CIPD - Arfer Pobl (Foundation Certificate)
Mae’r cymhwyster lefel mynediad hwn yn berffaith ar gyfer pobl broffesiynol sydd yn eu swydd gyntaf ym maes proffesiwn pobl neu’n chwilio am swydd yn y maes, gan y byddwch yn cael:
- Sylfaen gadarn mewn Arfer Pobl
- Y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau ar gyfer cyflawni tasgau sydd o fudd i’ch sefydliad ar lefel weithredol
- Yr hyder i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer cydweithwyr a’ch sefydliad.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ariennir y rhaglen yn llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trwy astudio pedair uned graidd mewn Diwylliant Busnes, Ymddygiadau Craidd, Dadansoddeg a Hanfodion Arfer Pobl, byddwch yn datblygu’r arbenigedd i gefnogi newid a chreu argraff yn eich sefydliad.​
Byddwch yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan gaffael ymddygiadau craidd sy’n deillio o Fap Proffesiwn newydd y CIPD, sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth gynyddol miloedd o arbenigwyr.​ Mae cymwysterau CIPD yn gosod y safon ryngwladol ar gyfer gweithwyr pobl proffesiynol.
Byddwch yn magu’r hyder i wthio eich gyrfa yn ei blaen - a gydag aelodaeth CIPD, byddwch yn meddu ar y gydnabyddiaeth sydd ei hangen i gydio yn y rôl rydych chi wedi bod ei heisiau erioed.
(5 credydau)
(4 credydau)
(4 credydau)
(11 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed ac yn hÅ·n. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, er bod disgwyl i chi ddangos y gallu i ysgrifennu’n academaidd ar lefel 3.​
-
Does dim arholiadau. Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig.
-
Bydd y costau ychwanegol yn cynnwys aelodaeth myfyriwr CIPD gorfodol ac opsiwn i brynu gwerslyfrau.
Cost Aelodaeth Myfyriwr o CIPD yw £109 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40 (Awst 2024). -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Bydd cyflawni Tystysgrif Sylfaen mewn Arfer Pobl* Lefel 3 CIPD yn caniatáu dilyniant i Ddiploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws CIPD lefel 3.