ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Blaine Henderson - Darlunio (BA Anrh)

Blaine yn PCYDDS

Blaine Henderson stands next to a display of his illustrations.

Enw: Blaine Henderson

Cwrs: BA (Anrh) Darlunio

Astudiaethau Blaenorol: Celf a Dylunio Sylfaen; Safon Uwch – Cyfrifiadureg, Ffotograffiaeth, Mathemateg.

Tref eich cartref: Clydach

Profiad Blaine ar BA (Anrh) Darlunio

Ystafell ddosbarth gelf gydag argraffydd dwylo mawr yn ei chanol ac arddangosfa o brintiau ar draws y wal bellach.

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae sawl peth da am y campws ble roeddwn i’n astudio. Un poeth yw’r digonedd o offer a chyflenwadau sydd ar gael ar gyfer y gwahanol gyrsiau celf a gynhelir yma. Maen nhw hefyd yn cynnal gweithdai mynediad agored lle gallwch chi fynd a defnyddio’r peiriannau dan oruchwyliaeth y technegwyr, sy’n gefnogol ac yn gyfeillgar.

Hefyd, mae lleoliad y campws yng nghanol Abertawe yn hynod o gyfleus, doedd dim rhaid cerdded yn bell os oeddwn i angen rhywbeth yn ystod fy astudiaethau.
 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Wrth astudio fy Safon Uwch, fe wnes i ganolbwyntio ar fathemateg a chyfrifiadureg yn hytrach nag ar gelf, ond wnes i ddim mwynhau hynny cymaint ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, ac roeddwn i’n dal i dynnu lluniau yn fy amser hamdden.

Ar ddiwedd Safon Uwch, penderfynais wneud cwrs Celf a Dylunio Sylfaen PCYDDS er mwyn cael dal ati i wneud celf ac aros mewn addysg, ac mae’n agos i ble rwy’n byw hefyd. Wedyn, dewisais ddatblygu fy nghelf ymhellach trwy wneud cwrs BA mewn darlunio yn yr un sefydliad, gan fy mod i’n teimlo’n gartrefol yno. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Dal ati i dynnu lluniau a datblygu fy nghelf yn fy amser hamdden, mae’n ffordd o ymlacio ac mae’n hwyl. Rydw i hefyd yn hoffi gwylio fideos ac anime, a chwarae gemau fideo er mwyn ymlacio.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Ar ôl graddio, rwy’n bwriadu cymryd seibiant bach cyn dewis y cam nesaf. Ar hyn o bryd rwy’n ystyried gwneud y cwrs MA Deialogau Cyfoes yn PCYDDS, gan fy mod yn teimlo fy mod yn gwneud yn dda gyda fy addysg. Ond, rydw i hefyd yn bwriadu parhau i rwydweithio a chysylltu ag asiantaethau a chleientiaid yn fy ngyrfa ddarlunio. Ar ben hynny, rwyf eisiau dal i wneud celf.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs yw ei fod wedi rhoi briffiau a heriau i mi sydd wedi bod yn gyfleoedd i ymchwilio ac i ddatblygu fy nghelf a’m harddull dros y dair mlynedd. Fe wnes i wir fwynhau dysgu am yr holl wahanol artistiaid ac arddulliau pan oeddwn yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer traethodau ac ar gyfer fy ngwaith celf fy hun.  

Hefyd, roedd y cyfleoedd i fynd i wahanol lefydd fel Berlin a Llundain yn brofiad gwych i mi, gan fy mod yn berson mewnblyg sydd ddim yn teithio llawer fel arfer. Rwy’n teimlo bod y profiadau wedi gwella fy hyder mewn rhai ffyrdd.

Gwaith celf swrrealaidd yn dangos coeden biws gyda haul a lleuad yn ei chanopi; brwshwaith troellog dros liwiau mewn blociau meddal.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn ei argymell, yn enwedig os ydych chi’n byw ger Abertawe. Mae’r campws ei hun yn fawr iawn ac mae’r staff yn gyfeillgar. Cyflenwad gwych o dechnoleg ac offer at wahanol ddibenion, megis gwneud printiau, argraffwaith a modelu 3D.

Gwybodaeth Gysylltiedig