Profiad Erin yn PCYDDS
Enw: Erin Harvey
Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Graffig
Astudiaethau Blaenorol: TGAU a Safon Uwch (Graffeg yn y ddau)
Tref eich cartref: Sgiwen
Profiad Erin ar BA (Anrh) Dylunio Graffig
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth ar gampws PCYDDS Abertawe yw’r cyfleusterau argraffu traddodiadol. Roedd yr adnoddau hyn yn caniatáu i mi arbrofi’n helaeth gyda fy ngwaith, gan wella fy mhroses greadigol ac ehangu fy set sgiliau yn sylweddol. Mae’r profiad hwn wedi bod yn amhrisiadwy wrth ehangu fy mhortffolio a mireinio fy arbenigedd mewn gwahanol dechnegau dylunio.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS gan ei fod yn agos at fy nghartref ac oherwydd ei enw da fel un o’r prif sefydliadau ar gyfer dylunio graffig yng Nghymru. Roedd rhaglen nodedig y brifysgol a’i phwyslais cryf ar ragoriaeth greadigol yn ei gwneud yn ddewis delfrydol ar gyfer ymestyn fy addysg a’m sgiliau proffesiynol yn y maes hwn.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Gan ‘mod i’n cydbwyso gwaith rhan-amser gyda fy ngradd, doedd gen i ddim llawer o amser rhydd. Ond, pan fyddai cyfleoedd yn codi y tu allan i ymrwymiadau’r brifysgol, ro’n i wrth fy modd yn treulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol, roeddwn i’n dyheu am gael profiad proffesiynol mewn dylunio graffig trwy weithio i gwmni. Yn ddiweddar, derbyniais gynnig interniaeth gyda Waters Creative. Dwi’n priodoli’r cyflawniad hwn i’r brifysgol a’i hadran ddylunio am eu cydweithrediad agos â phartneriaid yn y diwydiant, sy’n rhoi cyfleoedd gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr ar ôl graddio.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff agwedd o’r cwrs oedd y staff, a roddodd gefnogaeth ac anogaeth i mi wthio fy ffiniau. Roedd y cwrs yn heriol, ac roedd canllawiau’r staff yn allweddol wrth ddatblygu fy sgiliau dylunio graffig a’m hyder.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant, byddwn i’n argymell PCYDDS. Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a rhoi hwb i fy hyder. Gyda digonedd o gyfleoedd, mae’n sicr yn rhywbeth y byddwn i’n ei awgrymu i eraill.