Cyfleusterau Ffilm a Theledu
Cyflwyniad
Fel myfyriwr BA Ffilm a Theledu bydd gennych fynediad at raglenni Adobe a chyfrifiaduron Mac a’r Creative Cloud yn cynnwys Adobe Premiere ac After Effects. Rydym ni wedi’n lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas – adeilad prydferth sydd â sgrin maint sgrin sinema, a theatr at ddefnydd myfyrwyr. Y lleoliad perffaith i fod yn greadigol.
Manylion
Gyda phartneriaid lleoliadau o fewn ac o gwmpas Abertawe, byddwn yn aml yn saethu ar leoliad mewn safleoedd megis Sw Drofannol Plantasia, Theatr y Grand, Amgueddfa Abertawe, Pier y Mwmbwls, Man Geni Dylan Thomas a Neuadd Brangwyn i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio ar leoliad i adrodd straeon.
Crynodeb o’r cyfarpar
-
1 Camera Sinema RED (RED ONE)
-
1 Camera Safon Netflix (C70)
-
Amrywiaeth o Gamerâu Ffilm ffactor ffurf fach sy’n cael eu defnyddio i ffilmio rhaglenni dogfen a ffilmiau Hollywood (Blackmagic a Sony)
-
Amrywiaeth o gamerâu DSLR
-
Toreth o lensys, o lensys y 1940au i lensys anamorffig newydd sbon o safon Hollywood
-
5 set o gyfarpar recordio sain o safon broffesiynol
-
Cyfarpar Sgrin Werdd
-
Goleuadau i’r llwyfan a’r sgrin, yn amrywio o oleuadau twngsten clasurol hyd at oleuadau LED o’r radd flaenaf
-
Amrywiaeth o gyfarpar symud yn cynnwys dolïau, gimbals a llithryddion
-
Cyfarpar teledu / ffrydio byw