ϳԹ

Skip page header and navigation

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) rydym yn awyddus i gefnogi a dathlu doniau lleol. A dyna’n union yw Talent Tecstilau Abertawe eleni – dathliad o waith myfyrwyr ysgolion a cholegau lleol, a ddewiswyd ac a guradwyd gan y tîm Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe’r Brifysgol.

A colourful dress and waistcoat made by students.

Mae Talent Tecstilau Abertawe yn dod ag athrawon ac arbenigwyr ynghyd i rannu arfer, sgiliau a gwybodaeth ragorol gan arddangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael ar gyfer gyrfaoedd mewn Tecstilau a’r maes Patrymau Arwyneb ehangach. 

Mae’r arddangosfa eleni hefyd yn proffilio casgliad o sgarffiau a argraffwyd yn fewnol gan ddefnyddio cyfleusterau safon uchel y Brifysgol ar gyfer argraffu tecstilau digidol.  Bu llu o ysgolion gwahanol o Loegr yn cymryd rhan yn ‘Her y Sgarff Sgwâr’ yn arddangosfa’r New Designers (ND), gyda’r tîm Patrymau Arwyneb yn cynnal gweithdai gyda dros 120 o ddysgwyr oed ysgol mewn sesiwn ar batrymau a collage dynamig ar safle’r  ffair ddylunio i raddedigion. Yn ogystal, mae’r arddangosfa’n cynnwys dyluniad buddugol trawiadol iawn a noddwyd gan The Silk Bureau, wrth i’r hyn a welsant yn yr arddangosfa wneud cymaint o argraff arnynt nes iddynt argraffu a chynhyrchu’r dyluniad ar gyfer Talent Tecstilau Abertawe. 

Derbyniwyd cyflwyniadau hefyd gan y sefydliadau canlynol yng Nghymru ar gyfer y categorïau Creadigrwydd, Arloesi a Brwdfrydedd o fewn y gystadleuaeth.   

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe 

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt 

Ysgol Uwch St Clare’s, Porthcawl

Ysgol Gyfun Tre-gŵyr 

Coleg Gŵyr, Abertawe 

Ysgol Gyfun Maesteg

Coleg NPTC y Drenewydd 

Ddoe, (Medi 11) cafodd yr arddangosfa sy’n cynnwys Arddangosfa wedi’i churadu o waith gwych myfyrwyr Ysgolion Uwchradd a Cholegau ei hagor yn swyddogol gan roi cyfle i ddysgwyr weld eu gwaith yn cael ei ddyrchafu a’i arddangos mewn amgylchedd Coleg Celf Addysg Uwch. Daeth y digwyddiad i ben gyda Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd gan y beirniad gwadd, Huw Rees o S4C ac a ffilmiwyd gan Tinopolis.

Meddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen, Georgia McKie: “Rydym yn cefnogi pobl greadigol y dyfodol y tu hwnt i’w hystafelloedd dosbarth ac yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr edrych ymlaen os ydynt yn dewis parhau i astudio Tecstilau a Phatrymau Arwyneb yn AU.

“Rydym yn ymroddedig i godi proffil y gwaith gwych y mae ein rhwydweithiau athrawon/ darlithwyr yn ei gyflawni yn eu hystafelloedd dosbarth a’u stiwdios. Mae’n bwysig rhannu’r cyfleoedd gyrfa anhygoel a gynigir i’n graddedigion gyda’u dysgwyr lefel uwchradd – mae cymaint iddynt anelu ato os byddant yn dal ati â’r maes pwnc Tecstilau.   

“Mae llawer mwy i’r maes pwnc hwn nag a welir ar yr wyneb; mae pobl yn cydnabod y perthnasedd o ran ffasiwn a chynllunio mewnol, ond mae ein graddedigion ni ym mhobman – o ddylunio deunydd ysgrifennu i’r tu mewn i foduron ac awyrennau!  Mae hyn oll yn ymwneud â rhannu gwybodaeth, cariad at ddysgu, arfer gorau a straeon gwych ein myfyrwyr ein hunain am lwyddiant.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe: “Rydym yn falch iawn o gynnal Talent Tecstilau Abertawe unwaith eto ac nid yn unig rhannu doniau ein myfyrwyr presennol a blaenorol ond  gwahodd talent newydd i ymuno â ni o ysgolion a cholegau ledled Cymru.

“Daeth BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, yn ail yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2024 allan o 46 yn y DU, ac yn 1af yng Nghymru.  Rydym yn arwain y sector ac rydym am allu rhannu’r wybodaeth a’r profiad hwn i helpu i lywio pobl ifanc ar eu taith greadigol”.

Enillwyr Gwobrau Talent Tecstilau Abertawe 2024

Mae 3 chategori a 3 Gwobr ar gyfer pob categori

CATEGORI: CREADIGRWYDD

Myfyrwyr sy’n dangos rhagoriaeth

  1. Rhagoriaeth mewn syniadaeth a/neu ddatblygu cysyniadau 

Yr enillydd yw:

Courtney Braun Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe 

  1. Rhagoriaeth mewn datblygu delwedd a/neu batrwm 

Yr enillydd yw:

Poppy Harry- Thomas – Ysgol Llandeilo Ferwallt, Abertawe

Tara James – Coleg Gŵyr, Abertawe 

  1. Rhagoriaeth mewn defnyddio a chymhwyso lliw 

Yr enillydd yw:

Annalise Simmons – Ysgol Gyfun Maesteg 

CATEGORI: ARLOESI 

Myfyrwyr sy’n dangos ffordd o feddwl blaengar

  1. Pobl ifanc beiddgar, arfer(ion) cynaliadwy blaengar

 Yr enillydd yw:

Ann Prys-Thomas – Coleg Castell-nedd Port Talbot, Campws y Drenewydd

Blwyddyn 1af L3 UAL Ffasiwn Cynaliadwy

  1. Pobl ifanc beiddgar, ffasiwn a thueddiadau blaengar 

Yr enillydd yw:

Harriet Squire- Shields, Ysgol Uwch St Clare’s Porthcawl

Lefel UG Tecstilau

  1. Pobl ifanc beiddgar, dysgwr STEAM blaengar 

Yr enillydd yw:

Poppy Andrews – Coleg Gŵyr Abertawe

Blwyddyn 1af L3 UAL Celf a Dylunio  

CATEGORI: BRWDFRYDEDD A CHARIAD AT DDYSGU

Myfyrwyr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r ystafell ddosbarth

  1. Am y pellter mwyaf a deithiwyd 

Yr enillydd yw:

Carys Lewis Hopkins – Tre-gŵyr

Safon Uwch Tecstilau

  1. Y cyfoedion mwyaf cefnogol 

Yr enillwyr yw:

Hannah- Leigh Jones  

TGAU

Phoebe Liana Jones 

TGAU

Y ddwy o Ysgol Gyfun Maesteg, sydd yn amlwg wedi gweithio’n agos gyda’i gilydd ac wedi cynhyrchu gwaith sy’n gydweithredol wych!

  1. Dysgwr sy’n debygol o fynd yn bell

Yr enillwyr yw:

Roxy Joshua – Ysgol Gyfun Maesteg 

TGAU

Erin Crossley – Coleg Gŵyr

Godwina Nzomosi – Tre-gŵyr 

Gwobr Huw Rees

Hannah- Leigh Jones – Ysgol Gyfun Maesteg 

TGAU


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon