Grymuso Mentrau Gwledig: PCYDDS yn Arwain Menter Economi Gylchol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae staff Ysgol Fusnes Caerfyrddin o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithio ar brosiect i gryfhau cynaliadwyedd busnesau a’u gwytnwch yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin drwy hyrwyddo arferion economi gylchol.
Mae’r fenter Mae’r prosiect ‘Nodi’r Heriau ar gyfer Gwella Gwytnwch Gwledig drwy’r Economi Gylchol (EG)’ wedi’i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac mae’n ceisio mynd i’r afael â’r angen i symud tuag at economi werdd.
Mae’r economi gylchol yn fodel arloesol o gynhyrchu a defnyddio sy’n cynnwys rhannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu cynnyrch a deunyddiau i’w cadw a’u defnyddio cyhyd â phosibl.
Drwy weithredu’r dull hwn, gall busnesau leihau gwastraff, a thrwy hynny wella cynaliadwyedd a gwydnwch.
Mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n cofleidio dull moesegol, cynaliadwy a phroffidiol i fusnes. Maent yn herio modelau presennol, ac yn galluogi myfyrwyr i archwilio syniadau newydd a thrafod datrysiadau arloesol.
Dywedodd Chrissie Joy, cyn-fyfyriwr o Ysgol Fusnes Caerfyrddin sydd bellach yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil ar y prosiect:
“Roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi gymryd rhan yn y prosiect. Roedd yr economi gylchol a chynaliadwyedd yn feysydd ffocws allweddol yn ystod fy ngradd BA ac rwyf yn hynod angerddol amdanynt. Rwy’n gyffrous i gyfrannu a mireinio fy sgiliau blaenorol o reoli prosiectau a’m brwdfrydedd dros rwydweithio. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ag eraill sydd yr un mor ymroddedig i ysgogi newid cadarnhaol yn ein rhanbarth.”
Mae’r prosiect yn cyd-fynd â rhaglen Llywodraeth Cymru ‘Tu Hwnt i Ailgylchu: Strategaeth i wneud yr Economi Gylchol yng Nghymru yn Realiti’ (2021) sy’n cydnabod yr heriau sy’n gynhenid i’r trawsnewidiad hwn.
Bydd yn nodi’r heriau y mae mentrau gwledig yn eu hwynebu wrth fabwysiadu modelau economi gylchol. Drwy nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, mae’n gobeithio datgloi atebion cydweithredol, gan alluogi busnesau, rhanddeiliaid a chymunedau i symud ymlaen gyda’i gilydd.
Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio canfyddiadau holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda mentrau gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin i nodi’r rhwystrau a’r heriau i fusnesau gwledig sy’n dymuno bod yn fwy cylchol, gyda’r nod o gydweithio i adeiladu economi gylchol wledig yn Sir Gâr gan gynnwys mentrau, rhanddeiliaid a chymunedau.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y prosiect a’r economi gylchol yn gyffredinol, cynhelir digwyddiad lledaenu gwybodaeth ar ddydd Mawrth, Medi’r 17eg rhwng 10am i 2.00pm, yng Nghanolfan Carwyn Drefach.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys trosolwg o ganfyddiadau’r prosiect, siaradwyr gwadd o ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ymwneud â’r economi gylchol, a chyfleoedd i rwydweithio a thrafod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: cbs@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476