Dod ag addysg i'r awyr agored gyda dysgu Ysgol Goedwig
Ar Ddiwrnod Athrawon y Byd (5ed Hydref), rydym yn dathlu un o’n graddedigion a myfyrwraig bresennol, Maria D’Angelo, addysgwraig ac entrepreneur ysbrydoledig sy’n ailddiffinio dysgu trwy ei menter awyr agored, .
Mae ysgol goedwig Maria, sydd wedi’i lleoli ym Mrynaman, Rhydaman, yn mynd â phlant o bob oed allan o leoliadau ystafell ddosbarth confensiynol ac yn eu trochi yn rhyfeddodau natur, gan ddarparu dull unigryw o ddysgu.
Ar hyn o bryd yn dilyn cwrs TAR mewn Addysg Gynradd yn Y Drindod Dewi Sant, mae Maria yn dod â chyfoeth o brofiad ac angerdd i’w haddysgu. Gan dynnu ar ei gradd israddedig mewn BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, mae Maria’n credu bod plant yn ffynnu pan fyddant yn rhydd i archwilio, chwarae a dysgu mewn lleoliad naturiol.
Meddai Maria:
“Yn Ffrindiau’r Goedwig, mae plant yn rhydd i archwilio, dysgu a thyfu mewn ffyrdd sy’n meithrin eu datblygiad academaidd a’u cysylltiad â’r amgylchedd, gan feithrin creadigrwydd, gwydnwch, sgiliau cymdeithasol a hyder.â€
Mae taith Maria yn addysgwr wedi ei llunio’n sylweddol gan ei hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant.
Trwy fodwl Entrepreneuriaeth bu’n ei astudio ynrhan o’i chwrs, enillodd yr hyder a’r sgiliau oedd eu hangen i lansio ei busnes. Ysbrydolodd y cwrs, a gynlluniwyd i archwilio cyfleoedd busnes yn sector addysg y blynyddoedd cynnar, Maria i ddilyn ei gweledigaeth o greu amgylchedd dysgu amgen.
Meddai Maria:
“Mae’r cymorth ges i gan y Brifysgol wedi bod yn allweddol yn fy nhaith academaidd ac entrepreneuraidd.
“Mae’r dull ymarferol, byd go iawn o ddysgu, ynghyd â’r gymuned glos ar gampws Caerfyrddin, wedi rhoi sylfaen gref i mi ddilyn fy TAR a pharhau i dyfu fy musnes.â€
Yn rhan o’i hastudiaethau, cwblhaodd Maria Wobr John Muir hefyd, gwrs ardystiedig sy’n canolbwyntio ar ddysgu awyr agored a chynaliadwyedd. Dwyshaodd hyn ei dealltwriaeth o rôl y byd naturiol mewn addysg a’i hysbrydoli i ymgorffori ymdrechion cadwraeth yn ei chwricwlwm ysgol goedwig lle mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis adeiladu gwestai pryfetach a chreu bwydwyr adar i wella bioamrywiaeth.
Cwblhaodd Maria y rhaglen BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wrth weithio’n amser llawn yn gynorthwyydd addysgu. Mae’r cwrs, a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector, yn cael ei ddarparu gyda’r nos dros ddwy flynedd, gan ganiatáu iddi gydbwyso ei hastudiaethau â’i gyrfa.
Nawr, wrth astudio ar gyfer ei chwrs TAR yn llawn amser, mae’n cydbwyso rhedeg ei busnes ysgol goedwig ar benwythnosau a gwyliau ysgol gan hefyd rhedeg gwersi bob hyn a hyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae hi’n gwneud hyn i gyd wrth iddi hefyd fagu teulu, sy’n dangos ei hymroddiad, ei dyfalbarhad a’i hymrwymiad eithriadol i’w thwf personol a phroffesiynol.
Gweler oriel luniau o isod.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996