ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Jojo Bishop - Patrymau Arwyneb a Thecstilau BA (Anrh)

Jojo yn PCYDDS

Jojo Bishop smiles for the camera in a studio photo.

Enw: Jojo Bishop

Cwrs: BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio

Tref eich cartref: Worthing, Gorllewin Sussex

Profiad Jojo ar BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Myfyrwyr ar y cwrs Patrymau Arwyneb yn gweithio mewn stiwdio

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Y stiwdio yw fy hoff ran o’r campws. Mae’r ffenestri mawr sy’n ymestyn dros waliau’r stiwdio yn creu golau anhygoel i weithio ynddo ac mae amgylchedd mor fywiog ac egnïol yn ystod anterth ein prosiectau. Mae cael yr holl grwpiau blwyddyn gyda’n gilydd mewn un stiwdio yn creu ymdeimlad gwirioneddol o gymuned – rydym yn cael ysbrydoliaeth o waith ein gilydd, yn rhannu awgrymiadau a syniadau ac yn ysgogi ein gilydd. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roeddwn yn gyffrous iawn am yr ystod o weithdai oedd ar gael a phwyslais amlddisgyblaethol y cwrs. Roeddwn yn hoffi’r faith bod y myfyrwyr yn cael eu hannog i ddysgu prosesau cyfan – o sgriniau caenu i gyfateb lliwiau pigmentau – er mwyn annog annibyniaeth. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Yn fy amser sbâr rwy’n mwynhau cerdded a threulio amser ym myd natur - mae gan Abertawe y traethau gorau ar gyfer hyn! Mae wir wedi annog fy nghysylltiad â’r dirwedd leol, sydd yn ei dro wedi sbarduno ysbrydoliaeth o fewn fy arfer.  Rwyf wrth fy modd yn darllen, gwnïo a phobi hefyd. 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Hoffwn barhau i weithio ar fy ymchwil lliw naturiol am y flwyddyn nesaf ar ôl graddio – yn enwedig gan y byddaf yn ôl yn Lloegr gyda thirwedd newydd o blanhigion i’w defnyddio ar gyfer lliwio i’w harchwilio. Byddwn wrth fy modd yn cydweithio ag artistiaid o’r un anian, addysgu gweithdai ac ymweld â cholegau/prifysgolion gyda fy ngwaith i annog eraill i feddwl yn gynaliadwy.

Hoffwn hefyd gael profiad gwaith neu interniaeth yn y diwydiant mewnol i ddatblygu fy sgiliau ymarferol ymhellach a chael gwybodaeth am sut mae stiwdios/gweithdai yn gweithredu. Rwyf hefyd yn ystyried astudio ar gyfer MA ar ôl blwyddyn i ffwrdd er mwyn arbenigo ymhellach. 

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Roeddwn wrth fy modd bod cymaint o arlunwyr, siaradwyr a graddedigion gwadd wedi dod atom i siarad am eu profiadau, roedd yn ysbrydoledig iawn. Hefyd, mwynheais agwedd gyd-destunol y cwrs yn fawr. Rwyf wedi mwynhau darllen ac ysgrifennu erioed ac er bod y cwrs wedi ein hannog i archwilio gwaith ymarferwyr eraill, fe wnaeth hefyd fy ngwthio i fynd y tu hwnt i’r cyd-destun dylunio i wyddoniaeth, gwleidyddiaeth ac athroniaeth. 

Toriadau ffabrig bach wedi'u gwnïo ar frethyn lliw hufen; mae'r brethyn wedi'i addurno â phrintiau botanegol a labeli wedi'u hysgrifennu â llaw, gan gynnwys: buddleia, Ivy, bracken, sea holly.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Yn bendant! Mae’r cyfleusterau yn PCYDDS yn wych. Rydych chi’n cael eich annog yn gryf i ehangu eich gorwelion a rhoi cynnig ar bopeth, sy’n datblygu eich sgiliau’n aruthrol. Mae’r tiwtoriaid yn hynod gefnogol ac maen nhw bob amser yn fodlon i hwyluso technegau gwahanol neu eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn i wneud hynny ddigwydd.

Gwybodaeth Gysylltiedig