Beth yw eich pennod nesaf?
Ydych chi’n paratoi i adael coleg neu’n dychwelyd i ddysgu?Â
P’un a ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg, wedi penderfynu dychwelyd i ddysgu neu os ydych yn cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa. Rydym yn gwybod sut i’ch cefnogi. Archwiliwch ein cyrsiau a’n gwahanol ffyrdd o astudio, o ddysgu llawn amser i ddysgu o bell, i weld beth sydd orau i chi.
Mae eich pennod nesaf yn dechrau yma, cliciwch isod i gofrestru eich diddordeb am gyngor ymgeisio, gwybodaeth am gyrsiau a darganfod y cyfleoedd sydd gennym i’w cynnig. Cymerwch y camau cyntaf tuag at eich dyfodol.
Cyrsiau sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa
O ba le bynnag rydych chi’n ymuno â ni, eich stori chi fydd hon gyda PCYDDS.
Cyrsiau sy’n eich Paratoi ar Gyfer Gyrfa
Dysgwch beth sydd wir ei angen ar gyflogwyr, dan arweiniad academyddion arbenigol. Drwy fynediad at ein cyfleusterau sydd o safon diwydiant, byddwch yn dysgu sgiliau sy’n hanfodol i’ch gyrfa cyn i chi raddio. ewch hefyd gyfoethogi eich astudiaethau drwy gyfleoedd lleoliad gwaith a fydd yn hybu eich gyrfa.
Mae ein cyrsiau arbenigol yn cwmpasu ystod eang o bynciau – Celf a’r Dyniaethau, Busnes, Peirianneg a Chyfrifiadura, Addysg a Gofal Iechyd, a llawer iawn mwy.
Cymorth ar bob cam o’r daith
Cewch y sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen i ddechrau eich busnes eich hun. Ni sy’n 1af yn y DU am fusnesau newydd a ddechreuwyd gan raddedigion sy’n dal i fodoli ar ôl 3 blynedd (HE-BCI-2024). Ymunwch â’n cymuned helaeth o gyn-fyfyrwyr a rhwydweithio gydag entrepreneuriaid eraill ar draws ystod o adrannau.
Cyfleoedd i bawb
Datblygwch sgiliau a gwybodaeth a fydd gyda chi gydol eich oes. Mae dosbarthiadau bach a darlithoedd diddorol yn annog cwestiynau a thrafodaethau, felly byddwch chi’n datblygu gwell dealltwriaeth o’ch dewis bwnc.
Graddiwch yn barod i herio’r byd – gyda gwybodaeth arbenigol i ymuno â’r gweithlu, neu gyda sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl beirniadol sy’n gweddu amrywiaeth o yrfaoedd. Lle bynnag ydych chi mewn bywyd, mae’n bryd troi at eich pennod nesaf.