Busnes Cymhwysol (Marchnata) (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r rhaglen Busnes Cymhwysol (Marchnata) wedi’i chynllunio i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y byd busnes cystadleuol sydd ohoni. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn rheoli manwerthu, ymgynghori, neu weithio gyda busnesau bach a chanolig a busnesau newydd, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r i chi’r gallu i ddatblygu strategaethau marchnata effeithiol mewn lleoliadau yn y byd go iawn.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu datrysiadau marchnata allweddol a sut i’w gweithredu mewn gwahanol fathau o fusnesau, o gorfforaethau rhyngwladol i gymunedau lleol. Byddwch yn archwilio meysydd fel ymddygiad prynwyr, ymchwil i’r farchnad, a marchnata digidol, ar yr un pryd ag adeiladu sgiliau rheoli busnes cryf. Drwy weithio ar brosiectau byw, byddwch yn ennill profiad ymarferol, gan wella eich dealltwriaeth o farchnata strategol a sut i fynd i’r afael â heriau modern.
Mae ein cwrs yn eich paratoi ar gyfer rolau marchnata ar draws sawl sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Byddwch yn datblygu’r gallu i reoli a gwella profiad y cwsmer, deall brandio a marchnata partneriaeth, a meistroli’r defnydd o ddulliau cyfathrebu marchnata integredig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i fesur effeithiolrwydd ymgyrchoedd ac integreiddio datblygiadau technolegol er mwyn gam ar y blaen mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.
Gyda ffocws ar ddilyniant gyrfa, mae’r cwrs yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer rolau arweinyddiaeth ym maes marchnata. Bydd y sgiliau rydych chi’n eu hennill yn eich gwneud chi’n werthfawr iawn yn y farchnad swyddi sydd ohoni.
Wedi’i chyflwyno ar-lein, mae’r rhaglen yn cynnig profiad dysgu hyblyg a diddorol. Bydd gennych fynediad at weithgareddau dysgu wedi’u teilwra a chynnwys fideo unigryw, a hynny oll wrth gael eich cefnogi gan arbenigwyr y diwydiant. Mae’r dull hwn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda’r sgiliau academaidd ac ymarferol i lwyddo.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i ymuno â’r gweithlu gydag arbenigedd marchnata a all eich helpu i sefyll allan. P’un a ydych yn gobeithio gweithio i gwmni byd-eang neu gyfrannu at fusnes bach, bydd y radd hon yn eich paratoi am lwyddiant.
.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen Busnes Cymhwysol (Marchnata) yn pwysleisio dysgu seiliedig ar ymholiad. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol wrth archwilio heriau marchnata’r byd go iawn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol, creadigrwydd, a datrys problemau. Mae ein hymagwedd yn cyfuno theori academaidd â dysgu ymarferol, gan sicrhau bod graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y dirwedd farchnata sy’n esblygu’n gyflym.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio cysyniadau sylfaenol marchnata a’i rôl mewn busnes. Mae’r modylau’n cynnwys egwyddorion marchnata, ymddygiad defnyddwyr, ac ymchwil i’r farchnad. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o sut mae marchnata wedi addasu i’r byd digidol wrth ddatblygu sgiliau ymarferol fel creu strategaethau marchnata, dadansoddi cwsmeriaid, a segmentu’r farchnad.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol, gan ganolbwyntio ar farchnata digidol a dulliau cyfathrebu marchnata integredig. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer a llwyfannau digidol yn effeithiol, datblygu strategaethau ar gyfer ymgysylltu â chwsmeriaid, ac archwilio tueddiadau newydd yn yr economi ddigidol. Mae’r flwyddyn hon yn rhoi pwyslais ar brosiectau ymarferol, gan gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i heriau marchnata’r byd go iawn.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio strategaeth farchnata a chynllunio ar lefel strategol, gan ganolbwyntio ar sut i osod brandiau, mynd i mewn i farchnadoedd newydd, a chystadlu yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn dadansoddi data mawr a lleoli mewn marchnadoedd cystadleuol, gan ddatblygu sgiliau uwch i fesur a gwella perfformiad marchnata. Daw’r flwyddyn i ben drwy ddylunio cynllun marchnata cynhwysfawr ar gyfer sefydliad go iawn.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 pwynt UCAS ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith* sylweddol ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg.
*Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.
-
Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau o’r“byd go iawn” sy’n dangos gallu myfyriwr i gymhwyso’i wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn datblygu galluoedd gan gynnwys:
- Asio’r technolegau modern gorau i lunio strategaethau marchnata dylunio sy’n effeithiol yn yr economi ddigidol
- Llunio strategaethau grymus ar gyfer ymgysylltu â chwsmeriaid gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac offer digidol eraill
- Datblygu strategaethau i adeiladu brandiau effeithiol yn gyflym
- Deall sut i weithio gyda thimau o gefndiroedd amrywiol
- Llunio strategaethau twf byd-eang sy’n sensitif yn ddiwylliannol
- Deall yr effaith y gall tueddiadau byd-eang eu cael ar fusnesau lleol a’r cyfleoedd y gallant eu creu.
Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Swyddog Gweithredol Cyfrifon
- Rheolwr Brand
- Rheolwr Marchnata
- Marchnatwr Digidol