Arweinyddiaeth (Llawn amser) (MA)
Mae Arweinyddiaeth Effeithiol yn rhan hanfodol o sefydliadau cynaliadwy.
Mae’r rhaglen MA Arweinyddiaeth yn darparu addysg drawsnewidiol sy’n ysbrydoli, yn herio, yn cwestiynu ac yn siapio arweinwyr effeithiol. Mae’r dysgu’n cynnig heriau deallusol ac ymarferol sy’n ehangu datblygiad personol o fewn cymuned gydweithredol, adeiladol sy’n ceisio amrywiaeth o ddylanwadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Trwy astudio arweinyddiaeth, gall myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau y byddan nhw eu hangen er mwyn cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau, gan gynnwys Gofal Iechyd, Peirianneg, Manwerthu, Bancio, Lletygarwch a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gyda seminarau lle gall dysgwyr gysylltu ag arbenigwyr allanol, rydym yn galluogi mynediad at y gwaith ymchwil diweddaraf. Byddwn hefyd yn disgwyl iddyn nhw feirniadu’r mewnbwn o ran ei ddefnyddioldeb o fewn eu harfer a’u cyd-destun eu hunain.
Mae’r rhaglen yn addas i’r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi uwch neu sy’n dymuno symud ymlaen i swydd lle byddan nhw’n arwain.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r MA Arweinyddiaeth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill dealltwriaeth fanwl o arweinyddiaeth. Drwy gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol o arweinyddiaeth gydag ymgysylltiad ymarferol sy’n cynnwys arweiniad i arfer dda ym maes arweinyddiaeth. Dyma raglen sydd wedi mabwysiadu’r cysyniad o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Mae’r rhaglen wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a’u galluogi i ymgymryd â swyddi arweiniol mewn amrywiaeth o sectorau.
Gall myfyrwyr ennill cymhwyster MA, Diploma i Raddedigion neu Dystysgrif i Raddedigion.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Accommodation
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gael sgôr IELTS Saesneg cyfartalog o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr yn is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Mae’r gofynion mynediad academaidd eraill yr un fath i bob myfyriwr (myfyrwyr cartref a rhyngwladol).
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth, cyn belled â’u bod yn meddu ar radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arwain, a phrofiad o reoli, a gallent gael eu derbyn ar y rhaglen Meistr yn ôl disgresiwn rheolwr y rhaglen.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hÅ·n a dylent feddu ar un neu fwy o’r canlynol:
- Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gyfwerth.
- Cymhwyster proffesiynol
- ¶Ù¾±±è±ô´Ç³¾Ã¢³Ü/³Ù²â²õ³Ù²â²õ²µ°ù¾±´Ú²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;±Ê°ä³Û¶Ù¶Ù³§
- Gellir derbyn ymgeiswyr 25 oed neu hÅ·n sydd ddim yn bodloni’r meini prawf uchod os bernir bod ganddynt ddigon o brofiad proffesiynol neu brofiad o reoli.
-
Cewch eich asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys gwaith cwrs, creu portffolio, a seminarau.
Mae’r asesiadau yn cael eu cysylltu ag enghreifftiau o fyd diwydiant ac â gweithgareddau ymarferol. Maen nhw’n cynnwys gweithgareddau sy’n gwerthuso arweinwyr wrth eu gwaith.
Bydd y myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r MA cyfan yn ysgrifennu traethawd hir 15,000 gair yn seiliedig ar ddarn o ymchwil annibynnol ar faes sy’n gysylltiedig ag arweinyddiaeth, ac sydd wedi’i ddewis ganddyn nhw mewn trafodaeth â darlithydd y modiwl. Bydd goruchwylydd yn cael ei benodi ar gyfer pob myfyriwr er mwyn eu tywys drwy’r broses ymchwil ac ysgrifennu.
-
Rydym ni fel sefydliad yn awyddus i wella profiadau’n myfyrwyr lle bynnag y bo modd, ac o ganlyniad gall myfyrwyr ysgwyddo rhai costau ychwanegol wrth wneud gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth i’w haddysg. Lle bo hynny’n bosibl, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl.
Mae gan y Brifysgol lyfrgell ar-lein ardderchog lle cewch fynediad at ystod eang o adnoddau heb unrhyw gost ychwanegol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd myfyrwyr y rhaglen yn datblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol sy’n ddeniadol i gyflogwyr o fewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol.
Mae’r rhaglen a’i chynnwys yn canolbwyntio ar alwedigaeth, gan ddefnyddio astudiaethau achos o arweinwyr cyfredol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i rannu eu profiadau eu hunain o arwain, ac i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.