Grace McArthur yn PCYDDS
Enw: Grace McArthur
Cwrs:  BA Actio
Astudiaethau Blaenorol: HND yn North East Scotland College
Tref eich cartref: Aberdeen, Yr Alban
Profiad Grace ar BA Actio
Beth yw eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?
Mae digonedd o olygfeydd a lleoedd gwych i fynd am dro yn yr ardal, ac mae cysylltiadau trên da â’r dinasoedd mawr eraill.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS oherwydd y dosbarthiadau bychain a chan fod dewis i astudio dramor.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Roeddwn i wrth fy modd yn mynd ar dripiau i draeth Llansteffan, sydd ddim yn bell yn y car, a chael mynd allan gyda fy ffrindiau ar ôl darlithoedd.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Rwy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant theatr a chael defnyddio’r sgiliau a’r cysylltiadau ges i ar y cwrs. Rydw i hefyd yn gobeithio gwneud mwy o deithio – ar ôl cael cyfle i astudio dramor yn California, rwy’n awyddus i deithio mwy, ac o bosibl chwilio am waith, y tu hwnt i’r DU. Rydw i wrth fy modd yn dysgu sut mae’r diwydiant actio yn wahanol dramor o’i gymharu â’r wlad hon.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Rwy’n caru’r amser un-i-un gwerthfawr gyda’r darlithwyr, mae nhw’n ofalgar ac yn ystyriol iawn. Roedden nhw’n gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac yn fy helpu i fod cystal ag y gallwn i fod yn fy hastudiaethau.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS gan ei bod yn gymuned glòs, ac mae pawb, o sawl gwahanol adran, yn hynod o gyfeillgar a chefnogol. Yn y drydedd flwyddyn, roedd cyfleoedd i mi, fel actor, weithio gyda myfyrwyr y cwrs dylunio setiau hefyd. Roedd hynny’n hynod o ddefnyddiol.