Rheolaeth Busnes (BA Anrh)
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cipolwg delfrydol ar y byd busnes modern. Fe’i cynlluniwyd i roi’r sgiliau a’r wybodaeth y byddwch eu hangen i lwyddo yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gall myfyrwyr o amrywiaeth eang o bynciau ymuno â’r rhaglen hon, ac nid oes rhaid dod o gefndir rheolaeth busnes. Bydd y rhaglen hon yn gweddu i’r rhai sy’n awyddus i ddysgu repertoire eang o sgiliau busnes yn hytrach na chanolbwyntio ar un arbenigedd.
Mae hyn yn cynnwys dysgu sgiliau busnes craidd sy’n ymwneud â, er enghraifft, marchnata, adnoddau dynol, systemau gwybodaeth/e-Fusnes, cyfrifeg a chyllid. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n gysylltiedig â sefydliadau busnes a byddan nhw’n mwynhau datblygu atebion soffistigedig i broblemau a chyfleoedd busnes.
O ystyried yr ystod eang o sgiliau a ddysgir, bydd graddedigion yn cael llawer o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o rolau busnes (e.e. marchnata, AD, rheoli prosiectau, ac ati) mewn ystod eang o sectorau. Mae’r rhaglen hon hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu arbenigedd ar ôl addysg fusnes gyffredinol, y rhai sy’n dymuno bod yn athrawon busnes, neu’r rhai sydd eisiau llwybr at hunangyflogaeth.
Mae’r opsiynau llwybr arbenigol sydd ar gael ar lefel 6 yn cynnwys:
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Marchnata)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Dadansoddeg Busnes)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol)
Gellir gwneud cais i astudio’r cwrs hwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.
Mae croeso i’r rhai sy’n cwblhau’r rhaglen hon barhau i astudio gyda ni ar un o’n Llwybrau MBA.
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Pob llwybr:
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes
(20 credydau)
(20 credydau)
Llwybr Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Dadansoddeg Busnes)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Marchnata)
(20 credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref.
Rhaid gwneud ceisiadau am le ar ein cyrsiau israddedig llawn amser yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.
-
.
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag astudio fel cludiant ac unrhyw bethau eraill y maen nhw eisiau eu prynu ar y campws gan gynnwys argraffu, coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron, tabledi a/neu feddalwedd i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Ewch i’r adrannau Ffioedd ac Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.
-
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.​
Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.​