窪蹋勛圖厙

Skip page header and navigation

Bydd academyddion yng Nghanolfan Addysg Y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno eu hymchwil yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) a gynhelir ym Manceinion yr wythnos hon. 

Image of student teacher at a partnership school

BERA, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni, yw’r awdurdod arweiniol ar ymchwil addysgol yn y DU, gan gefnogi a chynrychioli’r gymuned o ysgolheigion, ymarferwyr a phawb sy’n ymwneud ag ymchwil addysgol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Bydd Dr Jane Waters-Davies, Dr Gareth Evans, Dr Sonny Singh, Elaine Sharpling, Nanna Ryder a Dr Alison Murphy yn cyflwyno’r ystod o ymchwil addysg a wneir yn y Brifysgol.

 Bydd Dr Jane Waters-Davies a Dr Alison Murphy yn cyflwyno eu gwaith fel rhan o’r symposiwm sy’n ystyried yr ysgol fel sefydliad dinesig. Mae eu cyflwyniadau’n rhan o brosiect parhaus a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC):  mewn cydweithrediad 璽 Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac UWE a dyma’r unig brosiect yn y Rhaglen Ymchwil Addysg gyfredol i gael ei weithgarwch ymchwil yng Nghymru. Mae’r prosiect yn ymchwilio i’r llinyn aur sy’n rhedeg o ddeddfwriaeth a rhethreg polisi, trwy addysg athrawon a dulliau addysgegol mewn ystafelloedd dosbarth, i brofiadau byw plant o’u hawliau cyfranogol. Teitl cyflwyniad Dr Waters-Davies yw  Addysg Hawliau Dynol: Canfyddiadau athrawon am werth cyfranogiad plantBydd Dr Alison Murphy yn adrodd ar ganfyddiadau’r dadansoddiad deddfwriaethol a pholisi yn ogystal ag arolwg o ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon yn ei chyflwyniad, Ymwreiddio hawliau cyfranogol plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru: dadansoddiad o ddeddfwriaeth, polisi a r繫l Addysg Gychwynnol Athrawon.

Bydd Dr Gareth Evans a Dr Sonny Singh yn archwilio esblygiad cynnar cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru yn eu cyflwyniad, Adeiladu cydlyniad mewn m繫r o newid: Archwilio gweithrediad cynnar Cwricwlwm i Gymru.&紳莉莽梯;

Mae’r cyflwyniad yn tynnu ar bapur Dr Evans ar weithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn gynnar, a gwaith parhaus Camau i’r Dyfodol, prosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan ymchwilwyr yn Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow. Mae’r prosiect, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, yn ceisio cefnogi gweithredu’r cwricwlwm drwy broses o gyd-adeiladu sy’n cynnwys rhanddeiliaid o wahanol lefelau system addysg Cymru. Ei brif nod yw meithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn dysgu, sy’n driw ac yn addas o fewn y fframwaith cwricwlwm rhydd sydd ar gael i ymarferwyr.

Bydd Nanna Ryder yn cyfrannu at thema’r Gynhadledd o Addysg Drawsnewidiol: Ymgorffori Newid, Arloesi a Lles mewn Cwricwla.  Mae ei gwaith, gyda Dr Kara Makara o Brifysgol Glasgow, yn darparu dadansoddiad cymharol rhyngwladol o gwricwla mewn iechyd a lles mewn saith gwlad/rhanbarthEr bod tystiolaeth yn gyfyngedig o ran sut mae gwahanol wledydd yn strwythuro eu cwricwlwm i gefnogi dysgu ar draws iechyd a lles, sy’n cwmpasu agweddau corfforol, cymdeithasol, ysbrydol ac emosiynol yn fras, mae eu dadansoddiad yn tynnu sylw at wahanol ddulliau i helpu i lywio datblygiad y cwricwlwm cenedlaethol.

Teitl cyflwyniad Elaine Sharplin yw Trafodaethau Polisi ac Asiantaeth Athrawon ar draws y DU ac Iwerddon: Canmoliaeth neu Wrthdaro? ac maen dwyn ynghyd safbwyntiau polisi gwahanol o’r DU ac Iwerddon i ystyried asiantaeth athrawon fel gallu i wneud dewisiadau, cymryd camau egwyddorol, a deddfu newid a maen edrych ar sut mae cyd-destun pob cenedl yn chwarae ei rhan. Mae eu canfyddiadau’n awgrymu bod continwwm disgwrs ar addysg athrawon sy’n symud o broffesiynoldeb myfyriol yn Iwerddon, Gogledd a De, lle mae pwyslais cryf ar bwysigrwydd gwerthoedd a moeseg; hyd at broffesiynoldeb wedi’i fonitro yng Nghymru a’r Alban, gan adlewyrchu pryder am reolaeth gryfach, ganolog; i broffesiynoldeb rhagnodol yn Lloegr lle mae canoli a rheolaeth wedi dod yn nodweddion polisi addysg athrawon. 

Cynhelir Cynhadledd Bera rhwng 8 a 12 Medi ym Mhrifysgol Manceinion mewn partneriaeth 璽 Chymdeithas Ymchwil Addysg y Byd (WERA).  Yn eu croeso i’r cynadleddwyr, dywedodd yr Athro Mhairi C Beaton a’r Athro Roc穩o Garc穩a Carri籀n, Cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Cynhadledd a Digwyddiadau:

Edrychwn ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o gynrychiolwyr rhyngwladol a rhoi cyfle gwych i gynrychiolwyr ledaenu ymchwil a rhwydweithio gyda chydweithwyr o’r un anian o bob cwr o’r byd.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
幛款繫紳:&紳莉莽梯;07968&紳莉莽梯;249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon