Un o raddedigion Rheolaeth Digwyddiadau yn dychwelyd i ysbrydoli myfyrwyr cyfredol
Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o groesawu Arnold Matsena yn ôl, myfyriwr a raddiodd o’r cwrs Rheolaeth Digwyddiadau sy’n gweithio bellach fel coreograffydd, cerddor, model a chyfarwyddwr creadigol.
Bu Arnold yn rhannu ei sgiliau, ei arbenigedd a’i yrfa drawiadol hyd yma gyda myfyrwyr sy’n astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ar gampws y Brifysgol yn Abertawe.
Mae’r ddarlith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sydd â’r nod o rannu profiad o’r byd go iawn, gan roi cipolwg gwerthfawr ar sut mae’r sgiliau a’r wybodaeth a enillir yn y brifysgol yn trosglwyddo i yrfaoedd go iawn.
Enillodd Arnold wobr ieuenctid Cymru am y perfformiwr gorau a Gwobr Mis Hanes Pobl Ddu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am y Celfyddydau Perfformio, ac mae wedi gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i frwydro yn erbyn hiliaeth ac anghyfiawnder cymdeithasol trwy greadigrwydd.
Ar hyn o bryd mae’n trefnu Digwyddiad Olympic Fusion gyda Chyngor Abertawe sy’n cael ei gynnal yn Amgueddfa Glannau Abertawe ddydd Sadwrn, 5 Hydref i ddathlu’r Chwaraeon Olympaidd Dinesig newydd a gyflwynwyd yng Ngemau Olympaidd Paris 2024 trwy ddawns. Bydd myfyrwyr a staff yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gyda chefnogaeth Arnold.
Mae Arnold wedi cyfarwyddo a chynhyrchu sawl prosiect, gan gynnwys rhaglen ddogfen y BBC Brothers in Dance, a enillodd BAFTA Cymru yn 2023. Mae hefyd wedi cyfarwyddo’r ffilm fer Are You Numb Yet, a enillodd yr International Infallible Award am y Sioe Orau yng Ngŵyl Ymylol ddigidol Caeredin.
Mae’n addysgu gweithdai mewn ysgolion, colegau ac ysgolion dawns ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen - Portffolio Rheolaeth Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau: “Roeddem yn falch iawn o weld Arnold a chlywed am yr holl bethau anhygoel y mae wedi bod yn eu gwneud ers gadael y Drindod Dewi Sant. Gall clywed gan gyn-fyfyrwyr llwyddiannus ysgogi myfyrwyr trwy ddangos iddynt y llwybrau amrywiol y gallant eu cymryd ar ôl graddio. Mae straeon graddedigion yn aml yn ffynhonnell ysbrydoliaeth, gan helpu myfyrwyr i osod nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r radd Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn y Drindod Dewi Sant yn cynnig cymysgedd o ddysgu academaidd a phrofiad ymarferol i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer gyrfa mewn digwyddiadau.
Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd i feithrin gwybodaeth a sgiliau am wyliau, digwyddiadau chwaraeon, cyfarfodydd, cynadleddau a phriodasau i wella dealltwriaeth reolaethol a chydweithrediadau creadigol ac arloesol.
Dywedodd Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn y Drindod Dewi Sant: “Mae bob amser yn brofiad anhygoel i fyfyrwyr cyfredol gwrdd â’n cyn-fyfyrwyr gwych a chlywed ganddynt am eu cyflawniadau ers cwblhau eu hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant.
“Mae rhaglenni dyfarnu hirsefydlog fel ein rhai ni’n caniatáu i’n cyn-fyfyrwyr weithio mewn meysydd eang ac rydym yn falch o ddweud eu bod yn hynod lwyddiannus. Am ffordd wych i fyfyrwyr sylweddoli y gall eu dyheadau ddod yn wir fel y mae cynifer eisoes wedi profi.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071