ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Hygyrchedd ac Adnoddau Llyfrgell

Hygyrchedd Llyfrgell

Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar-lein sy’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr.

Ein nod yw darparu adnoddau sy’n bodloni neu’n rhagori ar lefel AA Canllawiau  ac sydd bellach yn cynnwys asesiad o hygyrchedd fel arfer safonol wrth brynu adnoddau newydd.

Mae ein casgliadau digidol yn cael eu lletya gan gyhoeddwyr trydydd parti ar eu platfformau eu hun ar y we sy’n cael eu datblygu’n annibynnol.   Mae llawer o gyhoeddwyr yn blaenoriaethu hygyrchedd digidol ac mae ganddynt eu datganiadau hygyrchedd eu hun.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach isod.

Hygyrchedd Llyfrgell

  • Os byddwch yn cael unrhyw broblemau’n gysylltiedig â hygyrchedd adnoddau neu wasanaethau ein llyfrgell ar-lein, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol cysylltwch â ni yn library@uwtsd.ac.uk.

  • Mae gan eich llyfrgell ar-lein dros 9,000 o e-lyfrau sy’n cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc. Os ydych yn chwilio am e-lyfr penodol gallwch ddod o hyd i awduron a theitlau gan ddefnyddio catalog y llyfrgell. Gallwch hefyd ddewis un o’r casgliadau e-lyfr ar y dudalen hon i bori’r cynnwys sydd ar gael.

    Pa ddyfeisiau y galla i eu defnyddio i weld e-lyfrau?

    Gellir darllen y rhan fwyaf o e-lyfrau ar-lein trwy ddefnyddio gliniadur, cyfrifiadur bwrdd gwaith, llechen neu ffôn clyfar.

    Mae’n bosibl lawrlwytho’r rhan fwyaf o’n he-lyfrau i’w darllen all-lein naill ai ar ffurf EPUB neu fformat PDF. I lawrlwytho e-lyfrau i’ch dyfais bydd angen i chi greu ID Adobe a lawrlwytho meddalwedd ychwanegol megis Bluefire Reader ar gyfer llechi a dyfeisiau symudol neu  Adobe Digital Editions ar gyfer dyfeisiau eraill.  Argymhellir eich bod yn lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf ar gyfer eich system weithredu.

    Alla i argraffu neu gopïo o e-lyfr?

    Diogelir e-lyfrau llyfrgell dan gyfraith hawlfraint yn yr un modd â llyfrau print. Ar gyfer y rhan fwyaf o e-lyfrau rheolir hyn yn awtomatig gan feddalwedd rheoli hawliau digidol (DRM).

    Mae faint y gellir ei gopïo neu ei argraffu yn amrywio o’r naill gyhoeddwr i’r llall, ond fel arfer caiff ei arddangos pan fyddwch yn defnyddio pob llyfr. Sylwer: os  byddwch yn lawrlwytho e-lyfr bydd y swyddogaethau argraffu a chopïo wedi eu hanalluogi.

    Cwmpas: Yn rhannol, caiff teitlau eu prynu’n unigol ond maent yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau.

    Mynediad: Darllen ar-lein a chyfleuster lanlwytho ar gael. Mae cyfleuster copïo, argraffu a chadw ar gael ar y fformat darllen-yn-unig ond mae’r cyfyngiadau’n berthnasol.  Mae lawrlwythiadau ar gael am hyd at 21 diwrnod.

    Mynediad defnyddwyr ar y pryd: Oes, ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau.  Mae gan rai teitlau gyfyngiadau defnyddwyr ar yr un pryd.

    Y fformatau sydd ar gael:

    • Darllen ar-lein (cyfrifiaduron bwrdd gwaith, llechi a gliniaduron ond NID ffonau)
    • PDF ar gyfer lawrlwytho penodau
    • EPUB ar gyfer y llyfrau cyfan (lawrlwytho ar gael ar gyfer ffonau)

    Lawrlwytho: Ydy, mae’n bosibl lawrlwytho llyfrau cyfan am gyfnod o hyd at 21 diwrnod. Gellir cadw adrannau llyfr ar ffurf PDF a’u harbed am gyfnod amhenodol. Mae angen Adobe Digital Editions neu BlueFire Reader ar gyfer lawrlwytho llyfrau EPUB. I gael rhagor o wybodaeth gweler 

    Dewisiadau mynediad: mae modd mynediad y gall defnyddwyr ei newid eu hunain.  I gael rhagor o wybodaeth gweler 

    Ystod: Casgliad cyffredinol o e-lyfrau sy’n cynnwys ystod eang o bynciau.

    Mynediad: gellir darllen ar-lein a lawrlwytho ar gael. Ar y fformat darllen-yn-unig mae’r cyfleuster copïo, argraffu ac arbed yn gyfyngiadau.  Mae lawrlwythiadau ar gael am hyd at 7 diwrnod.

    Mynediad defnyddiwr ar y pryd: Mae gan y rhan fwyaf o lyfrau ar y llwyfan hon drwyddedau defnyddwyr cyfyngedig.

    Y fformatau sydd ar gael: PDF ac EPUB yn dibynnu ar y cyhoeddwr.

    Lawrlwytho: Gellir lawrlwytho’r rhan fwyaf o deitlau. Gellir cadw adrannau llyfr ar ffurf PDF a’u harbed am gyfnod amhenodol.   Lawrlwythwch ar gyfrifiadur bwrdd gwaith a gliniaduron gan ddefnyddio Adobe Digital Editions.  Ar gyfer dyfeisiau symudol Defnyddiwch y Bluefire Reader neu’r ap e-lyfrau EBSCO. Bydd angen i chi greu cyfrif i lawrlwytho llyfrau i’w darllen heb gysylltu.  Edrychwch ar dudalennau cymorth EBSCOHost i gael rhagor o wybodaeth.

    Mynediad: Mae gan EBSCO nodweddion mynediad amrywiol.  I gael rhagor o wybodaeth, gweler  

    Ystod: mynediad llawn i’r casgliadau canlynol - Busnes a Rheoli, Astudiaethau Clasurol, Hanes, Llenyddiaeth, Athroniaeth, Seicoleg a Chrefydd.

    Mynediad: Darllen ar-lein a lawrlwytho penodau unigol sydd ar gael.  Mae cyfyngiadau hawlfraint yn berthnasol.

    Mynediad i ddefnyddwyr ar y pryd: Dim cyfyngiad

    Fformatau ar gael: HTML a PDF

    Lawrlwytho: Gellir lawrlwytho penodau unigol ar ffurf PDF a’u cadw am gyfnod amhenodol.

    Stod: Yn rhannol, caiff teitlau eu prynu’n unigol.

    Mynediad: Gellir darllen ar-lein a lanlwytho. Argraffu a chopïo’n gyfyngedig ar fformat darllen-yn-unig.  Gellir lawrlwytho eitemau ar fformat darllen yn unig am hyd at 3 diwrnod.

    Mynediad Defnyddwyr ar y Pryd: Oes, ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau. Mae gan rai gyfyngiad nifer defnyddwyr ar yr un pryd.

    Y fformatau sydd ar gael: Darllen ar-lein, neu lawrlwytho ar ffurf PDF neu EPUB.

  • Primo gan Ex Libris sy’n gyrru .  Mae Primo yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.   Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn .

  • Mae ein Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn cael eu gyrru gan Leganto gan Ex Libris.  Mae Leganto yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.  Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn .

    Rydym wedi ymrwymo i’w gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr gael gafael ar ddeunyddiau darllen cyrsiau/modylau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fath newydd o Restrau Adnoddau ar-lein rhyngweithiol a fydd yn eich galluogi i:

    • Ddod o hyd i adnoddau modylau’n hawdd
    • Gweld pa adnoddau sydd ar gael yn gyfredol drwy gatalog y llyfrgell
    • Cysylltu’n uniongyrchol â’r testun llawn, pan fo ar gael
    • Cysylltu ag adnoddau wedi’u digideiddio
    • Cadw’ch hoff adnoddau mewn un lle
    • Awgrymu adnoddau ychwanegol i diwtor eich cwrs/modwl
    • Cael gafael ar bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau mewn modd di-dor
  • Mae RefWorks yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.  Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn y ac yr .

    Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chreu cyfeiriadau a llyfryddiaethau.

    Mynediad Cyn-fyfyrwyr i RefWorks
     
    Mae hawl gan gyn-fyfyrwyr y brifysgol gael mynediad i gyfrif RefWorks rhad ac am ddim.   I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r llyfrgell - sylwch y byddwn yn cysylltu â’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr i wirio bod ymgeiswyr yn gymwys cyn darparu rhagor o fanylion.

  • Mae Cadwrfa Ymchwil yn cynnwys papurau ymchwil testun llawn, erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau a thraethodau ymchwil a ysgrifennir gan staff a myfyrwyr y Brifysgol, a data ymchwil.

    Mae Polisi Prifysgol yn annog ymchwilwyr i ddarparu eu gwaith ar-lein, am ddim i’r darllenydd, cyn gynted a phosibl ar ol cyhoeddi yn amodol ar briodoliad cywir ac unrhyw amodau a osodir gan y cyhoeddwr.

    Mae Cadwrfa Ymchwil y Brifysgol yn cael eu gyrru gan Eprints.  Gellir gweld datganiadau ar gyfer y cadwrfa yn:

    •   [Saesneg]

    Sylwer ei bod yn bosibl nad yw dogfennau hÅ·n mewn fformat hygyrch.   Os hoffech wneud cais am gopi hygyrch o unrhyw ddogfen a gedwir yn ein cadwrfa ymchwil cysylltwch â openaccess@uwtsd.ac.uk.

    Academyddion ac ymchwilwyr

    Os bydd eich erthygl cyfnodolyn neu bapur cynhadledd wedi’i derbyn i’w chyhoeddi, mae angen i chi Weithredu yn sgil Derbyn - adneuwch y llawysgrif a dderbyniwyd yng Nghadwrfa Ymchwil Mynediad Agored Y Drindod Dewi Sant o fewn 3 mis iddi gael ei derbyn:

    Polisi Dileu Deunydd Cadwrfa

    Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y deunyddiau yn ei Chadwrfa yn gofnod cywir a dilys o weithgarwch ymchwil yn y sefydliad hwn.

    Rhoddir yr holl ddeunyddiau a adneuir yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant ar gael yn unol â pholisïau cyhoeddwyr (fel y’i nodir yn SHERPA RoMEO) a/neu gyda chaniatâd gan ddeiliaid hawliau.

    Nid yw’n fwriad dileu deunydd ac eithrio yn unol â pholisi mewnol neu o dderbyn cwyn ddilys a brofwyd.

    Gallai rhesymau derbyniol dros gwyno gynnwys y canlynol:

    • Torri rheolau a rheoliadau cyhoeddwyr (er enghraifft, torri embargo, neu roi fersiwn terfynol cyhoeddwr ar gael pan gafwyd caniatâd am fersiwn cyn-brint neu ôl-brint yn unig)
    • Torri hawliau eiddo deallusol (yn cynnwys hawliau moesol neu hawlfraint)
    • Torri deddfwriaeth (er enghraifft, diogelu data neu ddifenwi)
    • Materion Diogelwch Cenedlaethol
    • Ymchwil a anwiriwyd, llên-ladrad neu fethu dilyn canllawiau moesegol

    Rhaid i gwynion fod ar ffurf ysgrifenedig gan nodi mai chi yw’r deiliad hawliau neu’n gynrychiolydd awdurdodedig y deiliad hawliau, ac yn nodi rhesymau pam na ddylai’r deunydd fod ar gael yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant. Dylid anfon cwynion drwy e-bost i: openaccess@uwtsd.ac.uk.

    Bydd deunydd testun llawn y gwnaethpwyd cais i’w ddileu yn cael ei gyfyngu i staff y Gadwrfa yn unig (o fewn 8 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais), a thra ymchwilir i’r gŵyn, bydd yn dal yn bosibl chwilio yn y meta-data perthnasol. Yn achos eitemau lle mae’r broses fewnol yn rheoli dileu deunydd, bydd y metadata hefyd yn cael eu symud o olwg y cyhoedd.

    Yn y lle cyntaf bydd y gŵyn yn cael ei huwchgyfeirio gan staff y Gadwrfa i aelod o Dîm Rheoli’r Llyfrgell.

    Mewn achosion lle nad yw’n eglur a oes cyfiawnhad sylfaenol dros gŵyn, bydd y penderfyniad terfynol yn eiddo i’r Brifysgol.

    Mae’r polisi hwn wedi’i addasu o fersiwn gwreiddiol gyda chaniatâd Prifysgol Gorllewin Llundain.

Offer hygyrchedd

Gall yr offer canlynol helpu defnyddwyr i weld tudalennau gwe a gwefannau yn fwy cysurus.


 

  • (text to speech)
  • (page personalisation)
  • (page outliner)
  • (contrast changer)
  • (optical character recognition)
  • (speed Reading tool that helps increase your reading speed without sacrificing comprehension)