黑料吃瓜网

Skip page header and navigation

Yngl?n ?'r Academi Sinoleg

Nodweddion Arbennig y rhaglenni gradd hyn

  1. Mabwysiedir dull addysgu dwyieithog Tsiein?eg-Saesneg yn yr Academi Sinoleg. Cyflwynir 80% o’r darlithoedd yn y Tsiein?eg ac 20% yn y Saesneg. Cynhelir 60% o’r asesiadau yn y Tsiein?eg a 40% yn y Saesneg.
     
  2. Byddwch yn archwilio tair agwedd ar yr hen fyd Tsieineaidd: Conffiwsiaeth, Bwdhaeth a Daoaeth sy’n cynrychioli tair rhan hanfodol y traddodiad hynafol Tsieineaidd. Felly, bydd rhai modylau cyffredin, yn enwedig modylau sy’n canolbwyntio ar yr iaith Tsiein?eg glasurol a gwerthoedd hanfodol ac egwyddorion diwylliannol a gwleidyddol, yn cael eu rhannu gan y 3 chwrs MA gwahanol.
     
  3. Byddwch yn astudio gydag ysgolheigion ac arbenigwyr testun ym maes crefydd, iaith a syniadau Tsieineaidd hynafol o bob cwr o’r byd.
     
  4. Byddwch yn astudio trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn fanwl ? thestunau, syniadau a gweithiau Tsieineaidd hynafol sy’n cwmpasu meysydd Conffiwsiaeth, Bwdhaeth a Daoaeth.
     
  5. Byddwch yn dod yn un o’r myfyrwyr cyntaf i gofrestru ar y casgliad unigryw hwn o raglenni ?l-raddedig.
     
  6. Mae’r cyrsiau wedi’u hanelu nid yn unig at ddysgu iaith, crefydd a diwylliant Tsieina hynafol ond at ddechrau’r hyfforddiant ar gyfer athrawon Sage a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol beunyddiol a’u gweithgareddau addysgu eu hunain.
     
  7. Byddwch yn astudio gan ddefnyddio’r dull addysgeg unigryw sy’n deillio o’r model addysgol ‘Royal Great Learning’ (皇家太學), sy’n dibynnu ar astudio a myfyrio’n ddwys ar destunau.
     
  8. Byddwch yn canolbwyntio eich astudiaeth ar astudiaeth destunol fanwl o’r Complete Library of the Four Branches of Literature.

Sut mae'r Academi Sinoleg yn Llambed mor Unigryw?

Y Ddarpariaeth Addysgu(教學方法)

Mae’r Academi’n defnyddio methodoleg addysgu trochi (oedd yn gyfarwydd i’r doethion hynafol) trwy gyflwyno’r rhaglen yn ddilyniannol, un modwl ar y tro. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r myfyrwyr ganolbwyntio eu dysgu ar un pwnc nes eu bod wedi ymgolli’n llwyr yng nghynnwys ac ystyr dwfn y testunau Tsieineaidd ac yn gallu trosi eu dysgu yn ddealltwriaeth a mewnwelediad dwfn erbyn diwedd pob modwl.

Mae chwe modwl ym mhob rhaglen MA. Bydd pob modwl yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o wyth wythnos yn olynol gyda chyfuniad o ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, hunanastudio, ymarfer cyflwyno ac ysgrifennu traethodau. 

Gan ddilyn dull tebyg i raglen BA, mae tair lefel i gyd a phum modwl ar bob lefel; tra bod y rhaglen cyn-BA yn cynnwys pum modwl dros gyfnod o flwyddyn academaidd.

Rhoddir pwyslais mawr ar y cyflwyniad i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu cyfleu’r delfrydau a’r wybodaeth a ddysgwyd yn effeithiol.

Deunydd Addysgu (教學材料)

Cred yr Academi ym mhwysigrwydd canolog dysgu ac addysgu’n uniongyrchol o’r testunau ysgrifenedig Tsieineaidd hynafol eu hunain. Felly mae myfyrwyr yn cael eu trochi’n llawn yn y testunau hynafol sy’n rhan hanfodol o’r broses ddysgu. Mae pob modwl yn cael ei arwain gan weithiau llenyddol y doethion Tsieineaidd hynafol ac yn cael eu cysylltu ? detholiadau o’r gweithiau hynny.

Amserlen Addysgu (教學時間)

Bydd y rhaglen MA yn rhychwantu 72 wythnos yn olynol, ac eithrio’r gwyliau cyhoeddus, er mwyn rhoi digon o amser a ffocws i’r myfyrwyr allu canolbwyntio a dysgu’r testunau hynafol a astudir yn fanwl, ac i gwblhau asesiadau astudio ac ymarfer cyflwyniadau.

Mae pob rhaglen ar lefel BA fel arfer rhwng 44 a 46 wythnos o hyd; mae’r rhaglen Cyn-BA yn rhedeg am oddeutu 40 wythnos.

Diwylliant Addysgu (教學文化)

Mae’r Academi Sinoleg yn rhoi pwyslais mawr ar gyflwyno a chyfathrebu syniadau, cysyniadau a dysgeidiaethau’r doethion Tsieineaidd hynafol yn ffurfiol i weddill y gr?p seminar.

Bydd myfyrwyr yn gweithio’n agos ac ar y cyd ? staff addysgu i annog cyfranogiad gan fyfyrwyr a dysgu gan gyfoedion, a thrwy hynny weithredu mewn amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol sy’n unigryw i’r Academi, addysgeg y cyfeiriwn ati fel y “Diwylliant Sinoleg Teuluol”.

Mae diwylliant dysgu o’r fath yn caniatáu i’r athrawon a’r myfyrwyr weithio a dysgu gyda’i gilydd yn union fel teulu mawr o sinolegwyr. Yn y modd hwn mae’r Academi Sinoleg yn amgylchedd clos a chefnogol sy’n dod at ei gilydd i ddysgu ac astudio ar y cyd destunau a syniadau gwych y diwylliant Tsieineaidd traddodiadol.

Dyfyniad

Byddwch yn wybodus. Byddwch yn ostyngedig.
Byddwch yn gyfrifol am gytgord y byd.

Yr Hybarch Feistr Chin Kung

Darganfod Cytgord y Tair Ysgol Dysgeidiaeth

Roedd sefydlu’r Academi Sinoleg ym mis Gorffennaf 2016 fel sefydliad ar y cyd rhwng Sefydliad Addysgol Amlddiwylliannol Chin Kung a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi dechrau cyfnod newydd yn astudiaethau diwylliant, gwerthoedd a moeseg hynafol Tsieina.

Mae sylwebwyr wedi hen wybod bod Tsieina yn parhau i fod yn un o’r gwareiddiadau hynaf yn y byd, a bod diwylliant hynafol Tsieina yn cael ei siapio a’i lywodraethu gan bwyslais ar werthoedd traddodiadol, ffyddlondeb mab/merch a pharchu a choffáu hynafiaid.

Diben yr Academi, trwy addysg, hyfforddiant a goleuedigaeth, yw ailgyflwyno’r dreftadaeth a’r diwylliant hynafol hwn i’r gymuned ryngwladol, ar adeg pan fo cymaint o newid ac anhrefn  yn y byd heddiw yn tanseilio ffydd a chred pobl mewn cytgord cymdeithasol, parch o’r ddwy ochr a heddwch.

Mae’r Academi yn ceisio arfogi ei myfyrwyr ? gwybodaeth gadarn a helaeth am ddiwylliant a gwerthoedd Tsieineaidd hynafol, ynghyd ?’r gallu i drawsnewid y wybodaeth honno yn ddoethineb a chryfder. Gall gwybodaeth fod yn rym, ond heb y ddoethineb, y ddirnadaeth a’r ddealltwriaeth ddofn sy’n cyd-fynd ? hi, mae’n parhau i fod yn ddarn ymadrodd ofer.

Dymuna’r Academi arwain ac addysgu ei myfyrwyr tuag at ddealltwriaeth ddofn o’r testunau Tsieineaidd clasurol, ac etifeddiaeth y Doethion hynafol, gan gynnwys y Bwdha Sakyamuni, Confucius a Laozi.

Bydd llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen eu hunain i addysg a hyfforddiant pellach, i ledaenu eu dealltwriaeth i eraill ledled y byd.  Bydd y wybodaeth hon, i lawer, yn alwedigaeth ac yn bwrpas angerddol, gan ledaenu yn ei dro ei moeseg, ei gwerthoedd a’i dirnadaeth hynafol i eraill, ym mhob rhan o’r byd, wrth geisio’r nod cyffredin o hapusrwydd unigol ac adfer heddwch a chytgord i’r byd.

Wrth fynd ar drywydd hyn, cred yr Academi y gall gynnig dull newydd o ddysgu, addysgeg sy’n seiliedig ar gyfosod ysgolheictod ?’r dull o gymhwyso’r dysgu a’r wybodaeth honno y tu hwnt i gyfyngiadau’r ystafell ddosbarth.

Delweddir yr Academi Sinoleg hon gan ddoethineb, mewnwelediadau a dysgeidiaeth yr Hybarch Feistr Chin Kung, ac fe’i noddir gan Sefydliad Addysg Amlddiwylliannol Chin Kung.