Profiad Jacob yn PCYDDS
Enw: Jacob Davies-Hannen
Cwrs: µþ³§³¦&²Ô²ú²õ±è;±Ê±ð²Ô²õ²¹±ð°ù²Ôï²¹±ð³Ù³ó
Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch Ffiseg, Mathemateg, Celf a Bagloriaeth Cymru Bryn Tawe
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Jacob ar BSc Pensaernïaeth
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Lleoliad y campws yn wych, mae’n agos at y dref sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r hyn y gallai fod ei angen arnoch chi o fewn pellter cerdded.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Pan ymwelais â diwrnod agored Pensaernïaeth, cwrddais i â rhai o’r darlithwyr, ac fe wnaeth eu brwdfrydedd a’u hangerdd am bensaernïaeth a’r cwrs fy ysbrydoli.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau rwy’n mwynhau gwneud gwaith gof arian ynghyd â syrffio a phadlo SUP.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl i mi raddio, rwy’n gobeithio cael lleoliad mewn practis penseiri cyn dychwelyd i’r brifysgol i orffen fy ngradd.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r amrywiaeth yn y gwaith, o dai i brosiectau cymunedol, hyd yn oed gweithio ar gais ar gyfer cystadleuaeth fyw.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS, mae’r cyfleusterau’n wych, mae pawb yn barod iawn i helpu ac mae lleoliad y campws yn ddelfrydol, o ran canol Abertawe a Gŵyr hefyd.