Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Chwarae Rhan Allweddol yn Nigwyddiad UNESCO-MOST BRIDGES yn Uwchgynhadledd y Dyfodol 2024
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ei rĂ´l ganolog yn y digwyddiad ochr lefel uchel sydd ar ddod, “O Syniad i Weithredu ac Effaith: Sbarduno Canlyniadau Uwchgynhadledd y Dyfodol,” sydd wedi’i ddewis ar gyfer Uwchgynhadledd fawreddog y Dyfodol yn Efrog Newydd 2024.
Mae’r digwyddiad hwn, a drefnwyd gan Glymblaid UNESCO-MOST BRIDGES mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn amlygu ymrwymiad y Brifysgol i feithrin deialog byd-eang a gweithredu cynaliadwy.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 21 Medi 2024 ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, yn dod â chonsortiwm rhyngwladol o sefydliadau academaidd a chymdeithas sifil ynghyd, gyda PCYDDS ar flaen y gad yn ei ddatblygiad. Mae cydweithrediad PCYDDS â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi bod yn allweddol wrth lunio agenda’r digwyddiad, sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo o syniadau i gamau gweithredu effeithiol sy’n mynd i’r afael â heriau mwyaf enbyd y byd.
Ymhlith y siaradwyr mae cynrychiolwyr lefel uchel o Weriniaeth De Affrica a Theyrnas Gwlad Thai, yn ogystal â Ms Gabriela Ramos, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol y Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol, UNESCO, a Mr Derek Walker Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys deialogau gyda’r awdur ffuglen wyddonol enwog Mr Kim Stanley Robinson, awdur The Ministry for the Future (2020) a Dr Mamphela Ramphele, arweinydd yn y mudiad a wrthdroiodd apartheid yn Ne Affrica ac sydd bellach yn Warcheidwad Planedau. Bydd y digwyddiad yn cael ei gymedroli gan Dr Steven Hartman, Cyfarwyddwr Gweithredol Clymblaid BRIDGES, y mae ei rôl wedi’i lleoli ar y cyd yn PCYDDS a Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona yn UDA.
“Rydym yn hynod falch o gyfraniad sylweddol PCYDDS i’r digwyddiad hwn,” meddai Dr Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol, Clymblaid UNESCO-MOST BRIDGES. “Mae ein hymglymiad yn adlewyrchu ymroddiad y Brifysgol i yrru mentrau rhyngwladol yn eu blaenau sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd o gynaliadwyedd, arloesedd a chyfrifoldeb byd-eang.”
Mae’r digwyddiad yn cael ei gymeradwyo gan lywodraethau De Affrica a Theyrnas Gwlad Thai a’i gefnogi gan y Cyngor Rhynglywodraethol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o 35 gwlad ac sy’n rhan o raglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST). Mae partneriaid ychwanegol yn cynnwys Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona, Clwb Rhufain, ac Academi Celf a Gwyddorau’r Byd, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau gweithredu yn dilyn Uwchgynhadledd y Dyfodol.
Bydd Uwchgynhadledd y Dyfodol a’i Ddiwrnodau Gweithredu, a gynhelir rhwng 19 a 25 Medi 2024, yn dod ag arweinwyr byd-eang, llunwyr polisi ac arweinwyr meddwl at ei gilydd i drafod atebion arloesol i heriau byd-eang cyfredol. Bydd mentrau allweddol eraill a arweinir gan gonsortiwm yn cyd-fynd â digwyddiad UNESCO-MOST BRIDGES ar 21 Medi, gan gynnwys Gŵyl School of International Futures’ Building Hopeful Futures ar 19 Medi, a lansiad Learning Planet Youth Design 2024/2025 gan y Learning Planet Institute ar 21 Medi.
Mae rhan PCYDDS yn y digwyddiad proffil uchel hwn yn tanlinellu ei rĂ´l allweddol yn y sgwrs fyd-eang ar ddatblygu cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Brifysgol yn parhau i gefnogi cydweithrediadau rhyngwladol sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar raddfa fyd-eang.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y digwyddiad “O Syniad i Weithredu ac Effaith: Sbarduno Canlyniadau Uwchgynhadledd y Dyfodol”: .
łŰ˛Ô˛µ±ôĹ·˛Ô&˛Ô˛ú˛ő±č;â&˛Ô˛ú˛ő±č;µţ¸é±ő¶ŮłŇ·ˇł§:
Mae yn rhaglen wyddor cynaliadwyedd fyd-eang a drefnir o fewn rhaglen MOST UNESCO, sy’n canolbwyntio ar groestoriad gwybodaeth a pholisi i ysgogi newid cymdeithasol-ecolegol trawsnewidiol ar gyfer cydnerthedd a chymdeithasau cynaliadwy. Mae’n cwmpasu dwsinau o aelod-sefydliadau a sefydliadau ledled y byd ac mae’n cynnwys rhwydweithiau a hybiau cydweithredol sy’n integreiddio safbwyntiau ac arbenigedd amrywiol i fynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd byd-eang.
Am UNESCO MOST:
Mae’r Rhaglen yn rhaglen wyddoniaeth rynglywodraethol o fewn UNESCO sy’n hyrwyddo ymchwil a gwybodaeth gwyddorau cymdeithasol a dynol sy’n berthnasol i bolisi i gyfrannu at lunio polisïau cadarn.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467076