PCYDDS i roi llwyfan i gystadleuaeth Lletygarwch flaenllaw yn Abertawe
Bydd cystadleuaeth Lletygarwch flaenllaw i gogyddion, gweinyddion a chymysgwyr coctels ifanc yn dychwelyd i Gymru ar y penwythnos (8 a 9 Medi) i ddatgelu doniau gorau’r wlad.
Mae cystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc Cymysgwr Coctels Ifanc y Byd (YYY) yn agored i gogyddion, gweinyddion a chymysgwyr coctels o unrhyw sefydliad lletygarwch sy’n 28 oed neu’n iau ac sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.
Bydd rownd ranbarthol Cymru, a gynhelir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Abertawe, yn darganfod y cogydd ifanc, y gweinydd ifanc a’r cymysgwr coctels ifanc gorau yng Nghymru, a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu fel tîm ym mhencampwriaeth y byd a gynhelir yn Singapore yn yr hydref am y cyfle i ennill $15,000.
Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd y cyrsiau Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth yn y Drindod Dewi Sant, ac arweinydd cystadleuaeth Cymru ar ran YYY: “Rwyf wrth fy modd bod y Drindod Dewi Sant unwaith eto’n dod â’r gystadleuaeth arobryn hon i Gymru, a’n bod ni’n gallu hyrwyddo’r holl ddoniau ifanc gwych yn y maes lletygarwch yng Nghymru, gan roi’r cyfle iddyn nhw gystadlu ar lwyfan y byd.
“Mae’r beirniaid eleni’n grŵp hynod dalentog o ddylanwadwyr y diwydiant, sydd eisoes yn ysbrydoliaeth i lawer o weithwyr proffesiynol ifanc lletygarwch yng Nghymru. Bydd cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rowndiau rhanbarthol yn derbyn adborth personol gan y beirniaid hyn gydol y diwrnod, sy’n amhrisiadwy ar gyfer eu datblygiad.”
Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth blaenllaw ochr yn ochr â rhoi llwyfan i gystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc y Byd. Mae modd dilyn y cyrsiau hyn sydd â ffocws ar y diwydiant ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol , Lletygarwch a Rheoli Gwestai a Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol , gydag opsiynau am ddysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell, ac astudio amser llawn neu ran-amser.
Cynhelir cystadleuaeth ranbarthol Cymru yng Nghanolfan Dylan Thomas y Brifysgol ac yn stadiwm Swansea.com yng ngogledd-ddwyrain y ddinas.
Ar y diwrnod cyntaf cynigir gweithdai ac anerchiadau addysgol i’r ymgeiswyr, gyda gweithgarwch y gystadleuaeth yn dilyn, gan orffen mewn cinio a weinir i’r beirniaid ar yr ail ddiwrnod, a seremoni wobrwyo fawreddog gyda’r nos.
Eleni mae’r gystadleuaeth wedi tynnu sylw gan rai o weithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw’r wlad ym maes Lletygarwch, a fydd, yn ogystal â beirniadu, yn cynnig cyngor ac arbenigedd i gystadleuwyr, a gaiff fudd o’r mentora proffesiynol hwn a rhwydwaith newydd o gymheiriaid.
Y beirniaid eleni i’r cogyddion yw Hywel Griffith – Beach House Oxwich, Tom Barnes o Skof Manceinion, Martyn Guest o Glwb Pêl-droed Swansea City a Kevin Hodson o PCYDDS.
Beirniaid categori’r gweinydd yw Lola Villard-Coles PCYDDS, Christophe Stocker Coleg Sir Benfro, Richard Littleton Coleg Caerdydd a’r Fro, a Huw Morgan Coleg Ceredigion.
Y beirniaid Cymysgu Coctels yw Paul Robinson Prif Swyddog Creadigol Neft Vodka, James Thomas Compass Cymru/Levy, Louis Jones Prif Gymysgwr Coctels Altitude 28, a Josh Brown Prif Ddistyllwr Hensol Gin.
Ychwanegodd Dr Griffith-Parry: “Mae hwn yn gyfle rhagorol i weithwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru symud eu gyrfaoedd ymlaen ac arddangos eu sgiliau i weithwyr proffesiynol tai bwyta blaenllaw’r wlad. Llynedd, enillwyr cystadleuaeth ranbarthol Cymru, sef Sam Everton o Goleg Ceredigion a Carys Webster o’r Grove, Arberth, oedd cynrychiolwyr Cymru ym mhencampwriaeth y byd ym Monaco gan ddod yn gydradd drydydd.”
Mae’r canlynol yn rownd derfynol y gystadleuaeth eleni:
Cymysgwr Coctels Ifanc y Flwyddyn Cymru
James Borley o The Dead Canary, Caerdydd
Ellen Budd o Penny, Caerdydd
Valentin Kanev o Zerodegrees, Caerdydd
Gabriel Watkins o Golf Fang, Caerdydd
Cogydd Ifanc y Flwyddyn Cymru
Dalton Weir o The Toad, Bae Colwyn, gogledd Cymru
Jordan Newton o The Beach House, Oxwich, Abertawe
Rob Griffiths o Westy Penmaenuchaf, Dolgellau, Gwynedd
Alex Dunham o The Whitebrook, Trefynwy
Gweinydd Ifanc y Flwyddyn Cymru
Jack Williams o Westy Penmaenuchaf, Dolgellau, Gwynedd
Luke Merry o The Grove, Arberth
Enes Hatipoglu o The Celtic Collection, Casnewydd
Silvio Lisciandrelli o The Beach House, Oxwich, Abertawe
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071