Sophie yn PCYDDS
Enw: Sophie Larcombe
Cwrs: BA (Anrh) Patrwm Arwyneb a Thecstiliau
Astudiaethau Blaenorol: Coleg Castell-nedd – Safon uwch mewn Tecstilau, Celf Gain a Mathemateg
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Sophie ar BA (Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roedd y campws lle roedd fy nghwrs wedi’i leoli yng nghanol Abertawe, un o fy hoff agweddau oedd pa mor agos yw traethau ac amgueddfeydd Abertawe i’r campws. Roedd cael rhain yn agos yn fy annog i fynd yn rheolaidd.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd ei for mor agos at fy nghartref, a hefyd oherwydd ei fod ar lan y môr. Ro’n i hefyd wedi bod i’r brifysgol gyda fy ngholeg ar wahanol deithiau felly roedd yn teimlo’n gyfarwydd iawn.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Dwi wedi byw yn Abertawe gyda fy nheulu ar hyd fy oes, y tu allan i’r cwrs roeddwn i’n mwynhau treulio amser gyda nhw, ymweld â’r Mwmbwls a mynd am dro ar hyd arfordir Abertawe. Rwy’n agos iawn at fy nheulu, ac maen nhw wedi bod yn gefnogaeth ac anogaeth fawr i mi trwy gydol fy astudiaethau. Roedd yn foment falch iawn cael dod â nhw i’n noson agoriadol ein Sioe Radd i arddangos fy ngwaith.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl i mi raddio, dwi’n gobeithio cael swydd greadigol yn y diwydiant. Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi cael y sgiliau ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Dwi’n teimlo’n barod i gamu i’r byd mawr gyda fy nghreadigrwydd, a dwi’n gobeithio dod o hyd i rôl greadigol sy’n rhoi cyfle i fy syniadau creadigol i ond hefyd rôl y gallaf i barhau i ddysgu sgiliau creadigol newydd ynddi wrth i mi fwynhau bod yn ddylunydd amryddawn. Buaswn i hefyd yn dweud yr hoffwn i ystyried addysgu yn y blynyddoedd i ddod, gan fod hyn yn ddyhead arall sydd gen i.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs oedd y dewis anhygoel o adnoddau oedd ar gael yn y gweithdai Patrwm Arwyneb, ac amgylchedd y stiwdio. Buaswn i’n dweud ‘mod i’n mwynhau treulio amser yn yr ystafell argraffu, arbrofi gydag argraffu sgrin ac argraffu tecstilau. Ro’n i hefyd wir yn hoffi’r gofodau stiwdio o fewn Patrwm Arwyneb, roedd yn ysbrydoli trafodaethau dylunio ond hefyd yn creu awyrgylch dylunio cyfeillgar.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Buaswn i’n bendant yn argymell PCYDDS ac yn enwedig Patrwm Arwyneb a Thecstilau oherwydd er bod gwaith caled a sgiliau yn agweddau pwysig o greadigrwydd, dwi’n credu fod angerdd hefyd yn allweddol. Mae PCYDDS yn caniatáu i’w myfyrwyr fod yn angerddol ac yn falch o’u gwaith a’r hyn y maen nhw am ei gyflawni.