethogi brandiau ac yn ennyn diddordeb defnyddwyr yn y byd digidol.
- Gwefan
- E-bost Jacob-Ferriday@hotmail.co.uk
Mae Jess yn ddylunydd sy’n rhoi llawer iawn o ofal i bob un o’i dyluniadau. Ei blaenoriaeth yw cynhyrchu gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth ac sy’n cyfrannu at wneud y byd yn lle gwell, boed hynny drwy greu rhywbeth effeithiol, drwy herio’r ffordd rydyn ni’n meddwl, neu drwy roi gwên ar wynebau pobl a goleuo eu diwrnod. Mae Jess wrth ei bodd yn cymysgu gwaith print a digidol i ddod â’i syniadau’n fyw. Mae hi’n siarad Cymraeg ac wrth ei bodd i gael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei dyluniadau.
- Gwefan
- E-bost jess@139creative.com
Mae Jiayi, sy’n enwog am ei meddwl arloesol a’i gallu cryf i ddatrys problemau, yn rhagori mewn dylunio graffig, gan flaenoriaethu creadigrwydd a phrofiad y defnyddiwr. A hithau wedi’i derbyn i raglenni o fri ym Mhrifysgol y Celfyddydau Llundain a Goldsmiths, nod Jiayi yw mynd i’r afael â materion cymdeithasol trwy ddylunio, gan ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd. Gyda’i dull teimladwy, mae’n darlunio ei hun fel storïwr gweledol, gan greu profiadau sy’n cael effaith ar y gymuned. Mae ymroddiad Jiayi i’w chrefft, a’i hymrwymiad i fynd i’r afael â materion dybryd, yn ei gwneud hi’n gaffaeliad amhrisiadwy i brosiectau arloesol.
- Gwefan
- E-bost zjyyy0910@gmail.com
Mae Joe yn ddylunydd graffig hoffus a hawdd mynd ato, sy’n rhagori mewn amgylcheddau tîm cydweithredol ac sy’n arddangos galluoedd cryf i weithio’n annibynnol. Mae ganddo lygad craff am welliant, gan fireinio’i grefft yn gyson. Mae gan Joe y ddawn i ymdrin ag estheteg aflêr (grynji), anhrefnus a minimaliaeth lân, sy’n amlygu ei ddull dylunio hyblyg ac unigryw. Mae ei ymrwymiad i dwf parhaus a’r gallu i addasu yn ei sefydlu fel cyfrannwr medrus ym maes dylunio graffig.
- E-bost joe@graff-shack.com
Dewch i gwrdd â Kisha Dibba, dylunydd graffig angerddol a chreadigol, sy’n adnabyddus am greu dyluniadau gweledol gwych sy’n mynd ymhellach nag estheteg yn unig. Gan arbenigo mewn effaith gadarnhaol, ymwybyddiaeth a datrys problemau, mae creadigaethau Kisha yn ymarferol ac yn ddeniadol yn esthetig. Gan gyfuno apêl weledol a chyfathrebu effeithiol, mae ei phortffolio yn arddangos amrywiol sgiliau, o frandio meddylgar i brintiau a graffeg a arweinir gan ymgyrchoedd. Mae personoliaeth allblyg, anturus, byrlymus Kisha yn ychwanegu rhyw apêl unigryw i’w gwaith. Mentrwch i mewn i’w byd dylunio bywiog, lle mae pob elfen greadigol yn adrodd stori am greadigrwydd, pwrpas, ac ymdeimlad o ysbryd anturus.
- E-bost kishadibbadesigns@outlook.com
Mae Laura yn ddylunydd uchelgeisiol ac arloesol sydd â llygad craff am fanylion. Mae hi’n ffafrio brandio corfforaethol beiddgar ac ymgyrchoedd lle gall fwrw iddi’n llawn! Mae’n mwynhau defnyddio lliw a theipograffeg i greu dyluniadau sy’n procio’r meddwl, sydd hefyd â neges glir. Yn sgil y dull hwn cafodd Laura ei dewis i fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Creative Conscience 2023 am ei hymgyrch ‘Ring’. Pan nad yw Laura y tu ôl i’w Mac, fel arfer gellir dod o hyd iddi ar y cae criced, ac yn y dyfodol, mae’n gobeithio cael ei hun yn dylunio yn y diwydiant chwaraeon.
- Gwefan
- E-bost laurawade.designstudio@outlook.com
Mae Lauren yn ddylunydd sydd wrth ei bodd â graffeg minimol, haniaethol ac uwchraddol. Mae angerdd Lauren am ffitrwydd wedi ei harwain at gael swydd gyda chwmni dillad chwaraeon yn dylunio citiau rygbi a phêl-droed tra’n rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gyda’i phrofiad yn y diwydiant a’r wybodaeth y mae wedi’i hennill yn y Drindod Dewi Sant, mae hi wedi dod yn ddylunydd rhagorol ac amlochrog, ac mae ei gwaith yn taro deuddeg gydag ymdeimlad o lawenydd ac optimistiaeth, gan adael argraff barhaol ar bawb sy’n dod ar ei draws.
- Gwefan
- E-bost elloramaegraphics@gmail.com
Mae Melicia yn ddylunydd unigryw a chreadigol gyda chariad at unrhyw beth beiddgar, lliwgar a hynod. Mae Melicia yn disgrifio ei hun fel perffeithydd, sy’n gefnogwr arbennig o ddyluniadau glân, miniog, slic. Mae hi’n hoff o ddylunio a brandio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ac wrth ei bodd yn darlunio. Mae astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi ei helpu i gyfuno ei chreadigrwydd â sgiliau technegol. Mae Melicia yn agored i gyflogaeth mewn amrywiol feysydd heblaw dylunio graffig, fel y cyfryngau cymdeithasol a marchnata, gan ddod â’i doniau dylunio a’i sensitifrwydd i feysydd lle mae galw amdanynt.
- E-bost evansmelicia@gmail.com
Fel dylunydd, mae Rebecca’n hoffi arbrofi gyda dulliau argraffu ac arddulliau celf traddodiadol, gan edrych ar gyfryngau amgen fel paentio gwydr. Mae ei harddull ddylunio’n cwmpasu prosesau hen a modern gyda’r nod o gynhyrchu prosiectau sy’n cyflawni’r gofynion ond sydd hefyd yn rhoi ymdeimlad o ystyr ac yn dod â gwên i’r gwyliwr. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar arwyddion adeiladau hanesyddol a dogfennaeth atgynhyrchu’r 1940au ar gyfer digwyddiad aml-gyfnod yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae Rebecca’n anelu at archwilio dylunio ar gyfer ffilm a theledu, gan atgynhyrchu celf a phropiau ar gyfer dyluniadau set.
- Gwefan
- E-bost rebeccahodgson217@gmail.com
Mae Sameeksha yn fyfyrwraig ryngwladol o Mumbai sydd ag angerdd am adrodd straeon gweledol a datrys problemau’n greadigol. Mae ei phortffolio yn arddangos ystod amrywiol o brosiectau, gan ddangos llygad craff am estheteg. Mae hi bob amser yn gwneud yn siŵr ei bod yn ymgorffori ei hangerdd am ddarlunio a phaentio yn ei phrosiectau dylunio. Gyda’i hagwedd ddiflino at ddysgu, mae’r fyfyrwraig hon yn dod â photensial hwyliog a chreadigol i unrhyw brosiect. Ar hyn o bryd mae hi’n gwneud interniaeth gydag ARAAD Atelier lle mae hi wedi dylunio brandio’r cwmni. Ar wahân i gelf a dylunio, mae hi hefyd yn chwarae pêl-droed.
- Gwefan
- E-bost samusreeju@gmail.com
Fel dylunydd graffig addawol iawn, mae Sky Joce yn dod â chyffyrddiad unigryw i bob prosiect. Gyda dawn am ddylunio a llygad craff am fanylion, maent yn sefyll allan yn y maes. Yn awyddus bob amser i archwilio syniadau newydd a gwthio terfynau creadigol, mae Sky ar berwyl i ail-ddychmygu adrodd straeon gweledol. Er eu bod ond megis dechrau, mae eu hangerdd a’u hymrwymiad yn disgleirio drwodd. Gyda phob prosiect, maent yn gwneud argraff, yn barod i wneud eu ffordd ym myd deinamig dylunio.
- Gwefan
- E-bost skyjoce@gmail.com
Mae Thomas yn ddylunydd creadigol sy’n cael ei ysgogi gan ei gariad at ddarlunio a minimaliaeth. Trwy ei angerdd i greu a braslunio syniadau, mae’n dod o hyd i ffyrdd newydd yn barhaus o ymdrin â’i ddyluniadau ac i ddatblygu’r rhai sydd â’r potensial mwyaf, tan ei fod yn fodlon â’r canlyniad. Trwy astudio gyda’r Drindod Dewi Sant, mae wedi gallu datblygu ei alluoedd a’i ddealltwriaeth o ddylunio ymhellach i fod yn ddylunydd graffig mwy hyderus. Mae’n gobeithio defnyddio ei ddealltwriaeth o ddylunio graffig i fynd i mewn i faes addysgu celf.
- Gwefan
- E-bost tomcbenn@gmail.com
Mae Yasmin yn ddylunydd graffig talentog a phenderfynol sydd wedi wynebu a goresgyn llawer o heriau yn ei bywyd. Mae ganddi bersbectif unigryw ar y byd ac mae’n cael ei gyrru gan ei hangerdd am greu dyluniadau trawiadol ac effeithiol yn weledol. Mae Yasmin yn herio ei hun yn barhaus i archwilio posibiliadau creadigol newydd ac yn dangos bod dylunio’n gallu creu datrysiadau crefft sy’n mynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn. Mae hi wedi ymrwymo i ddysgu a thyfu fel dylunydd ac mae’n hyderus y bydd yn parhau i lwyddo yn y dyfodol.
- Gwefan
- E-bost yasmindesigns24@gmail.com