ϳԹ

Skip page header and navigation

Dros yr haf roedd tîm Addysg Antur Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch i gymryd rhan ym 4ydd Gathering of Adventure Therapy Europe (GATE) a gynhaliwyd yn Sigulda, Latfia.  Cynhelir y gynhadledd bob dwy flynedd a daeth ag ymarferwyr ac ymchwilwyr blaenllaw a selogion o feysydd Therapi Antur a Dysgu Drwy Brofiadau at ei gilydd. 

An image of the group outside the GATE Conference

Trefnwyd GATE eleni gan Therapi Antur Latfia a Therapi Antur Ewrop, a bu’n blatfform i rannu gwybodaeth, profiadau, ac arferion arloesol yn y maes.  Thema’r gynhadledd oedd “Cysylltu Ffiniau â Gorwelion Newydd” gyda ffocws ar archwilio sut gall y gymuned Therapi Antur gynnal ei natur unigryw gan hyrwyddo cynhwysiant, amrywiaeth a hygyrchedd ar yr un pryd.  

Cynrychiolwyd PCYDDS gan dîm o fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r staff.  Rhoddodd Tara Crank, myfyriwr PhD, gyflwyniad gweithdy, gan rannu’i hymchwil arloesol mewn Therapi Antur.  A hithau eisoes wedi graddio ag MA o PCYDDS, cyflwynodd Emma Knight weithdy hefyd, gan dynnu ar ei gwaith academaidd diweddar i ysbrydoli ac addysgu cyfranogwyr.  Cyd-gyflwynodd Mache Trevino, Darlithydd MA, weithdy, gan adfyfyrio ar y modd y mae dewis yn effeithio ar brofiadau llesiant cyfranogwyr. Mae Dafydd Rowlands wedi graddio o PCYDDS a chymerodd ran mewn amryw o weithgareddau yn y gynhadledd, gan ddod â mewnwelediad ffres o’i daith academaidd.  Yn ystod y Gynhadledd, buont i gyd yn ymwneud â thrafodaethau grŵp ar esblygiad Addysg Awyr Agored a’i heffaith yng Nghymru a thu hwnt.”

a group congregation image at the GATE Conference outside

Meddai Mache Trevino, Rheolwr Rhaglen MA Addysg Awyr Agored PCYDDS:

“Roedd GATE yn ddigwyddiad rhyfeddol lle bu modd i dîm Addysg Awyr Agored PCYDDS gysylltu â chydweithwyr o wahanol wledydd gan adfyfyrio ar esblygiad ein maes yn ein hardal.  Cyflwynodd ein cyn-fyfyrwyr eu prosiectau ymchwil, gan rannu mentrau cymunedol i ymgysylltu â’r awyr agored, a lledaenu rhai o’r gweithgareddau ardderchog yn ymwneud â llesiant, dulliau therapiwtig, a bod â chyswllt â natur, sy’n digwydd yng Nghymru. 

 “A minnau’n  hwylusydd ac yn ddarlithiwr, braint o’r mwyaf i mi oedd y cyfle i gymryd rhan yn GATE, i ailgysylltu â chydweithwyr sydd ar flaen y gad o ran trawsnewid ein harfer, ac i ymuno â’r cyd-ymdrech i gefnogi a phroffesiynoli Therapïau Awyr Agored yn y DU ac o gwmpas y byd.  Daethon ni i gyd yn ôl yn llawn egni a syniadau i’w gweithredu yn ein meysydd gwaith amrywiol.  Rwy’n teimlo’n ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth a ddarparwyd gan PCYDDS a Gwobr INSPIRE i allu mynychu a chyflwyno ar y platfform allweddol hwn.”

Ychwanegodd Emma Knight, un o raddedigion PCYDDS:

 “Ar ôl graddio’n ddiweddar o’r rhaglen MA Addysg Awyr Agored, es i GATE 2024 yn wirfoddolwr, yn gyflwynwr, ac yn gyfranogwr.  Gan mai hon oedd fy nghynhadledd gyntaf, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond roedd y profiad yn foddhaus dros ben.  Dangosodd y gynhadledd i mi fy mod i’n gallu cyfrannu’n ystyrlon a bod y gymuned yn fwy parod i dderbyn a chefnogi nag oeddwn i wedi’i ddychmygu erioed.”

Dychwelodd tîm PCYDDS wedi’u hysbrydoli o’r newydd, yn barod i weithredu syniadau newydd yn eu meysydd priodol a pharhau i gyfrannu at y disgwrs byd-eang ar Therapi Antur ac Addysg Awyr Agored. 

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, ewch i Addysg Antur Awyr Agored (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon