ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ceisiadau I ffilmio / tynnu lluniau / recordio ar safleoedd y Brifysgol

Ceisiadau I ffilmio, tynnu lluniau, a recordio ar safleoedd y Brifysgol. Rydym yn cydnabod rôl bwysig y cyfryngau wrth gyfathrebu cyflawniadau a dyheadau’r Brifysgol ac rydym yn ceisio hwyluso’r gwaith hwn pryd bynnag y bo modd.

Gall y Brifysgol gynnig mynediad i ystod eang o leoliadau mewnol ac allanol ar gyfer ffilmio masnachol ac anfasnachol i gynhyrchwyr a gwneuthurwyr ffilm.

Mae ein hystâd yn cynnwys lleoliadau yn Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth. Mae’r tu mewn ac allan i’n hadeiladau yn amrywio o adeiladau rhestredig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i bensaernïaeth fwy modern.

Mae gennym offer ac adnoddau arbenigol ar draws ein campysau gan gynnwys Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen sy’n gartref i gasgliadau arbennig y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan a’r dechnoleg a’r cyfleusterau diweddaraf ar ein campws yn Abertawe.

Newyddiadurwyr a Ffilmio anfasnachol

Cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus os hoffech ffilmio eitem newyddion yn y Brifysgol neu os ydych yn fyfyriwr sy’n cyflawni gwaith prosiect yn cynnwys ffilmio ar y campws. Gofynnir yn garedig i staff sy’n cymryd rhan mewn gwaith â’r cyfryngau gysylltu â’r tîm Cyfathrebu i roi gwybod iddynt am unrhyw geisiadau ffilmio, cyfryngau. Byddwn yn cysylltu ag adrannau eraill y Brifysgol gan gynnwys Gweithrediadau i geisio’r caniatâd perthnasol.

Tîm Cyfathrebu: 

Ceisiadau mewnol: Cyfathrebu-Communications@uwtsd.ac.uk

Ceisiadau Allanol: Ywasg@pcydds.ac.uk

Ffilmio Masnachol

Os hoffech chi ymholi am ffilmio yn y Brifysgol, cysylltwch â’r tîm Gweithrediadau i drafod eich ymholiad yn y lle cyntaf.

Mae’n rhaid rhoi pob caniatâd perthnasol, a chyflwyno dogfennaeth cyn y ffilmio. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys tystiolaeth o fanylion yswiriant ac asesiad risg llawn yn ogystal â chytundeb lleoliad a chytundeb ar ffi lleoliad.

Cyflwynwch eich cais trwy lenwi’r ffurflen hon