Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen yn y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi y bydd Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn Llambed, sy’n cadw casgliadau arbennig y Brifysgol, yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir rhwng 12:00pm - 4:00pm ddydd Sadwrn, 28ain Medi, yn rhan o ŵyl flynyddol a drefnir gan CADW. Mae’r ŵyl yn arddangos mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, nodweddion hynod a gemau cuddiedig yng Nghymru i’r cyhoedd ehangach, pan fydd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu hannog i agor eu drysau.
Yn y Casgliadau Arbennig yn Llambed mae casgliad o bwysigrwydd cenedlaethol o 35 000 o gyfrolau hanesyddol, gan gynnwys wyth llawysgrif ganoloesol a 69 o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500.
Yn ystod y digwyddiad, bydd detholiad o’r eitemau mwyaf diddorol yn y llyfrgell yn cael eu harddangos. Bydd y rhain yn cynnwys 1279 llawysgrif o’r Beibl Lladin, y bu’r Esgob Thomas Burgess yn berchen arnynt gynt; dau lyfr oriau o’r 15fed ganrif; nifer o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500, rhai ohonynt â darluniau o waith llaw; detholiad o atlasau cynnar; amrywiaeth o lyfrau astudiaethau natur o’r 16eg i’r 18fed ganrif, yn cynnwys yr argraffiad cyntaf, hardd o British zoology gan Thomas Pennant; a chymysgedd o gyfrolau o ddiddordeb Cymreig. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys deunydd diddorol o archifau’r coleg.
Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant:
“Rydym yn gyffrous iawn unwaith eto i rannu rhai o’n trysorau anhygoel gyda’r gymuned ehangach trwy raglen Drysau Agored 2024. Ein gobaith yw annog chwilfrydedd a chyffro – ac annog ymwelwyr i ddychwelyd a dysgu rhagor!”
Ychwanegodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae’n hyfryd gallu agor ein Casgliadau Arbennig ac Archifau eto eleni yn rhan o raglen Drysau Agored CADW 2024.
“Rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl allweddol yn nhirlun diwylliannol a threftadaeth Cymru, felly mae’n bwysig tu hwnt i sicrhau bod y casgliadau hyn yn parhau i fod yn hygyrch i gymunedau tu hwnt i’r Brifysgol. Hefyd hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr o dîm y Casgliadau Arbennig ac Archifau am ei gwneud yn bosibl i ni gymryd rhan yn y rhaglen arwyddocaol hon.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Drysau Agored a gynhelir yn y Llyfrgell, cysylltwch â: r.gooding@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476