Profiad Vinicius yn PCYDDS
Enw: Vinicius Dreher
Cwrs: BEng Peirianneg Beiciau Modur
Astudiaethau Cyfredol: Ymgeisydd PhD
Tref eich cartref: Sao Paulo
Profiad Vinicius ar BEng Peirianneg Beiciau Modur
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roeddwn wrth fy modd â’r cyfle i ddysgu cysyniadau damcaniaethol mewn darlithoedd a’u profi’n gyflym mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf. Oherwydd argaeledd injan Dyno, CNC, rholio Dyno, a gweithdy beiciau modur ardderchog roedd modd archwilio ymarferol ac arbrofi. Gwnaeth yr integreiddio theori ac ymarfer hwn fy mhrofiad addysgol yn ddiddorol ac yn effeithiol.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei fod yn cynnig yr unig raglen baglor sy’n canolbwyntio’n benodol ar beirianneg beiciau modur. Roedd y pwyslais unigryw ar feiciau modur, ynghyd â hyfforddiant cynhwysfawr a mynediad at adnoddau arloesol, yn gyfle heb ei ail i ymchwilio’n ddwfn i’r maes arbenigol hwn.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i fy astudiaethau, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a chymryd rhan mewn rasio beiciau modur. Mae fy angerdd am feiciau modur yn ymestyn y tu hwnt i’m bywyd academaidd a phroffesiynol, gan gyfoethogi fy mywyd personol a’m hobïau.
Yn ogystal, rwyf wedi cyd-sefydlu egin fusnes newydd gyda chyn-fyfyriwr arall o’r Drindod Dewi Sant, gan ganolbwyntio ar ddeinameg beiciau modur datblygedig trwy gais symudol. Mae cydbwyso amser teuluol, fy egin fusnes a diddordebau rasio yn cadw fi ar y sylfaen ac yn llawn cymhelliant.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar hyn o bryd rwy’n dilyn PhD yn Y Drindod Dewi Sant, gan ganolbwyntio ar ddatblygu llwyfan efelychu rasio beiciau modur deallus. Rhoddodd fy ngradd baglor mewn peirianneg beiciau modur sylfaen gadarn i mi mewn gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol, sydd wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu fy ngyrfa academaidd a phroffesiynol.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Fy hoff agwedd ar y cwrs oedd y cyfle i blymio’n ddwfn i mewn i gymhlethdodau deinameg beiciau modur. A minnau’n un brwd am feiciau modur, cefais foddhad aruthrol wrth roi prawf ar gysyniadau damcaniaethol drwy ddefnyddio algorithmau uwch.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS yn fawr oherwydd ei rhaglenni unigryw ac arbenigol, yn enwedig mewn peirianneg beiciau modur. Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth fanwl a phrofiad ymarferol sydd heb ei ail.