Owain yn PCYDDS
Profiad Owain ar BA Celf Gain
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roedd y cyfleusterau yn yr adran Celf Gain megis y stiwdios, y gofodau gosodwaith, yr ystafell fywluniad, yr ystafelloedd cerameg, yr ystafell gwneud printiau a’r llyfrgell yn ardderchog. Roedd cael llefydd i ymlacio a myfyrio ar y gwaith celf roeddwn yn ei greu ar y pryd yn ddefnyddiol iawn hefyd.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roeddwn i eisiau astudio yng Nghymru ac yn ddelfrydol roeddwn i eisiau astudio’n lleol. Roedd fy mrawd wedi astudio yno ac wedi cael profiadau gwych yno. Fe wnaeth argymell y cwrs Celf Gain ynghyd â’r darlithwyr i mi.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Cafodd Covid 19 effaith ar lawer iawn o fy amser pan oeddwn yn astudio yng Ngholeg Celf Abertawe. Fodd bynnag pan oedd amser ac amgylchiadau yn caniatáu, mwynheais ymweld ag orielau celf ac arddangosfeydd, cerdded a bod yn yr awyr agored. Roeddwn yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilmiau a mynychu fy nghapel lleol.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl graddio, gweithiais i mewn stiwdio yn y Coleg ar ôl ennill Gwobr Cronfa Les y Rhaglen Cymrodoriaeth Newid Cam (2021–2022). Yna gweithiais i yn y Coleg gyda myfyrwyr fel Mentor cyfrwng Cymraeg.
Rwy’n gweithio ar hyn o bryd fel arlunydd a Swyddog Dylunio/Dylunydd Graffig yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Mae fy astudiaethau yng Ngholeg Celf Abertawe yn amlwg wedi helpu fy ngyrfa fel arlunydd. Mae’r profiadau y cefais yno a’r arweiniad cefais gan fy narlithwyr wedi bwydo i mewn i’m harfer.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Roedd gallu gweithio mewn stiwdio fy hun gyda’r rhyddid i arbrofi a datblygu fy ngwaith yn fuddiol iawn. Roedd astudio’r pwnc am dair blynedd wedi fy nghaniatáu i wella fy sgiliau ac arbrofi mewn gwahanol feysydd a gyda gwahanol gyfryngau. Fe wnaeth y cwrs ddyfnhau fy nealltwriaeth o weithio yn y byd celf hefyd.
Cefais fy nghyflwyno i feysydd newydd ym maes celf gan gynnwys cerflunwaith, bywluniad, weldio, ffotograffiaeth a sain. Roedd cael arweiniad gan ddarlithwyr a oedd yn artistiaid proffesiynol yn werthfawr iawn hefyd.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Mae Coleg Celf Abertawe yn lle ardderchog i astudio Celf Gain am sawl reswm. Mae darlithwyr gwych yno sy’n arbenigo yn eu pynciau ac maen nhw’n cyflwyno myfyrwyr i agweddau newydd o fewn Celf Gain. Mae’r Coleg yn cynnig cyfleoedd i arbrofi mewn meysydd eraill a’r ffaith bod myfyrwyr yn gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fonws arall. Astudiais ran o fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg a bod yn gallu gwneud hynny yn bwysig i mi.