Prosiect PACE Cymru PCYDDS yn rhoi hwb i BBaChau Cymru drwy dechnoleg
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn arwain prosiect PACE Cymru, partneriaeth gydweithredol a luniwyd i gefnogi busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, a Cheredigion i fabwysiadu offer technolegol o’r radd flaenaf i wella cystadleurwydd a chynhyrchiant.
Dengys astudiaethau diweddar mai 30% yn unig o fusnesau bach yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu offer digidol, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 50%. Mae’r oedi digidol hwn yn effeithio ar gystadleurwydd a thwf, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mentrau megis PACE Cymru ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol.
Gan ddechrau’r mis yma (Medi), mae PACE Cymru yn cynnal Clinigau Digidol rhad ac am ddim gyda’r nod o gyflwyno busnesau i dechnolegau a fydd yn cynnwys y canlynol:
- Sut i greu a defnyddio gefeilliaid digidol i wella cynnyrch a chynhyrchiant
- Defnyddio realiti estynedig ar gyfer hyfforddiant trochol neu lawlyfrau cynnal a chadw, cynefino staff ac ati.
- Defnyddio realiti rhithwir yn offeryn gwerthu a marchnata
- Integreiddio system ERP i mewn i fusnesau i awtomeiddio swyddogaethau’n cynnwys cyfrifyddu, gweithgynhyrchu, cadwyni cyflenwi, rheoli cwsmeriaid, a chynllunio
- Argraffu 3D a phrototeipio ar gyfer profi cysyniad, darnau cymhleth, ac amser llai i farchnata
- Seiberddiogelwch – diogelu Eiddo Deallusol ac asedau
- Systemau gosod dyfrnodau ac olrhain i sicrhau dilysrwydd a chydymffurfiaeth cynnyrch
Arweinir y clinigau hyn gan staff yn PCYDDS ochr yn ochr â hyrwyddwyr sector o ddiwydiant Cymru megis Ray D’Arcy o Waffls Tregroes a Laurence Wood o Repsar.
Byddant yn darparu mewnwelediad ymarferol a chyngor ynghylch eu sectorau i sicrhau bod y prosiect yn berthnasol ac yn bodloni anghenion go iawn y busnesau.
Meddai Ray D’Arcy, Rheolwr Gyfarwyddwr Waffls Tregroes: “Gall awtomeiddio a thechnolegau uwch arwain at welliannau sylweddol o ran effeithlonrwydd a chynhyrchiant.
“Gall busnesau sy’n gweithredu atebion digidol weld cynnydd o hyd at 15% mewn cynhyrchiant a lleihad o 10% mewn gwastraff. Rwy’n teimlo’n hynod o bositif ynghylch gweithio gyda thîm PCYDDS ar PACE Cymru. Mae’n rhoi cyffro mawr i ni feddwl beth gallwn ni ei roi i’r sector bwyd a diod yng Nghymru.”
Meddai Richard Morgan, Deon Cynorthwyol (Arloesi ac Ymgysylltu) yn PCYDDS: “Mae PACE Cymru yn cefnogi BBaChau i lywio’u ffordd drwy dechnolegau newydd. Hefyd mae’n agor cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil ac israddedigion PCYDDS weithio ar brosiectau a gaiff effaith economaidd go iawn yng Nghymru. Mae’r cydweithio hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng diwydiant a’r byd academaidd, gan yrru datblygiadau ystyrlon a chynaliadwy yn eu blaen.”
Mae PACE Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o sectorau yn yr ardaloedd hyn:
- Ceredigion: Adeiladu, Bwyd a Diod
- Castell-nedd Port Talbot: Gweithgynhyrchu, yr Amgylchedd Adeiledig, Ynni Adnewyddadwy, Lletygarwch a Thwristiaeth, Bwyd a Diod, Diwydiannau Creadigol
- Sir Benfro: Gweithgynhyrchu, yr Amgylchedd Adeiledig, Lletygarwch a Thwristiaeth, Bwyd a Diod, Ynni Adnewyddadwy, Diwydiannau Creadigol
Meddai Laurence Wood o Repsar, hyrwyddwr y sector ynni adnewyddadwy: “Fel hyrwyddwr sector gyda PACE Cymru, byddaf yn helpu gyda digwyddiadau clinigau digidol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro lle gall cwmnïau eistedd gyda staff a phartneriaid PCYDDS i gael cyngor digidol penodol. Byddwn yn dynodi cwmnïau a fydd yn cael y budd mwyaf o hyn. Mae gan PCYDDS hanes hir o gyflawni wrth gydweithio â diwydiant i gyflwyno newid ystyrlon a chynaliadwy.”
Mae PACE Cymru yn adeiladu ar effaith sylweddol prosiectau eraill yn ymwneud â diwydiant yn PCYDDS megis MADE Cymru a Chyflymydd Digidol SMART, gan ddangos ymhellach ymrwymiad PCYDDS i yrru cynnydd technolegol a thwf economaidd yng Nghymru.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Clinigau Digidol
Ceredigion
17 Medi: Yr Amgylchedd Adeiledig (8am-11:30am) yn Y Man a’r Lle
17 Hydref: Bwyd a Diod (10am-12pm a 2pm – 4pm) Canolfan Bwyd Cymru
Castell-nedd Port Talbot
25 Medi: Gweithgynhyrchu (10am-12pm) ac Ynni Adnewyddadwy (2pm-4pm) yn Rototherm
24 Hydref: Bwyd a Diod (10am-12pm) a Lletygarwch (2pm-4pm) Canolfan Dechnoleg y Bae
Sir Benfro
11 Hydref: Bwyd a Diod (10am-12pm) a Lletygarwch (2pm-4pm) Fferm Folly
Os hoffech ddarganfod sut gall technoleg gefnogi eich busnes, ymunwch â Chlinigau Digidol rhanbarthol PACE Cymru ym mis Medi a Hydref. Cysylltwch â MADE@uwtsd.ac.uk . Cyllidwyd gan Lywodraeth y DU, mae bod yn bresennol yn rhad ac am ddim.
Cyllidir PACE Cymru gan Lywodraeth y DU, ac mae mewn partneriaeth â Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071