Rheolaeth Ariannol (Llawn amser) (MSc)
Mae ein rhaglen MSc Rheolaeth Ariannol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn y sector cyllid byd-eang. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau symud ymlaen ym maes cyllid a rheolaeth, gan gynnig cyfuniad deinamig o egwyddorion damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol. P’un a ydych yn anelu at arbenigo mewn cyllid corfforaethol, deall marchnadoedd ariannol, neu feistroli cyfrifeg ariannol, mae’r rhaglen hon yn darparu’r arbenigedd sydd ei angen i gael gyrfa lwyddiannus.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio egwyddorion ariannol hanfodol, gan gynnwys technegau uwch mewn adrodd, llywodraethu a rheoli perfformiad. Mae’r rhaglen hefyd yn ymchwilio i heriau cyfoes ym maes gwasanaethau ariannol, gan dynnu sylw at yr ystyriaethau moesegol, rheoleiddiol a strategol sy’n hanfodol i’r sector. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael â heriau busnes byd-eang ac yn mireinio eu sgiliau gwneud penderfyniadau, gan eu paratoi ar gyfer rolau cymhleth mewn diwydiannau lle mae mewnwelediad ariannol yn sbarduno llwyddiant.
Mae strwythur y rhaglen yn cynnwys dwy ran: chwe modwl a addysgir a chynnig ymchwil ffurfiannol sy’n arwain at draethawd hir 15,000 o eiriau. Mae’r prosiect terfynol hwn yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd fel cynaliadwyedd, arloesi neu ymgynghori, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer dilyniant gyrfaol ym maes cyllid.
Wedi’i chyflwyno gan arbenigwyr y diwydiant ac academyddion, mae’r MSc Rheolaeth Ariannol yn cynnwys mynediad at offer ac adnoddau proffesiynol, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol. P’un a ydych yn dyheu am weithio ym maes ymgynghori, dadansoddi ariannol, neu reolaeth weithredol, mae’r cwrs hwn yn cefnogi eich taith i ddod yn arweinydd ym myd cyllid sy’n symud yn gyflym ac yn rhyng-gysylltiedig.
Mae graddedigion yn gadael gyda’r sgiliau i ragori mewn rolau ar draws gwasanaethau ariannol, cyllid corfforaethol, a thu hwnt. Y rhaglen hon yw eich llwybr i feistroli egwyddorion cyllid gan roi eich hun mewn sefyllfa i lwyddo mewn marchnad gystadleuol a byd-eang.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen MSc Rheolaeth Ariannol yn pwysleisio ymagwedd gymhwysol a arweinir gan ymchwil at ddysgu. Gan gyfuno theori academaidd ag arfer byd go iawn, mae’r cwrs yn meithrin meddwl beirniadol, sgiliau dadansoddol ac arbenigedd proffesiynol. Wedi’i gyflwyno gan academyddion ac ymarferwyr diwydiant profiadol, mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion deinamig y sector cyllid byd-eang trwy brosiectau cydweithredol a defnyddiau ymarferol.
Dros chwe modwl craidd, byddwch yn archwilio meysydd hanfodol fel adrodd corfforaethol, llywodraethu, rheoli perfformiad, a gwneud penderfyniadau ariannol. Byddwch yn ymgysylltu â heriau busnes byd-eang a strategaethau ariannol uwch, sy’n arwain at gynnig ymchwil ffurfiannol a thraethawd hir 15,000 o eiriau, lle byddwch yn cymhwyso’ch gwybodaeth i faes ariannol arbenigol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth sydd â gradd a/neu gymwysterau proffesiynol ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, arweinyddiaeth a rheolaethol a allai gael eu derbyn i raglen meistr yn ôl disgresiwn Cyfarwyddwr y Rhaglen.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 21 oed a bod ag un neu fwy o’r canlynol:
1. Gradd Anrhydedd gydnabyddedig neu gyfwerth.
2. Cymhwyster proffesiynol.
Ymgeiswyr sydd dros 25 oed ac nad ydynt yn cwrdd â’r uchod
Gellir derbyn meini prawf ar y cwrs ar yr amod y bernir bod eu profiad proffesiynol neu reolaethol yn briodol.
Mae ymgeiswyr sydd â chymhwyster cyfrifeg proffesiynol perthnasol (e.e. ACCA, CIMA, ACA) ar lefel credyd 7 yn debygol o gael eu derbyn gydag eithriad rhag modiwlau yn Rhan 1. Mae’n debygol mai dim ond er mwyn ennill yr MSc y mae’n rhaid iddynt gwblhau’r traethawd hir.
-
Does dim arholiadau. Bydd asesu’n cymryd lle drwy ysgrifennu adroddiadau, posteri academaidd, portffolios, arddangosiadau ymarferol, cyflwyniadau byr a chreu adnoddau dysgu ar gyfer rheolwyr.
-
Mae costau ychwanegol yn cynnwys y gost orfodol o ymaelodi â CIPD fel myfyriwr, a’r gost ddewisol o brynu gwerslyfrau.
Mae ymaelodi â’r CIPD fel myfyriwr yn costio £109 y flwyddyn, ynghyd â ffi ymuno o £40. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws CIPD Lefel 7 ac, yn amodol ar flwyddyn o brofiad, i wneud cais am Aelodaeth Siartredig o’r CIPD.