Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Llawn amser) (CertHE)
Os ydych chi’n awyddus i gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol yrfa ac astudio gradd sy’n ffitio o gwmpas eich gwaith, ein rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle yw’r dewis delfrydol.
Ffocws y rhaglen hon yw eich helpu i lwyddo yn eich gyrfa drwy addysgu sgiliau a strategaethau hanfodol i chi ar gyfer y gweithle. Byddwch yn archwilio arferion arweinyddiaeth allweddol a strategaethau rheoli sy’n hanfodol ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’r rhain wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth.
Trwy drafod a dadlau, byddwch yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac yn dysgu i ddatrys problemau yn y gweithle yn effeithiol. Bydd y cwrs hefyd yn helpu i wella eich deallusrwydd emosiynol, a fydd yn eich galluogi i weithio’n dda gydag eraill mewn tîm. Rhan allweddol arall o’r cwrs yw arfer adfyfyriol, sy’n eich annog i werthuso eich perfformiad eich hun a nodi meysydd i’w datblygu.
Un o nodweddion unigryw’r rhaglen hon yw ei hyblygrwydd. Gallwch astudio a dal ati i weithio ar yr un pryd, diolch i’n hopsiynau astudio hyblyg. Caiff y cwrs ei gyflwyno gyda’r nos ac ar benwythnosau, gyda rhai sesiynau ar ddydd Sadwrn ac eraill gyda’r nos yn ystod yr wythnos. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu mewn canolfannau dysgu yn y gymuned, sy’n ei wneud yn gyfleus ac yn hygyrch ble bynnag yr ydych chi.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i wneud cais am y rhaglen hon – mae mynediad yn syml, trwy gais ar-lein. Ar ôl cofrestru, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn datblygu arweinyddiaeth, megis rheoli pobl, rheoli tîm, a gwella eich sgiliau cyfathrebu mewn arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gymhwyso arweinyddiaeth yn y gweithle yn effeithiol, gan eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer dilyniant gyrfa a’ch helpu i lwyddo mewn unrhyw rôl.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr ymarferol a hyblyg i fyd arweinyddiaeth a rheolaeth, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen yn eich gyrfa a dylanwadu ar eich sefydliad.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth wraidd ein rhaglen Arwain a Rheoli Cymhwysol yn y Gweithle mae ymrwymiad i ddysgu ymarferol a pherthasol. Mae’r rhaglen hon yn annog arfer adfyfyriol, gan eich galluogi i gymhwyso sgiliau arwain a strategaethau rheoli mewn lleoliadau gweithle. Trwy feithrin meddwl beirniadol, gwaith tîm a gweithio’n annibynnol, rydym yn eich helpu i ddod yn arweinydd hyderus sy’n barod i gamu ymlaen yn eich gyrfa a bod yn gyflogadwy yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen gref mewn arferion arweinyddiaeth a datrys problemau. Byddwch yn dysgu hanfodion cyfathrebu rheoli, sut i fynd i’r afael â phenderfyniadau cymhleth, a datblygu eich arfer proffesiynol eich hun. Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch wedi ennill sgiliau arweinyddiaeth allweddol a chael profiad o weithio’n effeithiol mewn timau ac yn annibynnol, gan eich paratoi i lwyddo ym modylau’r dyfodol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol byddwn fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.
Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.
Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.
I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:
- Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
- Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
- Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
-
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchog”.
Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.