Prosiect Theatr Gymhwysol Arloesol yn dod â phobl ifanc at ei gilydd drwy greadigrwydd yng Nghaerfyrddin
Dyfeisiodd Kyle Collingwood, myfyriwr Drama Gymhwysol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Brosiect Terfynol arloesol iawn, a’i gyflwyno, ar ddiwedd ei radd israddedig, gan weithio gyda dau grŵp ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin i hwyluso prosiect cyfnewid diwylliannol a arweiniodd at ddigwyddiad rhannu creadigol a gwneud cysylltiadau yn yr Egin ar Gampws Caerfyrddin.
Roedd prosiect Kyle, ‘Cynefin – Widening Bonds’ yn cynnwys cynnal cyfres o weithdai gyda dau fudiad elusennol ar yr un pryd – Dr Mz yng Nghaerfyrddin a People Speak Up Ifanc yn Llanelli.
Mae Kyle wedi gweithio a gwirfoddoli gyda’r ddau fudiad hwn yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr israddedig yn PCYDDS, ac roedd wedi meithrin perthnasoedd ardderchog gyda’r ddau fudiad a’u cyfarwyddwyr.
Dros gyfnod o ddau fis cynhaliodd Kyle sesiynau wythnosol yn y ddau grŵp ieuenctid, lle byddai’r cyfranogwyr yn curadu ‘blwch diwylliant’ o eitemau i’w rhannu â’r mudiad arall. Gan ddefnyddio’r eitemau hyn, cafodd y grwpiau’r dasg wedyn o ddyfeisio darn o ddrama i’w arddangos yn y sesiwn derfynol (lle byddent yn dod at ei gilydd). Byddai’r golygfeydd yn adlewyrchu beth roedd yr eitemau hyn yn ei symboleiddio i’r grŵp a oedd yn berchen arnynt.
Roedd llawer o’r bobl ifanc dan sylw erioed wedi gwneud drama cyn iddynt weithio gyda Kyle, felly nid yn unig yr oedd yn creu man dewr a diogel i archwilio diwylliannau ieuenctid penodol ond roedd hefyd yn gweithio gyda’r bobl ifanc i feithrin eu hyder a’u hunan-barch.
Penderfynodd y ddau grŵp greu ffilm fer i’w dangos i’r grŵp arall. Roedd y golygfeydd i gyd wedi’u seilio ar yr eitemau yn y blychau. Daeth y prosiect i ben gyda digwyddiad gwych gyda’r nos yn yr Egin a gefnogwyd gan dîm Ehangu Mynediad PCYDDS. Cwrddodd y grwpiau â’i gilydd am y tro cyntaf, gan chwarae gemau ac ymarferion drama gyda’i gilydd, a rhannu eu ffilmiau a chyflwynwyd gwobr i bob person ifanc am ei gyfraniad i’r prosiect, roedd hyd yn oed ychydig o ganu byrfyfyr gyda’i gilydd i orffen y noson!
Meddai Eleanor Shaw, Cyfarwyddwr Creadigol a Busnes People Speak Up:
“I ni roedd y prosiect hwn mor fuddiol i’n pobl ifanc ac i ni fel mudiad. Roedd ein pobl ifanc wedi ymgysylltu’n llwyr â’r prosiect, roedd Kyle yn drydanol fel hwylusydd – roeddech chi’n wir yn gweld y sgiliau a ddysgodd ar ei radd drama gymhwysol yn disgleirio! Rydym ni hefyd yn rhoi cefnogaeth lawn i greu cyfleoedd i fyfyrwyr arfer eu gwaith mewn sefyllfa o fywyd go iawn, dyna’r lle gorau i ddysgu. Mae gennym barch a diolch llwyr i Ali Franks yn PCYDDS, sy’n hyfforddi gweithlu’r dyfodol yn sector y celfyddydau ac iechyd sy’n tyfu’n gyflym.”
Mae Theatr Gymhwysol yn darparu ffordd mor unigryw o gael cymunedau i ymwneud â gweithgarwch creadigol ac mae prosiectau fel hyn yn agor cynhwysydd unigryw ar gyfer archwilio a deall ein diwylliant ein hun a diwylliant pobl eraill, gan ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â phobl eraill mewn ffordd greadigol a thrawsnewidiol o bosibl. Roedd pobl ifanc yn y prosiect hwn na fyddai’n siarad mewn grŵp o’u cyfoedion ar y dechrau, ac yn y diwedd roeddynt yn cymryd rolau arweiniol yn y prosiect, gan siarad am eu gwaith o flaen cynulleidfa fawr, a hyd yn oed yn canu o flaen cynulleidfa. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol nawr mewn byd sy’n fwyfwy rhanedig lle rydym ni’n profi mwy o unigrwydd nag y gallwn gofio.
Ychwanegodd Ali Franks, Rheolwr Rhaglen, MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant yn PCYDDS:
“Roedd gallu Kyle i feithrin perthnasoedd yn allweddol yma. Mae’r ddau fudiad wedi cynnig gwaith i Kyle yn sgil hyn ac mae’i empathi, ei gydymdeimlad a’i greadigrwydd wedi cael effaith enfawr ar y bobl ifanc. Rydym ni’n edrych ymlaen at lawer mwy o brosiectau cymunedol fel hyn wrth i ni lansio ein gradd newydd MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg a Llesiant ym mis Medi. Rydym ni’n falch o ddweud mae hon yw’r radd MA Theatr Gymhwysol gyntaf yng Nghymru.”
 diddordeb mewn cyrsiau Theatr Gymhwysol? I gael rhagor o wybodaeth ewch i Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (Amser llawn) | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476