Antibiotic Resistance
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd mai “ymwrthedd gwrthfiotig yw un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd byd-eang, diogelwch bwyd, a datblygiad”. Prif achos ymwrthedd yw gor-ddefnyddio meddyginiaethau gwrthfiotig, naill ai am eu bod ar gael heb bresgripsiwn meddygol neu drwy or-ragnodi.
Ap yw MicroGuide™ i helpu rhagnodwyr ysbytai ddethol y cyffur gwrthficrobaidd priodol, drwy gyflwyno canllawiau meddyginiaeth ysbytai mewn ffordd hawdd ei defnyddio.
Gall MicroGuide™ greu modylau cefnogi penderfyniadau (DSMs) ar gyfer cyflyrau penodol, fel bod rhagnodwyr yn gallu ateb cyfres o gwestiynau amodol ynghylch ffactorau fel difrifoldeb clefyd, alergeddau, peryglon ymwrthedd a statws beichiogrwydd er mwyn cael eu tywys at ddewis o gyffuriau argymelledig neu mewn rhai achosion neges i geisio cyngor arbenigol microbioleg pellach.
Rydym yn cynnal hap-dreial rheoledig o DSMs MicroGuide ar gyfer pum haint cyffredin (UTI, CAP, HAP, haint y croen ac adeiledd y croen a haint intra-abdomenol) i asesu’r effaith ar batrymau rhagnodi ar lefel ysbyty cyfansymiol. Nid ydym yn casglu data ar lefel cleifion na chlinigwyr.
How to Participate
Mae gan yr astudiaeth adolygiad moeseg GIG ffafriol, cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ac mae wedi’i chynnwys ar y portffolio NIHR.
Ariennir yr astudiaeth gan Merck Sharp and Dohme (MSD) ond nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw rai o’u cynhyrchion fferyllol. Rydym yn chwilio am ragor o Ymddiriedolaethau GIG i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Yn ystod cyfnod yr astudiaeth, bydd cymorth rhad ac am ddim ar gael gan dîm yr astudiaeth er mwyn adeiladu DSMs syml ond cynhwysfawr i gymryd lle canllawiau naratif traddodiadol.
Os hoffech fynegi diddordeb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’n tîm ymchwil mewn e-bost.
Cwrdd â’r Tîm
-
- Dr Phillip Scott, PCYDDS
-
- Dr Kieran Hand, GIG Lloegr
- Yr Athro Sue Latter, Prifysgol Southampton
-
- JingXiu Ouyang, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Portsmouth
- Dr Kordo Saeed, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbyty Athrofaol Southampton
- Yvette Hibberd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Portsmouth
- Yr Athro Paul Rutter, Prifysgol Portsmouth
- Dr Ngianga Kandala, Prifysgol Portsmouth
- Michaelene Holder-March, PCYDDS
Dogfennau
Mae’r cynnwys hwn yn deillio o ffynhonnell allanol , ac felly nid oes gan y Brifysgol unrhyw reolaeth dros yr iaith y cyhoeddir y dogfennau hyn ynddi.